Y
Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. The 1620 Holy
Bible in Welsh. Online Edition. La Bíblia en gal·lès de l'any 1620. Text
electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. 2613ke Gwefan Cymru-Catalonia : la
Web de Gal·les i Catalunya : Wales-Catalonia Website
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_apocrypha_y_rhan_arall_o_lyfr_esther_71_2681ke
0001 Yr Hafan
/ Home Page
or via Google: #kimkat0001
..........2659e Y Fynedfa yn Saesneg / Gateway in
English to this website
or via Google: #kimkat2659e
....................0010e Y
Gwegynllun yn Saesneg / Siteplan in English
or via Google: #kimkat0010e
...........................................0977e
Y Gyfeirdalen i Gywaith Siôn Prys (testunau Cymraeg yn y wefan hon) / Welsh
texts on this website - contents page
or via Google: #kimkat0977e
...................................................................1284e Y Gyfeirddalen i Feibl
Wiliam Morgan 1620 / Wiliam Morgan’s 1620 Bible - Index Page
or via
Google: #kimkat1284e
............................................................................................y
tudalen hwn / this
page
0860k
y llyfr ymwelwyr |
Gwefan Cymru-Catalonia
|
Adolygiadau
diweddaraf - latest updates. 2009-01-25 |
2680k
Y tudalen hwn yn Gymraeg yn unig (Y Rhan Arall o Lyfr Esther)
·····
Y RHAN ARALL O BENODAU LLYFR ESTHER HEB FOD YN YR HEBRAEG
NAC YN Y CALDEEG. Rhan o'r ddegfed bennod
yn ôl y Groeg.
10:4
Yna y dywedodd Mardocheus, Duw a wnaeth hyn;
10:4 Then Mardocheus said, God hath
done these things.
10:5
Canys cof yw gennyf y breuddwyd a welais am y pethau hyn: oblegid ni phallodd
dim o hynny.
10:5 For I remember a dream which I
saw concerning these matters, and nothing thereof hath failed.
10:6
Ffynnon fechan a aeth yn afon; ac yr oedd goleuni, a haul, a dwfr mawr. Esther
yr hon a briododd y brenin, ac a wnaeth efe yn frenhines, yw'r afon;
10:6 A little fountain became a
river, and there was light, and the sun, and much water: this river is Esther,
whom the king married, and made queen:
10:7
A'r ddwy ddraig ydwyf finnau, ac Aman.
10:7 And the two dragons are I and
Aman.
10:8
A'r cenhedloedd oedd y rhai a ddaethant i ddifetha enw'r Iddewon.
10:8 And the nations were those
that were assembled to destroy the name of the Jews:
10:9 A'm
cenedl i yw'r Israel yma, y rhai a floeddiasant ar yr Arglwydd, a hwy a
achubwyd: ie, yr Arglwydd a achubodd ei bobl, a'r Arglwydd a'n gwaredodd ni o'r
drygau hyn oll; a Duw a wnaeth arwyddion a gwyrthiau mawrion, y rhai ni
wnaethpwyd ymysg y cenhedloedd.
10:9 And my nation is this Israel,
which cried to God, and were saved: for the Lord hath saved his people, and the
Lord hath delivered us from all those evils, and God hath wrought signs and
great wonders, which have not been done among the Gentiles.
10:10
Am hynny y gwnaeth efe ddau goelbren, un i bobl Dduw, a'r llall i'r cenhedloedd
oll.
10:10 Therefore hath he made two
lots, one for the people of God, and another for all the Gentiles.
10:11 A'r
ddau goelbren hyn a ddaethant gerbron Duw, dros yr holl genhedloedd, erbyn awr,
ac amser, a dydd barn.
10:11 And these two lots came at the
hour, and time, and day of judgment, before God among all nations.
10:12
Felly Duw a feddyliodd am ei bobl, ac a gyfiawnhaodd ei etifeddiaeth.
10:12 So God remembered his people,
and justified his inheritance.
10:13
Am hynny y dyddiau hynny fyddant iddynt hwy yn y mis Adar, ar y pedwerydd dydd
ar ddeg a'r pymthegfed o'r mis, gydag ymgyfarfod, a llawenydd, a hyfrydwch
gerbron Duw, ymysg ei bobl ef byth dros bob oes.
10:13 Therefore those days shall be
unto them in the month Adar, the fourteenth and fifteenth day of the same
month, with an assembly, and joy, and with gladness before God, according to
the generations for ever among his people.
PENNOD 11
11:1
Yn y bedwaredd flwyddyn o deyrnasiad Ptolomeus a Chleopatra, y dug Dositheus,
yr hwn a ddywedodd ei fod yn offeiriad ac yn Lefiad, a'i fab Ptolomeus, y
llythyr hwn am y Purim, yr hwn y dywedasant mai hwnnw oedd, ac i Lysimachus fab
Ptolomeus, yr hwn oedd yn Jerwsalem, ei gyfieithu.
11:1 In the fourth year of the
reign of Ptolemeus and Cleopatra, Dositheus, who said he was a priest and
Levite, and Ptolemeus his son, brought this epistle of Phurim, which they said
was the same, and that Lysimachus the son of Ptolemeus, that was in Jerusalem,
had interpreted it.
11:2
Yr ail flwyddyn o deyrnasiad Artacsercses fawr, y dydd cyntaf o fis Nisan, y breuddwydiodd
Mardocheus mab Jairus, fab Simei, fab Cisai, o lwyth Benjamin;
11:2 In the second year of the
reign of Artexerxes the great, in the first day of the month Nisan, Mardocheus
the son of Jairus, the son of Semei, the son of Cisai, of the tribe of
Benjamin, had a dream;
11:3
Yr hwn oedd Iddew, ac yn trigo yn ninas Susa, gŵr mawr, am ei fod yn
weinidog yn llys y brenin.
11:3 Who was a Jew, and dwelt in
the city of Susa, a great man, being a servitor in the king's court.
11:4
Ac un oedd efe o'r gaethglud a gaethgludasai Nabuchodonosor brenin Babilon o
Jerwsalem, gyda Jechoneias brenin Jwda. A dyma ei freuddwyd ef:
11:4 He was also one of the
captives, which Nabuchodonosor the king of Babylon carried from Jerusalem with
Jechonias king of Judea; and this was his dream:
11:5
Wele sain twrf, taranau, a daeargryn, a chythrwfl ar y ddaear.
11:5 Behold a noise of a tumult,
with thunder, and earthquakes, and uproar in the land:
11:6 Ac
wele, dwy ddraig fawr a ddaethant allan yn barod bob un ohonynt i ymladd; a'u
llef oedd fawr.
11:6 And, behold, two great dragons
came forth ready to fight, and their cry was great.
11:7
Ac wrth eu llef hwynt yr ymbaratôdd yr holl genhedloedd i ryfel, fel yr
ymladdent yn erbyn y genedl gyfiawn.
11:7 And at their cry all nations
were prepared to battle, that they might fight against the righteous people.
11:8
Ac wele ddiwrnod tywyll a niwlog, cystudd ac ing, drygfyd a thrallod mawr ar y
ddaear.
11:8 And lo a day of darkness and
obscurity, tribulation and anguish, affliction and great uproar, upon earth.
11:9
Yna y trallodwyd yr holl genedl gyfiawn, gan ofni eu drygfyd, ac yn barod i'w
difetha.
11:9 And the whole righteous nation
was troubled, fearing their own evils, and were ready to perish.
11:10
Yna hwy a waeddasant ar Dduw; ac wrth eu gwaedd hwynt y daeth megis o ffynnon
fechan, afon fawr, a dwfr lawer.
11:10 Then they cried unto God, and upon
their cry, as it were from a little fountain, was made a great flood, even much
water.
11:11
Goleuni hefyd a haul a gyfododd, a'r rhai iselradd a ddyrchafwyd, ac a
ddifasant y gogoneddus.
11:11 The light and the sun rose up,
and the lowly were exalted, and devoured the glorious.
11:12 A
phan gyfododd Mardocheus, yr hwn a welsai'r breuddwyd hwn, a'r hyn a fynnai Duw
ei wneuthur; bu y breuddwyd hwn ganddo yn ei galon, a thrwy bob rheswm y
chwenychai efe ei wybod ef, hyd onid oedd hi yn nos.
11:12 Now when Mardocheus, who had
seen this dream, and what God had determined to do, was awake, he bare this
dream in mind, and until night by all means was desirous to know it.
PENNOD 12
12:1 Ac
yr oedd Mardocheus yn gorffwys yn y llys, gyda Gabatha a Tharra, dau o
stafellyddion y brenin, y rhai oedd yn cadw y llys:
12:1 And Mardocheus took his rest
in the court with Gabatha and Tharra, the two eunuchs of the king, and keepers
of the palace.
12:2
Efe a glybu hefyd eu hamcanion hwynt, ac a chwiliodd allan eu bwriad hwynt, ac
a gafodd wybod eu bod hwy yn barod i roi llaw ar y brenin Artacsercses: ac efe
a ddangosodd i'r brenin amdanynt.
12:2 And he heard their devices,
and searched out their purposes, and learned that they were about to lay hands
upon Artexerxes the king; and so he certified the king of them.
12:3,
A'r brenin a holodd ei ddau stafellydd; a hwy a gyffesasant, ac a grogwyd.
12:3 Then the king examined the two
eunuchs, and after that they had confessed it, they were strangled.
12:4
Yna yr ysgrifennodd y brenin y pethau hyn mewn coffadwriaeth: Mardocheus hefyd
a sgrifennodd yr un pethau.
12:4 And the king made a record of
these things, and Mardocheus also wrote thereof.
12:5
A'r brenin a orchmynnodd i Mardocheus wasanaethu yn y llys, ac a roddes iddo ef
roddion am hyn.
12:5 So the king commanded,
Mardocheus to serve in the court, and for this he rewarded him.
12:6
Eithr Aman mab Amadatheus yr Agagiad, yr hwn oedd ogoneddus yng ngolwg y
brenin, a geisiodd ddrygu Mardocheus a'i bobl o achos dau ystafellydd y brenin.
12:6 Howbeit Aman the son of
Amadathus the Agagite, who was in great honour with the king, sought to molest
Mardocheus and his people because of the two eunuchs of the king.
PENNOD 13
13:1
Dyma hefyd gopi y llythyr: Y brenin mawr Artacsercses sydd yn ysgrifennu hyn at
y tywysogion, a'r rhaglawiaid, y rhai sy dano ef ar saith ar hugain a chant o
daleithiau, o India hyd Ethiopia.
13:1 The copy of the letters was
this: The great king Artexerxes writeth these things to the princes and
governours that are under him from India unto Ethiopia in an hundred and seven
and twenty provinces.
13:2 Gan
fy mod i yn arglwydd ar genhedloedd lawer, ac yn llywodraethu'r holl fyd, mi a
ewyllysiais, heb ymddyrchafu oherwydd cadernid awdurdod, eithr gan lywodraethu
yn addfwyn ac yn llonydd bob amser, osod y deiliaid yn wastadol mewn bywyd
llonydd, a gwneuthur y deyrnas yn heddychol ac yn hyffordd hyd yr eithafoedd,
ac adnewyddu heddwch, yr hwn y mae pob dyn yn ei chwennych.
13:2 After that I became lord over
many nations and had dominion over the whole world, not lifted up with
presumption of my authority, but carrying myself always with equity and
mildness, I purposed to settle my subjects continually in a quiet life, and
making my kingdom peaceable, and open for passage to the utmost coasts, to
renew peace, which is desired of all men.
13:3 A
phan ymgynghorais i â'm cynghorwyr pa fodd y dygid hyn i ben, Aman, yr hwn a
aeth yn rhagorol mewn doethineb gyda nyni, ac sydd hysbys ei fod mewn dianwadal
ewyllys da a sicr ffyddlondeb, yr hwn sydd yn cael yr ail anrhydedd yn y
deyrnas,
13:3 Now when I asked my
counsellors how this might be brought to pass, Aman, that excelled in wisdom
among us, and was approved for his constant good will and steadfast fidelity,
and had the honour of the second place in the kingdom,
13:4 A
fynegodd i ni fod pobl atgas wedi ymgymysgu â holl lwythau'r byd, yn
wrthwynebus eu cyfraith i bob cenedl, ac yn esgeuluso yn wastad orchmynion
brenhinoedd, fel na all undeb ein teyrnasoedd ni, yr hon yr ydym ni yn
anrhydeddus yn ei hamcanu, fyned rhagddi:
13:4 Declared unto us, that in all
nations throughout the world there was scattered a certain malicious people,
that had laws contrary to ail nations, and continually despised the
commandments of kings, so as the uniting of our kingdoms, honourably intended
by us cannot go forward.
13:5
Pan gawsom ninnau wybod y modd y mae'r genedl hon yn unig wedi ymosod i
wrthwynebu pob dyn yn wastad, gan newidio, ac ymrafaelio â'r pethau yr ydym ni
yn eu gorchymyn, trwy ddwyn cyfreithiau dieithr, a chan gyflawni pob drygioni a
fedront, fel na chaffo ein brenhiniaeth ni wastadfod:
13:5 Seeing then we understand that
this people alone is continually in opposition unto all men, differing in the
strange manner of their laws, and evil affected to our state, working all the
mischief they can that our kingdom may not be firmly established:
13:6
Am hynny y gorchmynasom am y rhai a hysbysir i chwi mewn ysgrifen oddi wrth
Aman, yr hwn sydd swyddog ar ein materion, ac yn ail i ni, eu llwyr ddifetha
hwynt oll gyda'u gwragedd a'u plant, trwy gleddyfau eu gelynion, heb ddim
trugaredd na thosturi, ar y pedwerydd dydd ar ddeg o Adar, hwnnw yw'r
deuddegfed mis o'r flwyddyn bresennol hon:
13:6 Therefore have we commanded,
that all they that are signified in writing unto you by Aman, who is ordained
over the affairs, and is next unto us, shall all, with their wives and
children, be utterly destroyed by the sword of their enemies, without all mercy
and pity, the fourteenth day of the twelfth month Adar of this present year:
13:7
Fel y byddo o hyn allan i'r rhai oedd gynt, ac yn awr ydynt elynion, wedi
iddynt mewn un dydd trwy nerth ddisgyn i uffern, adael pethau yn llonydd, ac yn
gwbl ddidrallod i ni.
13:7 That they, who of old and now
also are malicious, may in one day with violence go into the grave, and so ever
hereafter cause our affairs to be well settled, and without trouble.
13:8
Yntau, gan feddwl am holl weithredoedd yr Arglwydd, a weddïodd ar yr Arglwydd,
13:8 Then Mardocheus thought upon
all the works of the Lord, and made his prayer unto him,
13:9
Ac a ddywedodd, O Arglwydd, Arglwydd, hollalluog Frenin, oblegid bod pob peth
yn dy feddiant di, ac nad oes a'th wrthwynebo di pan fynnech achub Israel:
13:9 Saying, O Lord, Lord, the King
Almighty: for the whole world is in thy power, and if thou hast appointed to
save Israel, there is no man that can gainsay thee:
13:10
Oblegid ti a wnaethost y nefoedd a'r ddaear, a phob dim rhyfedd, yn yr hyn sy
dan y nefoedd.
13:10 For thou hast made heaven and
earth, and all the wondrous things under the heaven.
13:11
Arglwydd pob dim ydwyt ti hefyd, ac nid oes a'th wrthwyneba di, yr hwn ydwyt
Arglwydd.
13:11 Thou art Lord of all things,
and and there is no man that can resist thee, which art the Lord.
13:12 Ti
a adwaenost bob peth, ti a wyddost, O Arglwydd, nad o draha, nac o falchder,
nac o chwant gogoniant, y gwneuthum i hyn, sef nad anrhydeddwn Aman falch:
13:12 Thou knowest all things, and
thou knowest, Lord, that it was neither in contempt nor pride, nor for any
desire of glory, that I did not bow down to proud Aman.
13:13
Canys mi a fuaswn fodlon i gusanu ôl ei draed ef er iachawdwriaeth i Israel.
13:13 For I could have been content
with good will for the salvation of Israel to kiss the soles of his feet.
13:14
Ond mi a wneuthum hyn rhag gosod ohonof ogoniant dyn goruwch gogoniant Duw, a
rhag addoli ohonof neb ond tydi: ac nid o falchder y gwnaf hyn.
13:14 But I did this, that I might
not prefer the glory of man above the glory of God: neither will I worship any
but thee, O God, neither will I do it in pride.
13:15
Ac yn awr, O Arglwydd Dduw Frenin, arbed dy bobl: oherwydd y maent hwy yn
edrych arnom ni i'n dinistrio, a hwy a chwenychasant ddifetha'r hon sydd o'r
dechreuad yn etifeddiaeth i ti.
13:15 And now, O Lord God and King,
spare thy people: for their eyes are upon us to bring us to nought; yea, they
desire to destroy the inheritance, that hath been thine from the beginning.
13:16
Na ddiystyra y rhan a waredaist i ti dy hun o dir yr Aifft.
13:16 Despise not the portion, which
thou hast delivered out of Egypt for thine own self.
13:17
Gwrando fy ngweddi, a bydd drugarog wrth dy ran; a thro ein tristwch yn
hyfrydwch; fel y gallom ni fyw, a moliannu dy enw di, O Arglwydd: ac na
ddifetha enau y rhai sydd yn dy glodfori di, O Arglwydd.
13:17 Hear my prayer, and be
merciful unto thine inheritance: turn our sorrow into joy, that we may live, O
Lord, and praise thy name: and destroy not the mouths of them that praise thee,
O Lord.
13:18
Felly Israel oll a lefasant yn gryfaf y gallent: oblegid eu marwolaeth oedd o
flaen eu llygaid.
13:18 All Israel in like manner
cried most earnestly unto the Lord, because their death was before their eyes.
PENNOD 14
14:1 Esther
hefyd y frenhines, wedi i loes angau ei dal hi, a ffodd at yr Arglwydd;
14:1 Queen Esther also, being in
fear of death, resorted unto the Lord:
14:2
Ac wedi iddi ddiosg ei gogoneddus wisg, hi a wisgodd wisg cystudd a galar; a
lludw hefyd a thom yn lle ennaint balch y llanwodd hi ei phen; a hi a
ddarostyngodd ei chorff yn ddirfawr, a'i holl fannau hyfryd a lanwodd hi â'i
gwallt wedi ei dynnu:
14:2 And laid away her glorious
apparel, and put on the garments of anguish and mourning: and instead of precious
ointments, she covered her head with ashes and dung, and she humbled her body
greatly, and all the places of her joy she filled with her torn hair.
14:3 A
hi a weddïodd ar Arglwydd Dduw Israel, ac a ddywedodd,
14:3 And she prayed unto the Lord
God of Israel, saying, O my Lord, thou only art our King: help me, desolate
woman, which have no helper but thee:
14:4 O
fy Arglwydd, ein Brenin ni wyt ti yn unig; cynorthwya fi, yr hon ydwyf unig, ac
heb gynorthwyydd gennyf ond tydi: oblegid y mae yn enbyd iawn arnaf.
14:4 For my danger is in mine hand.
14:5
Mi a glywais er pan y'm ganed, ymysg llwyth fy nghenedl, gymryd ohonot ti, O
Arglwydd, Israel o'r holl genhedloedd, a'n tadau ni o'u holl hynafiaid hwynt,
yn etifeddiaeth dragwyddol; a gwneuthur ohonot ti iddynt yr hyn a leferaist.
14:5 From my youth up I have heard
in the tribe of my family that thou, O Lord, tookest Israel from among all
people, and our fathers from all their predecessors, for a perpetual
inheritance, and thou hast performed whatsoever thou didst promise them.
14:6
Ac yn awr, nyni a bechasom yn dy ŵydd di; a thi a'n rhoddaist yn nwylo ein
gelynion,
14:6 And now we
have sinned before thee: therefore hast thou given us into the hands of our
enemies,
14:7 Am
i ni ogoneddu eu duwiau hwynt. Cyfiawn wyt ti, O Arglwydd.
14:7 Because we
worshipped their gods: O Lord, thou art righteous.
14:8
Ac yr awron nid digon ganddynt chwerwed ein gwasanaeth ni, eithr hwy a drawsant
ddwylo â'u heilunod,
14:8 Nevertheless
it satisfieth them not, that we are in bitter captivity: but they have stricken
hands with their idols,
14:9
Ar ddiddymu y peth a ddarfu i ti ei ordeinio â'th enau, a dileu dy etifeddiaeth
di, a chau safn y rhai sy yn dy foliannu, a diffoddi gogoniant dy dŷ di a'th allor,
14:9 That they
will abolish the thing that thou with thy mouth hast ordained, and destroy
thine inheritance, and stop the mouth of them that praise thee, and quench the
glory of thy house, and of thine altar,
14:10
Ac agoryd genau'r cenhedloedd i gyhoeddi rhinweddau pethau ofer, ac i fawrygu
brenin cnawdol byth.
14:10 And open
the mouths of the heathen to set forth the praises of the idols, and to magnify
a fleshly king for ever.
14:11
Na ddod Arglwydd, dy deyrnwialen i'r rhai nid ydynt ddim; ac na ad iddynt
chwerthin am ein cwymp ni: eithr tro eu cyngor yn eu herbyn eu hun, a difetha
yr hwn a ddechreuodd arnom ni.
14:11 O Lord,
give not thy sceptre unto them that be nothing, and let them not laugh at our
fall; but turn their device upon themselves, and make him an example, that hath
begun this against us.
14:12
Cofia, Arglwydd; pâr dy adnabod yn amser ein cystudd ni: cysura fi, O Frenin y
cenhedloedd, a llywydd pob tywysogaeth.
14:12 Remember, O
Lord, make thyself known in time of our affliction, and give me boldness, O
King of the nations, and Lord of all power.
14:13
Dod yn fy ngenau ymadrodd cymwys gerbron y llew, a thro ei galon ef i gasáu yr
hwn sydd yn ein gwrthwynebu ni, er dinistr iddo ef, ac i'r rhai sy'n debyg eu
meddwl iddo yntau:
14:13 Give me
eloquent speech in my mouth before the lion: turn his heart to hate him that
fighteth against us, that there may be an end of him, and of all that are
likeminded to him:
14:14
Ie, gwared ni â'th law, a chynorthwya fi, yr hon ydwyf unig, ac heb
gynorthwyydd gennyf ond tydi.
14:14 But deliver
us with thine hand, and help me that am desolate, and which have no other help
but thee.
14:15 O
Arglwydd, ti a wyddost bob dim: ti a wyddost mai cas gennyf ogoniant y rhai anwir,
a bod yn ffiaidd gennyf wely y rhai dienwaededig, a phob dieithr.
14:15 Thou
knowest all things, O Lord; thou knowest that I hate the glory of the
unrighteous, and abhor the bed of the uncircumcised, and of all the heathen.
14:16 Ti
a wyddost beth sydd raid i mi; a bod yn ffiaidd gennyf arwydd fy malchder, yr
hwn sydd ar fy mhen, ar y dyddiau yr ymddangoswyf, a bod mor ffiaidd gennyf ef
â chadach misglwyf; ac nad ydwyf yn ei wisgo ef ar y dyddiau yr wyf yn cael
llonydd;
14:16 Thou
knowest my necessity: for I abhor the sign of my high estate, which is upon
mine head in the days wherein I shew myself, and that I abhor it as a
menstruous rag, and that I wear it not when I am private by myself.
14:17
Ac na fwytaodd dy wasanaethyddes ar fwrdd Aman; ac nad anrhydeddais wledd y
brenin, ac nad yfais winoffrwm;
14:17 And that
thine handmaid hath not eaten at Aman's table, and that I have not greatly
esteemed the king's feast, nor drunk the wine of the drink offerings.
14:18
Ac na lawenychodd dy lawforwyn o'r dydd y'm symudwyd hyd yr awr hon, ond ynot
ti, O Arglwydd Dduw Abraham.
14:18 Neither had
thine handmaid any joy since the day that I was brought hither to this present,
but in thee, O Lord God of Abraham.
14:19 O
Dduw cadarnach na neb, gwrando lefain y rhai diobaith, a gwared ni o law y
drygionus, ie, gwared fi o'm hofn.
14:19 O thou
mighty God above all, hear the voice of the forlorn and deliver us out of the
hands of the mischievous, and deliver me out of my fear.
PENNOD 15
15:1
Ac ar y trydydd dydd, pan beidiodd hi â gweddïo, hi a ddiosgodd ei galarwisg,
ac a wisgodd ei gwychder.
15:1 And upon
the third day, when she had ended her prayers, she laid away her mourning
garments, and put on her glorious apparel.
15:2
Ac wedi iddi fyned yn wych ei threfn, a galw ar Weledydd ac Achubydd pawb, hi a
gymerodd ddwy lawforwyn;
15:2 And being
gloriously adorned, after she had called upon God, who is the beholder and
saviour of all things, she took two maids with her:
15:3 A
hi a bwysodd ar y naill, fel pe buasai hi fwythus:
15:3 And upon
the one she leaned, as carrying herself daintily;
15:4
A'r llall oedd yn dwyn ei phwrffil hi.
15:4 And the
other followed, bearing up her train.
15:5 Gwridog
hefyd oedd hi o berffeithrwydd ei thegwch, a'i hwyneb yn llawen, ac megis yn
hawddgar: eithr ei chalon oedd gyfyng arni gan ofn.
15:5 And she was
ruddy through the perfection of her beauty, and her countenance was cheerful
and very amiable: but her heart was in anguish for fear.
15:6
Ac wedi iddi fyned i mewn trwy'r holl ddrysau, hi a safodd gerbron y brenin; ac
yr oedd efe yn eistedd ar orseddfa ei frenhiniaeth, ac efe a wisgasai ei
ddisgleirwisg oll; ac efe oll mewn aur a meini gwerthfawr oedd ofnadwy iawn:
15:6 Then having
passed through all the doors, she stood before the king, who sat upon his royal
throne, and was clothed with all his robes of majesty, all glittering with gold
and precious stones; and he was very dreadful.
15:7 A
chan ddyrchafu ei wyneb yn disgleirio gan ogoniant, efe a edrychodd yn llym o
ddig: yna y syrthiodd y frenhines, a hi a newidiodd ei lliw mewn llewyg, ac a
ogwyddodd ar ben y llawforwyn oedd yn myned o'i blaen hi.
15:7 Then
lifting up his countenance that shone with majesty, he looked very fiercely
upon her: and the queen fell down, and was pale, and fainted, and bowed herself
upon the head of the maid that went before her.
15:8 A
Duw a drodd ysbryd y brenin yn addfwyn, fel y neidiodd efe ar frys oddi ar ei orseddfa,
ac y cymerodd hi: ac efe a'i cysurodd hi â geiriau heddychlon, ac a ddywedodd
wrthi,
15:8 Then God
changed the spirit of the king into mildness, who in a fear leaped from his
throne, and took her in his arms, till she came to herself again, and comforted
her with loving words and said unto her,
15:9
Esther, beth yw'r mater? dy frawd di ydwyf fi: cymer gysur.
15:9 Esther,
what is the matter? I am thy brother, be of good cheer:
15:10
Ni roddir di i farwolaeth, oblegid cyffredin yw ein gorchymyn ni: tyred yma.
15:10 Thou shalt
not die, though our our commandment be general: come near.
15:11
Ac efe a gododd y wialen aur, ac a'i gosododd ar ei gwddf hi:
15:11 And so be
held up his golden sceptre, and laid it upon her neck,
15:12 Ac
efe a'i cofieidiodd hi, ac a ddywedodd, Llefara wrthyf fi.
15:12 And
embraced her, and said, Speak unto me.
15:13
Hithau a ddywedodd wrtho ef, O arglwydd, mi a'th welwn fel angel Duw, a'm calon
a gyffrôdd rhag ofn dy ogoniant:
15:13 Then said
she unto him, I saw thee, my lord, as an angel of God, and my heart was
troubled for fear of thy majesty.
15:14
Oblegid rhyfeddol ydwyt ti, O arglwydd; a'th wyneb sydd yn llawn gras.
15:14 For
wonderful art thou, lord, and thy countenance is full of grace.
15:15 A
thra'r oedd hi yn llefaru, hi a syrthiodd yn ei llewyg.
15:15 And as she
was speaking, she fell down for faintness.
15:16
Yna y trallodwyd y brenin; a'i weision oll a'i cysurasant hi.
15:16 Then the
king was troubled, and ail his servants comforted her.
PENNOD 16
16:1 Y
brenin mawr Artacsercses at y penaethiaid a'r tywysogion ar gant a saith ar
hugain o daleithiau, o India hyd Ethiopia, ac at ein deiliaid ffyddlon, yn
anfon annerch:
16:1 The great
king Artexerxes unto the princes and governors of an hundred and seven and
twenty provinces from India unto Ethiopia, and unto all our faithful subjects,
greeting.
16:2
Llawer wedi eu mynych anrhydeddu trwy fawr ddaioni gweithredwyr da, a aethant
yn falchach,
16:2 Many, the
more often they are honoured with the great bounty of their gracious princes,
the more proud they are waxen,
16:3
Ac ydynt yn ceisio nid yn unig ddrygu ein deiliaid ni, eithr hefyd, am na
fedrant fyw mewn digonedd, y maent yn ceisio dychymyg niwed yn erbyn y rhai a
wna ddaioni iddynt:
16:3 And
endeavour to hurt not our subjects only, but not being able to bear abundance,
do take in hand to practise also against those that do them good:
16:4 Ac
y maent nid yn unig yn tynnu diolchgarwch o blith dynion, eithr hefyd gan
ymddyrchafu mewn balchder rhai heb wybod oddi wrth ddaioni, y maent yn amcanu
dianc oddi wrth farn Duw, yr hwn sydd yn gweled pob peth, a'i farn yn gas
ganddi ddrygioni.
16:4 And take
not only thankfulness away from among men, but also lifted up with the glorious
words of lewd persons, that were never good, they think to escape the justice
of God, that seeth all things and hateth evil.
16:5
Llawer gwaith hefyd y mae geiriau teg y rhai yr ymddiriedwyd iddynt am
lywodraethu materion eu cyfeillion, yn gwneuthur llawer o'r rhai sy mewn
awdurdod yn euog o waed gwirion, ac yn eu hamgylchu mewn blinderau diymadferth;
16:5 Oftentimes
also fair speech of those, that are put in trust to manage their friends'
affairs, hath caused many that are in authority to be partakers of innocent
blood, and hath enwrapped them in remediless calamities:
16:6
Trwy ffalster a thwyll eu dull drygionus, yn twyllo diniweidra a daioni
penaethiaid.
16:6 Beguiling
with the falsehood and deceit of their lewd disposition the innocency and
goodness of princes.
16:7 A
hyn a ellwch chwi ei weled, fel yr eglurhasom ni, nid yn gymaint o'r hen
historiau, ag y gellwch, os chwiliwch pa bethau a wnaed yn ddrygionus yn hwyr,
trwy ymddygiad echryslon y rhai a osodwyd mewn awdurdod yn annheilwng.
16:7 Now ye may
see this, as we have declared, not so much by ancient histories, as ye may, if
ye search what hath been wickedly done of late through the pestilent behaviour
of them that are unworthily placed in authority.
16:8
Ac y mae yn rhaid edrych am yr amser a fydd, fel y gwnelom y deyrnas yn
ddidrallod ac yn heddychol i bob dyn;
16:8 And we must
take care for the time to come, that our kingdom may be quiet and peaceable for
all men,
16:9
Gan arfer cyfnewidiadau, ac ystyried y pethau sy'n dyfod mewn golwg, trwy achub
blaen pethau bob amser yn llarieiddiach.
16:9 Both by
changing our purposes, and always judging things that are evident with more
equal proceeding.
16:10
Oherwydd Aman, Macedoniad, mab Amadatha, yr hwn mewn gwirionedd oedd estron i
waed y Persiaid, a phell oddi wrth ein daioni ni, ac wedi ei dderbyn gennym ni
fel gŵr dieithr,
16:10 For Aman, a
Macedonian, the son of Amadatha, being indeed a stranger from the Persian
blood, and far distant from our goodness, and as a stranger received of us,
16:11 A
gafodd yr addfwynder sy gennym ni i bob cenedl, yn gymaint ag y gelwid ef yn
dad i ni, a'i addoli gan bawb megis yr ail i'r orseddfa frenhinol:
16:11 Had so far
forth obtained the favour that we shew toward every nation, as that he was
called our father, and was continually honoured of all the next person unto the
king.
16:12
Am na fedrai efe ddwyn ei fawr barch, efe a geisiodd ein diddymu ni o'r
llywodraeth, ac o'n heinioes hefyd:
16:12 But he, not
bearing his great dignity, went about to deprive us of our kingdom and life:
16:13 Ac
a geisiodd trwy lawer o ffyrdd twyllodrus ddifetha Mardocheus, yr hwn a'n
hachubodd ni, ac ym mhob peth a wnaeth ddaioni, ac Esther ddifai, yr hon sy
gyfrannog o'r deyrnas, ynghyd a'i holl genedl.
16:13 Having by
manifold and cunning deceits sought of us the destruction, as well of
Mardocheus, who saved our life, and continually procured our good, as also of
blameless Esther, partaker of our kingdom, with their whole nation.
16:14
Oblegid fel hyn y meddyliodd efe ein cael ni yn unig, a dwyn llywodraeth y
Persiaid i'r Macedoniaid.
16:14 For by
these means he thought, finding us destitute of friends to have translated the
kingdom of the Persians to the Macedonians.
16:15
Eithr yr ydym ni yn cael bod yr Iddewon, y rhai a roddasai'r dinistrydd hwnnw i'w
difetha, yn ddiniwed drwg, ac yn arfer cyfreithiau o'r cyfiawnaf,
16:15 But we find
that the Jews, whom this wicked wretch hath delivered to utter destruction, are
no evildoers, but live by most just laws:
16:16
Ac yn blant i'r Duw byw goruchaf a mwyaf, yr hwn a gyfarwyddodd y deyrnas i ni,
ac i'n rhieni, mewn trefn odiaeth.
16:16 And that
they be children of the most high and most mighty, living God, who hath ordered
the kingdom both unto us and to our progenitors in the most excellent manner.
16:17
Am hynny da y gwnewch, os chwi ni chyflawnwch y llythyrau a anfonodd Aman mab
Amadatha atoch chwi.
16:17 Wherefore
ye shall do well not to put in execution the letters sent unto you by Aman the
son of Amadatha.
16:18
Oherwydd efe, yr hwn a wnaeth hyn, a grogwyd, ynghyd â'i holl dylwyth, o flaen
pyrth Susa, trwy fod Duw, llywydd pob peth, yn talu iddo yn fuan farn addas.
16:18 For he that
was the worker of these things, is hanged at the gates of Susa with all his
family: God, who ruleth all things, speedily rendering vengeance to him
according to his deserts.
16:19
Eithr gan osod allan gopi o'r llythyr hwn ym mhob lle, gadewch i'r Iddewon
arfer eu cyfraith mewn rhyddid.
16:19 Therefore
ye shall publish the copy of this letter in all places, that the Jews may
freely live after their own laws.
16:20 A
chynorthwywch hwynt, fel y gallont y trydydd ar ddeg o Adar, y deuddegfed mis,
ar yr un dydd, ddial ar y rhai a osododd arnynt hwy yn amser eu cystudd.
16:20 And ye
shall aid them, that even the same day, being the thirteenth day of the twelfth
month Adar, they may be avenged on them, who in the time of their affliction
shall set upon them.
16:21
Oblegid Duw, llywydd pob peth, yn lle dinistr y genedl etholedig, a wnaeth
iddynt lawenydd.
16:21 For
Almighty God hath turned to joy unto them the day, wherein the chosen people
should have perished.
16:22
Cedwch chwithau hwn gyda phob llawenydd yn ddydd uchel, ymysg eich uchel
wyliau;
16:22 Ye shall
therefore among your solemn feasts keep it an high day with all feasting:
16:23
Fel y byddo iachawdwriaeth yn awr, ac wedi hyn, i ni, ac i'r Persiaid da eu
hewyllys, a choffadwriaeth dinistr i'r
rhai sy'n cynllwyn i'n herbyn.
16:23 That both
now and hereafter there may be safety to us and the well affected Persians; but
to those which do conspire against us a memorial of destruction.
16:24 A
phob dinas a gwlad bynnag yr hon ni wnelo fel hyn, a lwyr ddifethir â gwaywffyn ac â thân, mewn llid; fel y
gosoder hi byth nid yn unig yn ddi-sathr gan ddynion, eithr yn atgasaf gan
fwystfilod ac adar, bob amser.
16:24 Therefore
every city and country whatsoever, which shall not do according to these
things, shall be destroyed without mercy with fire and sword, and shall be made
not only unpassable for men, but also most hateful to wild beasts and fowls for
ever. .
__________________________________________________________________________
Adolygiadau
diweddaraf - latest updates. 2009-01-25
Sumbolau arbennig: ŷ
ŵ
Ble’r
wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o
dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (=
Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə
“CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (=
Wales-Catalonia) Website
CYMRU-CATALONIA