Y Beibl Cysger-Lân (1620) yn yr iaith Gymraeg. Testun ar lein. La Bíblia en
gal·lès de l’any 1620. Text electrònic. Dhə Báibəl in Welsh. The 1620
Holy Bible in Welsh. Online Edition. 2690k Gwefan Cymru-Catalonia : la Web de Gal·les i
Catalunya : Wales-Catalonia Website.
http://www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion_prys_003_beibl_apocrypha_histori_bel_ar_ddraig_77_2690k.htm
0001 Yr Hafan
neu trwy Google: #kimkat0001
..........2657k Y Fynedfa yn Gymraeg
neu trwy Google: #kimkat2657k
....................0009k Y Gwegynllun
neu trwy Google: #kimkat0009k
..............................0960k Cywaith Siôn
Prys (Testunau yn Gymraeg) - Mynegai
neu trwy Google: #kimkat0960k
........................................... 1281k Y Gyfeirddalen i Feibl
Wiliam Morgan 1620
neu trwy Google:
#kimkat1281k
.............................................................y tudalen hwn
0860k y llyfr ymwelwyr |
Gwefan Cymru-Catalonia
|
Adolygiadau diweddaraf: 2009-01-28 |
2691ke
This page
with an English version (1620 Welsh Bible / 1611 English Authorized Version)
(Bel and the Dragon)
HISTORI DINISTR BEL A'R DDRAIG,
WEDI EI THORRI YMAITH ODDI WRTH DDIWEDD DANIEL
1 A’r brenin Astyages a roddwyd at ei dadau, a Cyrus o Persia a gymerodd
ei frenhiniaeth ef.
2 A Daniel oedd yn byw gyda'r brenin, ac yn fwy urddasol na'i holl
gyfeillion.
3 Ac yr ydoedd
eilun gan y Babiloniaid, a elwid Bel, ar yr hwn yr oeddid yn treulio beunydd
ddeuddeng mesur mawr o beilliaid, a deugain o ddefaid, a chwe llestr o win.
4 A'r brenin a'i haddolai ef, a beunydd yr ai
i ymgrymu iddo: eithr Daniel a addolai ei Dduw ei hun. A'r brenin a ddywedodd
wrtho, Paham nad wyt ti'n addoli Bel?
5 Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Am nad anrhydeddaf fi eilunod
gwneuthuredig â dwylo, ond y Duw byw, yr hwn a wnaeth y nef a'r ddaear, ac y
sydd iddo feddiant ar bob cnawd.
6 A'r brenin a ddywedodd wrtho, Onid wyt ti yn tybied mai Duw byw yw
Bel? oni weli di faint y mae efe yn ei fwyta ac yn ei yfed beunydd?
7 A Daniel a ddywedodd dan chwerthin, Na thwyller di, O frenin: hwn oddi
mewn sy glai, ac oddi allan yn bres; ni fwytaodd ac nid yfodd erioed.
8 Yna'r brenin yn ddicllon a alwodd ei offeiriaid, ac a ddywedodd
wrthynt, Oni ddywedwch i mi pwy sydd yn bwyta'r draul hon, meirw fyddwch:
9 Eithr os gellwch chwi ddangos i mi fod Bel yn bwyta'r pethau hyn, marw
a gaiff Daniel, am iddo ddywedyd cabledd yn erbyn Bel. A Daniel a ddywedodd
wrth y brenin, Fel y dywedaist, bydded.
10 Offeiriaid Bel oeddynt ddeg a thrigain, heblaw eu gwragedd a'u plant.
A'r brenin a aeth gyda Daniel i deml Bel.
11 A'r offeiriaid hefyd a ddywedasant, Wele, ni a awn allan: dod di, O
frenin, y bwydydd yn eu lle, a gosod y gwin, wedi i ti ei gymysgu, a chae'r
drws, a selia â'th fodrwy dy hun.
12 A'r bore, pan ddelych, oni bydd Bel wedi bwyta'r cwbl, lladder ni; os
amgen, Daniel, yr hwn a ddywedodd gelwydd yn ein herbyn ni.
13 A diofal oeddynt: oherwydd dan y bwrdd y gwnaethent ffordd, i'r hon
yr aent i mewn bob amser, ac y llwyr fwytaent y pethau hynny.
14 Yna wedi iddynt fyned allan, ac i'r brenin osod y bwydydd gerbron
Bel, y gorchmynnodd Daniel i'w weision ddwyn lludw, yr hwn a daenasant dros
gwbl o'r deml yng ngŵydd y brenin ei
hun: ac wedi eu myned allan, hwy a gaeasant y porth, ac a'i seliasant â
modrwy'r brenin, ac a aethant ymaith.
15 A'r offeiriaid a aethant i mewn, gefn y nos, yn ôl eu harfer, a'u
gwragedd a'u plant, ac a fwytasant ac a yfasant y cwbl.
16 A'r bore y brenin a gododd yn fore iawn, a Daniel gydag ef.
17 A'r brenin a ddywedodd, A ydyw y seliau yn gyfain, Daniel? Ac yntau a
atebodd, Y maent yn gyfain, O frenin.
18 A chyn gyflymed ag yr agorasid y drws, y brenin a edrychodd tua'r
bwrdd, ac a lefodd yn uchel, Mawr wyt ti, O Bel, ac nid oes dim twyll gyda thi.
19 Yna Daniel a chwarddodd, ac a ddaliodd y brenin rhag myned i mewn, ac
a ddywedodd, Gwêl y llawr, ac edrych ôl traed pwy yw y rhain.
20 A'r brenin a ddywedodd, Mi a welaf ôl traed gwŷr, a gwragedd, a
phlant: ac yna y digiodd y brenin,
21 Ac a ddaliodd yr offeiriaid, a'u gwragedd, a'u plant, y rhai a
ddangosasant iddo y drysau dirgel, i'r rhai yr oeddynt yn myned i mewn i
fwyta'r pethau oedd ar y bwrdd.
22 A'r brenin a'u lladdodd hwynt, ac a roes Bel
ar law Daniel, yr hwn a'i dinistriodd ef a'i deml.
23 Yr oedd hefyd ddraig fawr yno; a'r Babiloniaid a'i haddolent hi.
24 A'r brenin a ddywedodd wrth Daniel, A ddywedi di mai efydd yw hon?
Wele hi yn fyw, ac yn bwyta, ac yn yfed: ni elli di ddywedyd nad yw hon Dduw
byw: am hynny addola hi.
25 A dywedodd Daniel, Myfi a addolaf yr Arglwydd fy Nuw: canys efe yw y
Duw byw.
26 Eithr tydi, O frenin, dod i mi gennad, a mi a laddaf y ddraig hon,
heb na chleddyf na ffon. A'r brenin a ddywedodd, Yr ydwyf yn rhoddi i ti
gennad.
27 Yna y cymerth Daniel byg, a gwêr, a blew, ac a'u berwodd ynghyd, ac a
wnaeth dameidiau ohonynt, ac a'u rhoes yn safn y ddraig; a'r ddraig a dorrodd
ar ei thraws. Ac efe a ddywedodd, Wele'r pethau yr ydych chwi yn eu haddoli!
28 Ac fe ddigwyddodd i'r Babiloniaid, pan glywsant hynny, ddirfawr
lidio, a throi yn erbyn y brenin, gan ddywedyd, Y brenin a aeth yn Iddew; Bel a
ddistrywiodd efe, a'r Ddraig a laddodd, ac a roes yr offeiriaid i farwolaeth.
29 Ac wedi eu dyfod at y brenin, y dywedasant, Dod i ni Daniel; onis
rhoi, ni a'th ddifethwn di a'th dŷ.
30 Pan welodd y brenin eu bod hwy yn daer iawn arno, yna y gorfu iddo,
o'i anfodd, roi Daniel iddynt.
31 A hwythau a'i bwriasant ef i ffau y llewod, lle y bu efe chwe
diwrnod.
32 Ac yn y ffau yr oedd saith o lewod, i'r rhai y rhoid beunydd ddau
gorff, a dwy ddafad, y rhai y pryd hynny ni roesid iddynt, fel y gallent lyncu
Daniel.
33 A Habacuc y proffwyd oedd yn Jwdea; ac efe a ferwasai sew, ac a
friwasai fara mewn cawg, ac oedd yn myned i'w ddwyn i'r maes i fedelwyr.
34 Ac angel yr Arglwydd a ddywed odd wrth Habacuc, Dwg y cinio sy gennyt
hyd yn Babilon, i Daniel, yr hwn sydd yn ffau y llewod.
35 A Habacuc a ddywedodd, Arglwydd, ni welais i Babilon erioed; ac ni wn
i pa le y mae'r ffau.
36 Yna angel yr Arglwydd a'i cymerth ef erbyn ei gorun; ac wedi iddo ei
ddwyn erbyn gwallt ei ben, a'i dodes ef yn Babilon, oddi ar y ffau, trwy nerth
ei ysbryd ef.
37 A Habacuc a lefodd, gan ddywedyd, Daniel, Daniel, cymer y cinio a
anfonodd Duw i ti.
38 Yna y dywedodd Daniel, Ti a feddyliaist amdanaf fi, O Dduw, ac ni
adewaist mewn gwall y rhai a'th geisiant ac a'th garant.
39 Felly Daniel a gyfododd i fyny, ac a fwytaodd. Ac angel yr Arglwydd a
ddodes Habacuc yn ebrwydd yn ei le ei hun.
40 A'r brenin a aeth y seithfed dydd i alaru am Daniel; a phan ddaeth at
y ffau, efe a edrychodd i mewn, ac wele, yr oedd Daniel yn eistedd.
41 Yna y llefodd y brenin â llef uchel, ac a ddywedodd, Mawr wyt ti, O
Arglwydd Dduw Daniel; ac nid oes arall ond tydi.
42 Ac efe a'i tynnodd ef allan o'r ffau, ac a fwriodd y rhai oedd achos
o'i ddifetha ef i'r ffau: a hwy a lyncwyd yn y fan o flaen ei lygaid ef.
DIWEDD
Adolygiadau diweddaraf: 2009-01-28
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag
un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web "CYMRU-CATALONIA" (=
Gal·les-Catalunya)
Weə(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ə peij fròm dhə
"CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə) Wéb-sait
Where am I? You are visiting a
page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website