1462ke Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia Website. Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en gal·lès de l’any 1620. Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620 Holy Bible in Welsh. Online Edition.

http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_colosiaid_51_1462ke.htm


0001 Yr Hafan / Home Page
or via Google: #kimkat0001

..........
2659e Y Fynedfa yn Saesneg / Gateway in English to this website
          or via Google: #kimkat2659e

....................0010e Y Gwegynllun yn Saesneg / Siteplan in English
                    or via Google: #kimkat0010e

...........................................0977e Y Gyfeirdalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon) / Welsh texts on this website - contents page  
                                           or via Google: #kimkat0977e

...................................................................1284e Y Gyfeirddalen i Feibl Wiliam Morgan 1620 / Wiliam Morgan’s 1620 Bible - Index Page
                                                                   or via Google: #kimkat1284e

............................................................................................y tudalen hwn
/ this page

 


..

 

 

 

0860k y llyfr ymwelwyr

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les

The Wales-Catalonia Website
 
 

Cywaith Siôn Prys - Testunau Cymraeg ar y We

 

 

Y Beibl Cysegr-lân:
(51) Epistol Paul yr Apostol at y Colosiaid (yn Gymraeg ac yn Saesneg)

 

The Holy Bible:
(51) The Epistle
of Paul the Apostle to the Colossians (in Welsh and English)


 

(delw 7271)

 


 
1461k Y tudalen hwn yn Gymraeg yn unig

 



PENNOD 1

1:1 Paul, apostol Iesu Grist trwy ewyllys Duw, a Thimotheus ein brawd,
1:1 Paul, an apostle of Jesus Christ by the will of God, and Timotheus our brother,

1:2 At y saint a’r ffyddlon frodyr yng Nghrist y rhai sydd yng Ngholosa: Gras i chwi, a thangnefedd, oddi wrth Dduw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist.
1:2 To the saints and faithful brethren in Christ which are at Colosse: Grace be unto you, and peace, from God our Father and the Lord Jesus Christ.

1:3 Yr ydym yn diolch i Dduw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, gan weddio drosoch chwi yn wastadol,
1:3 We give thanks to God and the Father of our Lord Jesus Christ, praying always for you,

1:4 Er pan glywsom am eich ffydd yng Nghrist Iesu, ac am y cariad sydd gennych tuag at yr holl saint;
1:4 Since we heard of your faith in Christ Jesus, and of the love which ye have to all the saints,

1:5 Er mwyn y gobaith a roddwyd i gadw i chwi yn y nefoedd, am yr hon y clywsoch o’r blaen yng ngair gwirionedd yr efengyl:
1:5 For the hope which is laid up for you in heaven, whereof ye heard before in the word of the truth of the gospel;

1:6 Yr hon sydd wedi dyfod atoch chwi, megis ag y mae yn yr holl fyd; ac sydd yn dwyn ffrwyth, megis ag yn eich plith chwithau, er y dydd y clywsoch, ac y gwybuoch ras Duw mewn gwirionedd:
1:6 Which is come unto you, as it is in all the world; and bringeth forth fruit, as it doth also in you, since the day ye heard of it, and knew the grace of God in truth:

1:7 Megis ag y dysgasoch gan Epaffras ein hannwyl gyd-was, yr hwn sydd drosoch chwi yn ffyddlon weinidog i Grist;
1:7 As ye also learned of Epaphras our dear fellowservant, who is for you a faithful minister of Christ;

1:8 Yr hwn hefyd a amlygodd i ni eich cariad chwi yn yr Ysbryd.
1:8 Who also declared unto us your love in the Spirit.

1:9 Oherwydd hyn ninnau hefyd, er y dydd y clywsom, nid ydym yn peidio â gweddïo drosoch, a deisyf eich cyflawni chwi a gwybodaeth ei ewyllys ef ym mhob doethineb a deall ysbrydol;
1:9 For this cause we also, since the day we heard it, do not cease to pray for you, and to desire that ye might be filled with the knowledge of his will in all wisdom and spiritual understanding;

1:10 Fel y rhodioch yn addas i’r Arglwydd i bob rhyngu bodd, gan ddwyn ffrwyth ym mhob gweithred dda, a chynyddu yng ngwybodaeth am Dduw;
1:10 That ye might walk worthy of the Lord unto all pleasing, being fruitful in every good work, and increasing in the knowledge of God;

1:11 Wedi eich nerthu â phob nerth yn ôl ei gadernid gogoneddus ef, i bob dioddefgarwch a hirymaros gyda llawenydd;
1:11 Strengthened with all might, according to his glorious power, unto all patience and longsuffering with joyfulness;

1:12 Gan ddiolch i’r Tad, yr hwn a’n gwnaeth ni yn gymwys i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni:
1:12 Giving thanks unto the Father, which hath made us meet to be partakers of the inheritance of the saints in light:

1:13 Yr hwn a’n gwaredodd ni allan o feddiant y tywyllwch, ac a’n symudodd i deyrnas ei annwyl Fab:
1:13 Who hath delivered us from the power of darkness, and hath translated us into the kingdom of his dear Son:

1:14 Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau:
1:14 In whom we have redemption through his blood, even the forgiveness of sins:

1:15 Yr hwn yw delw y Duw anweledig, cyntaf-anedig pob creadur:
1:15 Who is the image of the invisible God, the firstborn of every creature:

1:16 Canys trwyddo ef y crewyd pob dim a’r sydd yn y nefoedd, ac sydd ar y ddaear, yn weledig ac yn anweledig, pa un bynnag ai thronau, ai arglwyddiaethau, ai tywysogaethau, ai meddiannau; pob dim a grewyd trwyddo ef, ac erddo ef.
1:16 For by him were all things created, that are in heaven, and that are in earth, visible and invisible, whether they be thrones, or dominions, or principalities, or powers: all things were created by him, and for him:

1:17 Ac y mae efe cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll.
1:17 And he is before all things, and by him all things consist.

1:18 Ac efe yw pen corff yr eglwys; efe, yr hwn yw’r dechreuad, y cyntaf-anedig oddi wrth y meirw; fel y byddai efe yn blaenori ym mhob peth.
1:18 And he is the head of the body, the church: who is the beginning, the firstborn from the dead; that in all things he might have the preeminence.

1:19 Oblegid rhyngodd bodd i’r Tad drigo o bob cyflawnder ynddo ef;
1:19 For it pleased the Father that in him should all fulness dwell;

1:20 Ac, wedi iddo wneuthur heddwch trwy waed ei groes ef, trwyddo ef gymodi pob peth ag ef ei hun; trwyddo ef, meddaf, pa un bynnag ai pethau ar y ddaear, ai pethau yn y nefoedd.
1:20 And, having made peace through the blood of his cross, by him to reconcile all things unto himself; by him, I say, whether they be things in earth, or things in heaven.

1:21 A chwithau, y rhai oeddech ddieithriaid, a gelynion mewn meddwl trwy weithredoedd drwg, yr awr hon hefyd a gymododd efe,
1:21 And you, that were sometime alienated and enemies in your mind by wicked works, yet now hath he reconciled

1:22 Yng nghorff ei gnawd ef trwy farwolaeth, i’ch cyflwyno chwi yn sanctaidd, ac yn ddifeius, ac yn ddiargyhoedd, ger ei fron ef:
1:22 In the body of his flesh through death, to present you holy and unblameable and unreproveable in his sight:

1:23 Os ydych yn parhau yn y ffydd, wedi eich seilio a’ch sicrhau, ac heb eich symud oddi wrth obaith yr efengyl, yr hon a glywsoch, ac a bregethwyd ymysg pob creadur a’r sydd dan y nef; i’r hon y’m gwnaethpwyd i Paul yn weinidog:
1:23 If ye continue in the faith grounded and settled, and be not moved away from the hope of the gospel, which ye have heard, and which was preached to every creature which is under heaven; whereof I Paul am made a minister;

1:24 Yr hwn ydwyf yn awr yn llawenychu yn fy nioddefiadau drosoch, ac yn cyflawni’r hyn sydd yn ôl o gystuddiau Crist yn fy nghnawd i, er mwyn ei gorff ef, yr hwn yw’r eglwys:
1:24 Who now rejoice in my sufferings for you, and fill up that which is behind of the afflictions of Christ in my flesh for his body’s sake, which is the church:

1:25 I’r hon y’m gwnaethpwyd i yn weinidog, yn ôl goruchwyliaeth Duw, yr hon a roddwyd i mi tuag atoch chwi, i gyflawni gair Duw;
1:25 Whereof I am made a minister, according to the dispensation of God which is given to me for you, to fulfil the word of God;

1:26 Sef y dirgelwch oedd guddiedig er oesoedd ac er cenedlaethau, ond yr awr hon a eglurwyd i’w saint ef:
1:26 Even the mystery which hath been hid from ages and from generations, but now is made manifest to his saints:

1:27 I’r rhai yr ewyllysiodd Duw hysbysu beth yw golud gogoniant y dirgelwch hwn ymhlith y Cenhedloedd; yr hwn yw Crist ynoch chwi, gobaith y gogoniant:
1:27 To whom God would make known what is the riches of the glory of this mystery among the Gentiles; which is Christ in you, the hope of glory:

1:28 Yr hwn yr ydym ni yn ei bregethu, gan rybuddio pob dyn, a dysgu pob dyn ym mhob doethineb; fel y cyflwynom bob dyn yn berffaith yng Nghrist Iesu:
1:28 Whom we preach, warning every man, and teaching every man in all wisdom; that we may present every man perfect in Christ Jesus:

1:29 Am yr hyn yr ydwyf hefyd yn llafurio, gan ymdrechu yn ôl ei weithrediad ef, yr hwn sydd yn gweithio ynof fi yn nerthol.
1:29 Whereunto I also labour, striving according to his working, which worketh in me mightily.

PENNOD 2

2:1  Canys mi a ewyllysiwn i chwi wybod pa faint o ymdrech sydd arnaf er eich mwyn chwi, a’r rhai yn Laodicea, a chynifer ag ni welsant fy wyneb i yn y cnawd;
2:1 For I would that ye knew what great conflict I have for you, and for them at Laodicea, and for as many as have not seen my face in the flesh;

2:2 Fel y cysurid eu calonnau hwy, wedi eu cydgysylitu mewn cariad, ac i bob golud sicrwydd deall, i gydnabyddiaeth dirgelwch Duw, a’r Tad, a Christ;
2:2 That their hearts might be comforted, being knit together in love, and unto all riches of the full assurance of understanding, to the acknowledgment of the mystery of God, and of the Father, and of Christ;

2:3 Yn yr hwn y mae holl drysorau doethineb a gwybodaeth yn guddiedig.
2:3 In whom are hid all the treasures of wisdom and knowledge.

2:4 A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, fel na thwyllo neb chwi ag ymadrodd hygoel.
2:4 And this I say, lest any man should beguile you with enticing words.

2:5 Canys er fy mod i yn absennol yn y cnawd, er hynny yr ydwyf gyda chwi yn yr ysbryd, yn llawenychu, ac yn gweled eich trefn chwi, a chadernid eich ffydd yng Nghrist.
2:5 For though I be absent in the flesh, yet am I with you in the spirit, joying and beholding your order, and the stedfastness of your faith in Christ.

2:6 Megis gan hynny y derbyniasoch Grist Iesu yr Arglwydd, felly rhodioch ynddo;
2:6 As ye have therefore received Christ Jesus the Lord, so walk ye in him:

2:7 Wedi eich gwreiddio a’ch adeiladu ynddo ef, a’ch cadarnhau yn y ffydd, megis y’ch dysgwyd, gan gynyddu ynddi mewn diolchgarwch.
2:7 Rooted and built up in him, and stablished in the faith, as ye have been taught, abounding therein with thanksgiving.

2:8 Edrychwch na bo neb yn eich anrheithio trwy philosophi a gwag dwyll, yn ôl traddodiad dynion, yn ôl egwyddorion y byd, ac nid yn ôl Crist.
2:8 Beware lest any man spoil you through philosophy and vain deceit, after the tradition of men, after the rudiments of the world, and not after Christ.

2:9 Oblegid ynddo ef y mae holl gyflawnder y Duwdod yn preswylio yn gorfforol.
2:9 For in him dwelleth all the fulness of the Godhead bodily.

2:10 Ac yr ydych chwi wedi eich cyflawni ynddo ef, yr hwn yw pen pob tywysogaeth ac awdurdod:
2:10 And ye are complete in him, which is the head of all principality and power:

2:11 Yn yr hwn hefyd y’ch enwaedwyd ag enwaediad nid o waith llaw, trwy ddiosg corff pechodau’r cnawd, yn enwaediad Crist:
2:11 In whom also ye are circumcised with the circumcision made without hands, in putting off the body of the sins of the flesh by the circumcision of Christ:

2:12 Wedi eich cydgladdu ag ef yn y bedydd, yn yr hwn hefyd y’ch cydgyfodwyd trwy ffydd gweithrediad Duw yr hwn a’i cyfododd ef o feirw.
2:12 Buried with him in baptism, wherein also ye are risen with him through the faith of the operation of God, who hath raised him from the dead.

2:13 A chwithau, pan oeddech yn feirw mewn camweddau, a dienwaediad eich cnawd, a gydfywhaodd efe gydag ef, gan faddau i chwi yr holl gamweddau;
2:13 And you, being dead in your sins and the uncircumcision of your flesh, hath he quickened together with him, having forgiven you all trespasses;

2:14 Gan ddileu ysgrifen-law yr ordeiniadau, yr hon oedd i’n herbyn ni, yr hon oedd yng ngwrthwyneb i ni, ac a’i cymerodd hi oddi ar y ffordd, gan ei hoelio wrth y groes;
2:14 Blotting out the handwriting of ordinances that was against us, which was contrary to us, and took it out of the way, nailing it to his cross;

2:15 Gan ysbeilio’r tywysogaethau a’r awdurdodau, efe a’u harddangosodd hwy ar gyhoedd, gan ymorfoleddu arnynt arni hi.
2:15 And having spoiled principalities and powers, he made a show of them openly, triumphing over them in it.

2:16 Am hynny na farned neb arnoch chwi am fwyd, neu am ddiod, neu o ran dydd gwyl, neu newyddloer, neu Sabothau:
2:16 Let no man therefore judge you in meat, or in drink, or in respect of an holyday, or of the new moon, or of the sabbath days:

2:17 Y rhai ydynt gysgod pethau i ddyfod; ond y corff sydd o Grist.
2:17 Which are a shadow of things to come; but the body is of Christ.

2:18 Na thwylled neb chwi am eich gwobr, wrth ei ewyllys, mewn gostyngeiddrwydd, ac addoliad angylion, gan ruthro i bethau nis gwelodd, wedi ymchwyddo yn ofer gan ei feddwl cnawdol ei hun;
2:18 Let no man beguile you of your reward in a voluntary humility and worshipping of angels, intruding into those things which he hath not seen, vainly puffed up by his fleshly mind,

2:19 Ac heb gyfatal y Pen, o’r hwn y mae’r holl gorff, trwy’r cymalau a’r cysylltiadau, yn derbyn lluniaeth, ac wedi ei gydgysylitu, yn cynyddu gan gynnydd Duw,
2:19 And not holding the Head, from which all the body by joints and bands having nourishment ministered, and knit together, increaseth with the increase of God.

2:20 Am hynny, os ydych wedi marw gyda Christ oddi wrth egwyddorion y byd, paham yr ydych, megis petech yn byw yn y byd, yn ymroi i ordeiniadau,
2:20 Wherefore if ye be dead with Christ from the rudiments of the world, why, as though living in the world, are ye subject to ordinances,

2:21 (Na chyffwrdd; ac nac archwaetha, ac na theimla;
2:21 (Touch not; taste not; handle not;

2:22 Y rhai ydynt oll yn llygredigaeth wrth eu harfer;) yn ôl gorchmynion ac athrawiaethau dynion?
2:22 Which all are to perish with the using;) after the commandments and doctrines of men?

2:23 Yr hyn bethau sydd ganddynt rith doethineb mewn ewyllys-grefydd, a gostyngeiddrwydd, a bod heb arbed y corff, nid mewn bri i ddigoni’r cnawd.
2:23 Which things have indeed a show of wisdom in will worship, and humility, and neglecting of the body; not in any honour to the satisfying of the flesh.

PENNOD 3

3:1 Am hynny os cydgyfodasoch gyda Christ, ceisiwch y pethau sydd uchod, lle mae Crist yn eistedd ar ddeheulaw Duw.
3:1 If ye then be risen with Christ, seek those things which are above, where Christ sitteth on the right hand of God.

3:2 Rhoddwch eich serch ar bethau sydd uchod, nid ar bethau sydd ar y ddaear.
3:2 Set your affection on things above, not on things on the earth.

3:3 Canys meirw ydych, a’ch bywyd a guddiwyd gyda Christ yn Nuw.
3:3 For ye are dead, and your life is hid with Christ in God.

3:4 Pan ymddangoso Crist ein bywyd ni, yna hefyd yr ymddangoswch chwithau gydag ef mewn gogoniant.
3:4 When Christ, who is our life, shall appear, then shall ye also appear with him in glory.

3:5 Marwhewch gan hynny eich aelodau, y rhai sydd ar y ddaear; godineb, aflendid, gwyn, drygchwant, a chybydd-dod, yr hon sydd eilun-addoliaeth:
3:5 Mortify therefore your members which are upon the earth; fornication, uncleanness, inordinate affection, evil concupiscence, and covetousness, which is idolatry:

3:6 O achos yr hyn bethau y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufudd-dod:
3:6 For which things’ sake the wrath of God cometh on the children of disobedience:

3:7 Yn y rhai hefyd y rhodiasoch chwithau gynt, pan oeddech yn byw ynddynt.
3:7 In the which ye also walked some time, when ye lived in them.

3:8 Ond yr awron rhoddwch chwithau ymaith yr holl bethau hyn; dicter, llid, drygioni, cabledd, serthedd, allan o’ch genau.
3:8 But now ye also put off all these; anger, wrath, malice, blasphemy, filthy communication out of your mouth.

3:9 Na ddywedwch gelwydd wrth eich gilydd, gan ddarfod i chwi ddiosg yr hen ddyn ynghyd a’i weithredoedd;
3:9 Lie not one to another, seeing that ye have put off the old man with his deeds;

3:10 A gwisgo’r newydd, yr hwn a adnewyddir mewn gwybodaeth, yn ôl delw yr hwn a’i creodd ef:
3:10 And have put on the new man, which is renewed in knowledge after the image of him that created him:

3:11 Lle nid oes na Groegwr nac Iddew, enwaediad na dienwaediad, Barbariad na Scythiad, caeth na rhydd: ond Crist sydd bob peth, ac ym mhob peth.
3:11 Where there is neither Greek nor Jew, circumcision nor uncircumcision, Barbarian, Scythian, bond nor free: but Christ is all, and in all.

3:12 Am hynny, (megis etholedigion Duw, sanctaidd ac annwyl,) gwisgwch amdanoch ymysgaroedd trugareddau, cymwynasgarwch, gostyngeiddrwydd, addfwynder, ymaros;
3:12 Put on therefore, as the elect of God, holy and beloved, bowels of mercies, kindness, humbleness of mind, meekness, longsuffering;

3:13 Gan gyd-ddwyn â’ch gilydd, a maddau i’ch gilydd, os bydd gan neb gweryl yn erbyn neb: megis ag y maddeuodd Crist i chwi, felly gwnewch chwithau.
3:13 Forbearing one another, and forgiving one another, if any man have a quarrel against any: even as Christ forgave you, so also do ye.

3:14 Ac am ben hyn oll, gwisgwch gariad, yr hwn yw rhwymyn perffeithrwydd.
3:14 And above all these things put on charity, which is the bond of perfectness.

3:15 A llywodraethed tangnefedd Duw yn eich calonnau, i’r hwn hefyd y’ch galwyd yn un corff; a byddwch ddiolchgar.
3:15 And let the peace of God rule in your hearts, to the which also ye are called in one body; and be ye thankful.

3:16 Preswylied gair Crist ynoch yn helaeth ym mhob doethineb; gan ddysgu a rhybuddio bawb eich gilydd mewn salmau, a hymnau, ac odlau ysbrydol, gan ganu trwy ras yn eich calonnau i’r Arglwydd.
3:16 Let the word of Christ dwell in you richly in all wisdom; teaching and admonishing one another in psalms and hymns and spiritual songs, singing with grace in your hearts to the Lord.

3:17 A pha beth bynnag a wneloch, ar air neu ar weithred, gwnewch bob peth yn enw’r Arglwydd Iesu, gan ddiolch i Dduw a’r Tad trwyddo ef.
3:17 And whatsoever ye do in word or deed, do all in the name of the Lord Jesus, giving thanks to God and the Father by him.

3:18 Y gwragedd, ymostyngwch i’ch gwŷr priod, megis y mae yn weddus yn yr Arglwydd.
3:18 Wives, submit yourselves unto your own husbands, as it is fit in the Lord.

3:19 Y gwŷr, cerwch eich gwragedd, ac na fyddwch chwerwon wrthynt.
3:19 Husbands, love your wives, and be not bitter against them.

3:20 Y plant, ufuddhewch i’ch rhieni ym mhob peth: canys hyn sydd yn rhyngu bodd i’r Arglwydd yn dda.
3:20 Children, obey your parents in all things: for this is well pleasing unto the Lord.

3:21 Y tadau, na chyffrowch eich plant, fel na ddigalonnont.
3:21 Fathers, provoke not your children to anger, lest they be discouraged.

3:22 Y gweision, ufuddhewch ym mhob peth i’ch meistriaid yn ôl y cnawd; nid â llygad-wasanaeth, fel bodlonwyr dynion, eithr mewn symlrwydd calon, yn ofni Duw:
3:22 Servants, obey in all things your masters according to the flesh; not with eyeservice, as menpleasers; but in singleness of heart, fearing God:

3:23 A pha beth bynnag a wneloch, gwnewch o’r galon, megis i’r Arglwydd, ac nid i ddynion;
3:23 And whatsoever ye do, do it heartily, as to the Lord, and not unto men;

3:24 Gan wybod mai gan yr Arglwydd y derbyniwch daledigaeth yr etifeddiaeth: canys yr Arglwydd Crist yr ydych yn ei wasanaethu.
3:24 Knowing that of the Lord ye shall receive the reward of the inheritance: for ye serve the Lord Christ.

3:25 Ond yr hwn sydd yn gwneuthur cam, a dderbyn am y cam a wnaeth: ac nid oes derbyn wyneb.
3:25 But he that doeth wrong shall receive for the wrong which he hath done: and there is no respect of persons.

PENNOD 4

4:1 Y Meistriaid, gwnewch i’ch gweision yr hyn sydd gyfiawn ac union; gan wybod fod i chwithau Feistr yn y nefoedd.
4:1 Masters, give unto your servants that which is just and equal; knowing that ye also have a Master in heaven.

4:2 Parhewch mewn gweddi, gan wylied ynddi gyda diolchgarwch;
4:2 Continue in prayer, and watch in the same with thanksgiving;

4:3 Gan weddio hefyd drosom ninnau, ar i Dduw agori i ni ddrws ymadrodd, i adrodd dirgelwch Crist, am yr hwn yr ydwyf hefyd mewn rhwymau:
4:3 Withal praying also for us, that God would open unto us a door of utterance, to speak the mystery of Christ, for which I am also in bonds:

4:4 Fel yr eglurhawyf ef, megis y mae yn rhaid i mi ei draethu.
4:4 That I may make it manifest, as I ought to speak.

4:5 Rhodiwch mewn doethineb tuag at y rhai sydd allan, gan brynu’r amser.
4:5 Walk in wisdom toward them that are without, redeeming the time.

4:6 Bydded eich ymadrodd bob amser yn rasol, wedi ei dymheru â halen, fel y gwypoch pa fodd y mae yn rhaid i chwi ateb i bob dyn.
4:6 Let your speech be alway with grace, seasoned with salt, that ye may know how ye ought to answer every man.

4:7 Fy holl helynt i a fynega Tychicus i chwi, y brawd annwyl, a’r gweinidog ffyddlon, a’r cyd-was yn yr Arglwydd:
4:7 All my state shall Tychicus declare unto you, who is a beloved brother, and a faithful minister and fellowservant in the Lord:

4:8 Yr hwn a ddanfonais atoch er mwyn hyn, fel y gwybyddai eich helynt chwi, ac y diddanai eich calonnau chwi;
4:8 Whom I have sent unto you for the same purpose, that he might know your estate, and comfort your hearts;

4:9 Gydag Onesimus, y ffyddlon a’r annwyl frawd, yr hwn sydd ohonoch chwi. Hwy a hysbysant i chwi bob peth a wneir yma.
4:9 With Onesimus, a faithful and beloved brother, who is one of you. They shall make known unto you all things which are done here.

4:10 Y mae Aristarchus, fy nghyd-garcharor, yn eich annerch; a Marc, nai Barnabas fab ei chwaer, (am yr hwn y derbyniasoch orchmynion: os daw efe atoch, derbyniwch ef;)
4:10 Aristarchus my fellowprisoner saluteth you, and Marcus, sister’s son to Barnabas, (touching whom ye received commandments: if he come unto you, receive him;)

4:11 A Jesus, yr hwn a elwir Jwstus, y rhai ydynt o’r enwaediad. Y rhai hyn yn unig yw fy nghyd-weithwyr i deyrnas Dduw, y rhai a fuant yn gysur i mi.
4:11 And Jesus, which is called Justus, who are of the circumcision. These only are my fellowworkers unto the kingdom of God, which have been a comfort unto me.

4:12 Y mae Epaffras, yr hwn sydd ohonoch, gwas Crist, yn eich annerch, gan ymdrechu yn wastadol drosoch mewn gweddiau, ar i chwi sefyll yn berffaith ac yn gyflawn yng nghwbl o ewyllys Duw.
4:12 Epaphras, who is one of you, a servant of Christ, saluteth you, always labouring fervently for you in prayers, that ye may stand perfect and complete in all the will of God.

4:13 Canys yr ydwyf yn dyst iddo, fod ganddo sêl mawr trosoch chwi, a’r rhai o Laodicea, a’r rhai o Hierapolis.
4:13 For I bear him record, that he hath a great zeal for you, and them that are in Laodicea and them in Hierapolis.

4:14 Y mae Luc y ffisigwr annwyl, a Demas, yn eich annerch.
4:14 Luke, the beloved physician, and Demas, greet you.

4:15 Anerchwch y brodyr sydd yn Laodicea, a Nymffas, a’r eglwys sydd yn ei dŷ ef.
4:15 Salute the brethren which are in Laodicea, and Nymphas, and the church which is in his house.

4:16 Ac wedi darllen yr epistol hwn gyda chwi, perwch ei ddarllen hefyd yn eglwys y Laodiceaid: a darllen ohonoch chwithau yr un o Laodicea.
4:16 And when this epistle is read among you, cause that it be read also in the church of the Laodiceans; and that ye likewise read the epistle from Laodicea.

4:17 A dywedwch wrth Archipus, Edrych at y weinidogaeth a dderbyniaist yn yr Arglwydd, ar i ti ei chyflawni hi. 
4:17 And say to Archippus, Take heed to the ministry which thou hast received in the Lord, that thou fulfil it.

4:18 Yr annerch â’m llaw i Paul fy hun. Cofiwch fy rhwymau. Gras fyddo gyda chwi. Amen.
4:18 The salutation by the hand of me Paul. Remember my bonds. Grace be with you. Amen.

At y Colosiaid yr ysgrifennwyd o Rufain, gyda Thychicus ac Onesimus.

Written from Rome to the Colossians Tychicus and Onesimus.

 

DIWEDD – END
__________________________________________________________________

Adolygiadau diweddaraf:  02 02 2003, 2006-09-04

 

DOLENNAU Â THUDALENNAU ERAILL YN Y GWEFAN HWN 

1818e
Geiriadur Cymraeg-Saesneg yn y gwefan hwn
Welsh-English dictionary in this website
·····
kimkat0005k (trwy Google / via Google)
ABC - mynegai yn nhrefn y wÿddor i’r hÿn a geir yn y gwefan
ABC – index to the website

 

Sumbolau arbennig: ŷŵ

Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA
 



 

 

Edrychwch ar fy ystadegau / View My Stats