kiimkat2104k Gwefan Cymru-Catalonia: Enwau lleodd. Erthygl gan John Rhys, 1896  (Anerchiad i Eisteddfod y Castell Newydd yn Emlyn)

21-03-2022



 


 

0003j_delw_baneri_cymru_catalonia_050111
..






Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal·les i Catalunya


  



Enwau Lleoedd
John Rhys

Cymru
Cyfrol XI.
Hydref 15fed, 1896.
RHIF 63.
Tudalennau 149-153


6514_map_cymru_a_chatalonia_aber_dar_070323

(delwedd 6514)

 

 

 

cymru_coch

 

Mae_hen_ddihareb



Enwau Lleoedd.

 

Anerchiad y Llywydd, y Prifathraw John Rhys, i Eisteddfod y Castell Newydd yn Emlyn, Awst 13. 1896

 

Mae hen ddihareb i’r perwyl fod pob ceiliog yn gawr ar ei esgynlawr ei hun, a buaswn innau yn medru eich annerch chwi yn hyfach yr ochr arall i afon Teifi, ar dir a daear Ceredigion, yng ngwlad fy ngenedigaeth. Ond rhaid gwneyd y goreu o sir Gaerfyrddin, gan fod yr Eisteddfod wedi ymbabellu yma ryw ychydig lathenni y tu chwith i’r terfyn.

 

Ni ddigia neb wrthyf wrth son fod y dyffryn hwn wedi magu a meithrin, ar y naill lan i’r afon a’r llall, lawer o ddynion enwocaf a mwyaf blaenllaw ein cenedl, fel pregethwyr, cerddorion, beirdd, seneddwyr, ac ereill o athrylith. Nid anturiaf enwi neb; gwnaed crybwyll Emlyn, Ceri, a Phen yr Herber y tro. Dyffryn Teifi a’r wlad oddiyma i fyny hyd Aberystwyth yw gwersyllfa yr Eisteddfod, a dyma’r wlad yr erys yr Eisteddfod ynddi hwyaf. Bum y llynedd yn y Cei Newydd am wythnos, pan gynhelid eisteddfod yn rhyw fan neu gilydd yma bob dydd, a chlywais i amryw weinidogion fore’r Sul canlynol roddi allan “Hen Wlad fy Nhadau” i’w chanu nes i’r blaenoriaid yn y côr mawr eu hargyhoeddi’n ddisyrmwth mai nid arwain Eisteddfod yr oeddynt ar y seithfed dydd.

Ond hwyrach y dywed rhywun mai eisteddfodau bychain oedd y rhai hynny; digon prin fod hynny’n wir, ond addefaf yn rhwydd mai bychain oeddynt o’u cymharu a’r Eisteddfod a elwir yn genedlaethol; a da iawn hynny. Mae’r Eisteddfod Genedlaethol wedi myned mor fawr fel nad oes ond rhyw hanner dwsin o wŷr cryfion fel Mabon yma fedr wneuthur iddi glywed. Y canlyniad yw ei bod wedi myned bron i gyd yn gwrdd canu’r corau mawr. Nid wyf i am yngan gair yn erbyn canu, ond nid ar ganu yn unig y bydd byw dyn, ac nid pob dyn sydd yn glust nac yn geg i gyd. Da fyddai pe gollid cael gan fwy o’n cyd-wladwyr apelio at y llygad drwy ddefnyddio’r pwyntyl i dynau darluniau celfydd o olygfeydd heirdd fel y rhai a geir yn y rhan hon o Gymru. Ond ryw fodd neu gilydd, nid yw’r Eisteddfod hyd yma wedi llwyddo i ddarbwyllo meibion a merched Cymru i ddadblygu eu galluoedd nag i arlunio na cherflunio. Canys hwyrfrydig wyf i gredu nad oes ganddynt athrylith o’r fath sydd gennyf mewn golwg, a da gennyf weled nad yw’r pwyllgor wedi anghofio’r canghennau hyn o’r celfyddydau cain.

Wrth son am yr Eisteddfod Genedlaethol dylaswn ddyweyd mai’r eisteddfodau llai sydd yn gwneuthur y rhan fwyaf o’r gwaith; gwnant hwy eu rhan yn ddistawach, a pharatoant y wlad at yr Eisteddfod fawr, ac y mae iddynt nodwedd odidog arall, sef y gall corachod fel myfi a’m cyffelyb eu hannerch. Mewn gair rhoddant gyfleusdra i ni i siarad, ac nid dim o beth yw hynny, canys nid rhaid galw i’ch cof mai gwychgan bob edn ei lais. Pa fodd bynnag am hynny, nid yw yr eisteddfodau lleol braidd byth. yn hollol esgeuluso llenyddiaeth a hanes Cymru; a gobeithio y daw heddyw i’r goleuni bryddest ardderchog ar brydferthion ac enwogion Dyffryn Teifi. A meddylddrych rhagorol oedd cael casgliad o’r enwau lleol o gylch ogylch i Ddinas Emlyn, a buasai yn dda iawn gennyf fi pe buasai wedi cael derbyniad gwell nag a gafodd. Canys y mae yma laweroedd o enwau hynod ddyddorol. Er engraifft, ceir ar lafar gwlad y rhan hon o honi amryw hen enwau personol na wneir defnydd cyffredinol o honynt mwy, megis Arthen yn Aber Arthen; Cadfor yn Llwyn Cadfor; Geraint ym Medd Geraint; Gwrtheyrn yng Nghraig Gwrtheyrn nas gwn yn iawn pa le y mae; a Gwyrful, neu Gwrful, yn Ffynnon Gwyrful. Dyna i chwi bump o enwau personol sydd yn adnabyddus mewn mannau ereill, megis Arthen yn Rhiw Arthen, yn Nyffryn y Rheidol: ac y mae Geraint yn enw adnabyddus yn llenyddiaeth Cymru, a dyddorol yw clywed Bedd Geraint yn cael ei seinio Beth Geraint, yr un modd yn union ag y gwna’r werin Bedd Gelert, yn sir Gaernarfon, yn Feth Gelert; gwelwch fod yr un deddfau seinyddol yma ac yno. Mae Gwrtheyrn hefyd yn adnabyddus yn ein llenyddiaeth, a cheir yma a thraw leoedd ar hyd a lled Cymru yn dwyn ei enw anffodus. Yr enw mwyaf anghyffredin o’r pump yw Cadfor, ond digwydd yn ei ffurf Wyddelig yr ochr arall i’r mor. Ac y mae Gwyrful yn fwy adnabyddus i mi yn y ffurf Gwerful yn enw eglwys yn y Gogledd a elwir Betws Gwerful Goch, y byddai esgob Seisnig diweddaf Llanelwy yn arfer ei galw yn Fetws-Jee-Jee. Ni fyn Cymry yr oes hon weled enwau eu hen seintiau, pa fath bynnag oedd daliadau crefyddol y seintiau hynny, yn cael eu cymeryd yu ysgafn.

Dwg hyn ar gof i mi ddau enw o darddiad Hebreig y sydd wedi eu Cymreigyddio a’u cysylltu â lleoedd yn yr ardaloedd hyn, set Dewi a Deiniol. Dewi neu Dewydd yw’r ffurf hynaf o’r enw yn Gymraeg, ond y mae ffurf ddiweddarach iddo, sef Dafydd, heb son am drydedd ffurf sydd yn dygymod a geneuau rhai pobl yn well fyth, sef David, a ddygir yn syth o’r Saesneg. Am yr enw Deinol neu Deinioel, o’r enw ysgrythyrol Daniel y daw hwnnw, a chysylltir ef â ffynnon ar fin y ffordd i Lanarth. Arweinia hyn fi i’r dwfr, a thynnir fy sylw at amryw ffynhonnau sydd wedi bod yn ol pob tebyg yn cael eu hystyried yn rhinweddol, megis Ffynnon Ddeinol, Ffynnon Ddewi, Ffynnon Wyrful, Ffynnon Fadog, a Ffynnon Dudur, a chlywaf hefyd am Ffynnon Fendiged, canys dyna gynhaniad Dyfed o’r hyn a ysgrifennir yn Fendigaid. Enwau saint yw’r rhan fwyaf o’r rhai yna fel y gwelwch; a gall fod llawer o saint wedi bod yn yr ardaloedd hyn nas gwyddom ni hyd yn oed eu henwau heb son am eu hanes a hanes eu gwaith, Yr wyf i wedi bod yn aros rhyw bythewnos bellach yn Esgair Eithin ar bwys Traeth Saith; ac yr wyf wedi dyfalu llawer a oedd a fynnai rhyw sant â hwnnw. Dywed rhywun mai enw'r nant yw Saith am ei bod yn union fel saeth. Mae hynny yn groes i'r iaith a'r ffaith hefyd; canys ni chymysgir y geiriau saith a saeth gan neb sydd yn siarad Cymraeg hyd ag y gwn i. Ac am fod y nant yn union fel saeth nid gwir hynny, ond ystori i’w derbyn gan bobi o bell, neu bell o'u cof o'r hyn lleiaf. Cymaint a hyn am y fympwy yna. Dywed rhai ereill mai'r Saith yw'r saith fyddwch chwi'n gael wrth son am y saith ganwyllbren aur neu'r saith gysgadur, a'r saith hefyd a feddai clychau Aberdyfi, yn ol fel y bydd rhai yn eu rhifo. Ond camgymeriad i'm tyb i yw hwnna, canys ni ddylai clychau Tylwyth Teg Cantref y Gwaelod fwy na chlychau'r Tylwyth hwnnw mewn un cantref arall rifo mwy na phump. Saith o ba beth ynte sydd i'w ddeall mewn cysylltiad â Thraeth Saith? Wel hwyrach mai'r Saith Gysgadur a feddylir, a'r diwrnod o'r blaen pan gefais i olwg gyntaf ar y lle prydferth hwnnw, tybiais i mi weled y Saith yn chwareu croci ar y tywod, a chedwais ymhell oddiwrthynt rhag eu deffrfo. Yr oedd y saith o ddwy ryw, ond myn rhywun mai Saith Ann wedi dyfod yma mewn llong foel yn yr amser gynt oedd Saith y Traeth, ond pa reswm sydd mewn peth felly, bernwch chwi; a oes rhyw synwyr, meddwch chwi, yn y meddylddrych o saith Ann Jones yn yr un cwch bach?

 

Ond gadewch i mi ddychwelyd am funyd at y saint y soniais am danynt eiaoes, yn enwedig Dewi. Crybwyllais ddwy ffurf Gymraeg i'r enw, sef Dafydd a Dewi; yr un modd y mae i'r gair sant a ddeillia o'r Lladin sanctus ffurf hynach, a honno oedd “seith,” sef yw hynny mewn sillebiaeth ddiweddar “saith.” Er engraifft, gelwir yr abostol Pedr yn Llyfr Taliesin yn Seith Pedyr, ac y mae son yn hen Lyfr Llandaf am eglwys y Douddeg Seith, nifer lled fawr feallai yn yr un eglwys. Pa foudd bynnag, dyna'r enw oedd ar yr eglwys honno, a dichon mai yr hyn a olygid wrth Draeth Saith oedd y traeth lle glaniodd rhyw hen “saith” neu sant o bell i bregethu'r efengyl i baganiaid yr oesoedd tywyll, ac i'w cynghori i dalu'r degwm yn dawel. Hwyrach o ran hynny mai enw tad Dewi oedd Saith, canys yn ol y chwedlau enw priodol hwnnw oedd Sant, er mai amhriodol oedd iddo gyda golwg ar ei fuchedd; pa fodd bynnag, gall mai'r gŵr a elwir wrth yr enw Sant yn y chwedlau oedd Saith yr amser yr oesai efe ynddo. Ond ni chymerwn lawer am haeru mai dyna'r esbouiad sydd i'w roddi ar yr enw, er ei fod cystal a’r “saeth” y clywsoch am dani, a’r “saith Ann” hefyd. Hwyrach na ŵyr pawb fod y bobl sydd yn codi tai yn Nhraeth Saith wedi cymeryd yn eu pennau alw’r lle wrth yr enw Tre’Saith. Ond gŵyr pawb am deuluoedd a ddisgwylient i bob cyw hwyad o’r eiddynt hwy dyfu i fyny’n alarch hardd a golygus; peth mawr a chynhwysfawr yw dychymyg.

Pa fodd bynnag, mae mwy o reswm yn hyn nag yn null ambell un o drin enwau lleol: dyna’r enw Madog sydd yn ddigon adnabyddus i bawb, ond pa reswm, yn niffyg rhyw hysbysiaeth hynafol, sydd dros esbonio Ffynnon Fadog yn Ffynnon Waedog fel y darllennais y dydd o’r blaen? Nid oes mewn golygiad felly ddim ond prawf fod gwaed ar ymennydd y darganfyddwr; megis y mae hylif arall ar ymeunydd ambell i wr arall a genfydd ddwfr yn enw afon Gwy, a Mawddwy a Thywy a Thawe am a wn i; swn dyfroedd sydd yn syfrdanu clustiau rhai pa le bynnag yr elont.

Dyma i chwi engraifft arall, set Pen yr Herber, sydd wedi ei anfarwoli gan ddawn ac areithyddiaeth Dr. Herber Evans y mae’r ardal hon a Chymru oll a chanddi bob rheswm i fod yn falch o hono. (Gwelais yr enw yn cael ei esbonio dro’n ol yn y dull afresymol a ganlyn, — pen “a head,” her “a challenge,” ber ‘‘short.” Pe buasai y dadansoddiad hwn yn gywir dylasai yr enw gymeryd y ffurf Pen yr Herfer, ac nid Herber, ond anfynych y bydd esbonwyr o’r fath yn ymostwng i ystyried seinyddiaeth yr iaith. Os amhenwch hwynt haerant mai llygriad sydd wedi cymeryd lle. Ond nid Pen yr Herber rhyngom ni a Chwm Cuch yw yr unig le o’r enw; y mae un arall ar bwys Tan y Groes; a dylasai y ffaith honno awgrymu fod ystyr uniongyrch i’r gair herber: a dyma fo, cysgod neu lety neu ysbyty. Gair o darddiad Seisnig yw herber, a dyna un o ffurfiau yr hen air Seisnig herberge, a olygai ysbyty neu lety. Defnyddir yr un gair gan yr Ellmyn am westy hyd heddyw, ac y mae wedi myned yn albergo yn yr Eidal ac yn auberge yn Ffrainc. Fel yna chwi a welwch fod ambell i enw y gellir cael allan ei ystyr; ond y brofedigaeth y syrth rhai iddi yw meddwl y gallant hwy esbonio pob enw heb un ymdrech bellach na chrafu eu pennau. Er pan wyf i yn yr ardal, yr wyf wedi cael ugeiniau o gwestiynau am ystyr enwau lleol, a’r rhan amlaf gorfodir fi addef nas gwn, ac i yrru’r gofynwyr ymaith mewn syndod mor ddygn yw fy anwybodaeth i am berthau y medr pob un o’r hollwybodolion lleol ymhelaethu arnynt heb “os” nac “oni bae.” Y wers a garwn ei dysgu iddynt yw cydymoddef â’r meddylddrych fod enwau i’w cael nas gwyddant hwy na neb arall eu hystyr, ac mai purion gadael rhai pethau i ysgolheigion yr oesoedd dyfodol i’w darganfod, a dilyn rheol yr heliwr, sef peidio lladd pob gwylltfilyn yr un tymor.

Ond y peth pwysicaf yw na bo iddynt newid enwau eu hardal na rhwyddhau’r ffordd i neb arall i’w newid. Y mae rhai o’r enwau sydd gennyf mewn golwg yn yr ardaloedd hyn yn cadw ar gof eiriau Cymraeg da, megis yr Hen Hafod, enw sydd hefyd ar le y bum i yn byw rai blynyddau ynddo yn y pen arall i sir Aberteifi; hafod yw lle haf neu yr hyn a eilw gwŷr Ucheldiroedd yr Alban yn shielings. Dyna enw arall sydd yma o natur ddesgrifiadol, — Llwch yr Hâl, y buaswn i yn ei gyfieithu i Gymraeg mwy arferedig heddyw fel “Llyn y llaid;” canys llyn yw “llwch” a llaid neu fudreddi yw “hâl,” y tardd o hono’r gair “halog” a “halogi.” Ni chrybwyllaf ond un eto, sef Llannerch y Moydw; ceir yn hwn y gair “meudwy” yn cael ei seinio yn ol dull tafodiaith Dyfed, ond ni buasai o un diben i mi na neb arall ofyn i chwi pa fodd y seinir y gair “ moudwy “ yn y Dyfedwys pe na buasai enw’r lle yn ei gadw ar eich tafodau; yr ateb fuasai na wyddech chwi ddim am y cyfryw oddigerth cyfarfod ag ef mewn llyfrau.

Pa le bynnag y mae cwacyddiaeth wedi cael ei phig i mewn, alltudir ffurfiau Dyfed o’r enwau er mwyn dodi yn eu lle fath o sillebiaeth lenyddol. Cymerer yn engraifft yr enw a gynhenir Clun yr Our ar le ar bwys Pen y Morfa; ni fyn rhai ei ysgrifennu yn amgen na “Glyn yr Aur,” er na wneir ond ychydig neu ddim o ddefnydd o’r gair “glyn” yn y gymydogaeth. Mewn gwirionedd ni fynnwn i dderbyn yma un enw a’r gair “glyn” ynddo heb groesymholi ac heb glywed pa fodd y seinir ef gan yr anllythyrennog. Nid anaml y ceir y gair “clun” mewn enwau yn Nyfed, megis Clun yr Ynys yn agos i Ynys Aberteifi; a’r un yw yn ol fy marn i a’r gair Gwyddelig cluain a olyga weirglodd; ac os felly “clun” yn hytrach na “clyn” fyddai’r sillebiaeth gywiraf; a chof gennyf fod y gair “clun” yn digwydd mewn rhyw hen lyfr yn yr enw “Clun Cein,” sydd bellach wedi myned yn adnabyddus fel Cilcain, yn agos i’r Wyddgrug, yn y Gogledd. Ond i ddychwelyd at y cwacyddion, er cyflymed ydynt i frith lenyddoli’r enwau, nis gellir dibynnu arnynt i nadel yr anllythyrennog i’w llygru. Dyna’r engraifft o Gwm Coednerth, y buaswn i ‘n disgwyl enw dyn ynddo ar ol y gair Cwm, ond nid yw Coednerth yn debyg i enw personol, a’r dydd o’r blaen wrth edrych dros hen ltfrau eglwys plwyf y Penbryn darganfyddais mai Cwm Gwydwrth oedd yno ryw chwech ugain mlynedd yn ol, a daeth i’m cof fod Gwaednerth yn digwydd fel enw rhyw hen Gymro nad wyf yn cofio dim arall am dano. Dyma i chwi engraifft arall, sef enw’r nant a elwir yn Hawnant neu Hownant; y mae rhai o’r bobl sydd yn medru ysgrifennu yn ei gwneyd yn Hoffnant, a Blaenhoffnant a welir uwch ben drws gwesty yn y Cwm. Ond yn hen lyfr plwyf y Penbryn y sillebiaeth yw Hafnant, ac o’r sillebiadau hyn y gwaethaf, i’m tyb i, yw Hoffnant y ty tafarn.

 
Rhaid i mi ymatal rhag eich blino, canys nid oes diwedd braidd ar yr engreifftiau rhyfedd hyn y mae ol cywreinrwydd direswm a lletwith wedi ei argraffu arnynt. Peidiwch a thalu sylw iddo, ond cadwch yn gyndyn at yr enwau fel y dysgasoch hwynt gan eich hynafiaid, a chofiwch fod i bob un o dafodieithoedd y Gymraeg ei nodweddau a’i phriodolion ei hun, ac mai nid cyfiawnder â’r Ddyfedwys yw gwneyd iddi yndwybro yn afrosgo yn llywetheiriau tafodiaith Mon nac Arfon.

U n o’r enwau rhyfeddaf yn sir Aberteift i’m tyb i yw Troed yr Aur, ac ymddengys fod llygriad o ryw fath wedi cymeryd lle ynddo; canys ceir ef weithiau wedi ei ysgrifennu neu ei argraffu’n Tredroir. Ond tywyll i mi yw hynny hefyd, a da oedd gennyf glywed y dydd o’r blaen fod gan gyfaill o’r eiddof hen weithredoedd yr ysgrifennir ef ynddynt Tref deyrn, Tredeyrn, neu rywbeth o’r fath. A chlywais wedi hynny gan Mr. Lloyd, ficer hybarch y plwyf, Tref deyrn yw yr enw ar gymunlestr hynafol yr eglwys sydd dan ei ofal. Ond os Tref deyrn oedd enw yr ardal a’r plwyf, carwn wybod pa deyrn a olygid, a pha beth sydd gan hanesyddiaeth i’w draethu ar y pwnc.

Ar ol mân ymddiddan â chwi fel hyn, mynnwn alw eich sylw at un neu ddau enw sydd yn galw i’m cof rai o’r hen chwedlau Cymreig. Y dydd o’r blaen, wrth gerdded o Dan y Groes i Aber Teifi, croeswn ffrwd fechan mewn lle a elwir Pen y Bont, cyn dyfod i Dre’ Main, a dywedwyd i mi gan ragor nag un o drigolion yr ardal mai enw’r ffrwd yw Gwenwynfarch. Nid wyf yn deall yr enw, ond dwg i’m cof chwedl Ceridwen Wrach a’r Pair Dadeni. Yr oedd hi wedi bod yn llysieua am amser maith yn ddiwyd dros ben, ac wedi gosod Taliesin a gŵr dall o’r enw Mordaf i edrych ar ol y Pair yn berwi. Ond wrth ferwi fe dorrodd y pair a llanwodd ei gynnwys Lyn Tegid â’i wenwyn. Cysylltir y chwedl hefyd ag ambell i lecyn arall, a dywedir i’r gwenwyn o’r Pair wenwyno meirch Gwyddno Garan Hir, a cheir yma a thraw nant a elwir yn Wenwyn Meirch Gwyddno, neu yn fyrrach, Gwenwyn Meirch, megis y gelwir ffrwd yn rhywle rhwng Conwy a Bangor; nid cof gennyf pa le yn iawn y mae. Ond dyna sylwedd yr ystori, a buasai yn dda gennyf wybod a oes trymwydd o’r un chwedl i’w chael yn yr ardaloedd hyn, megis yn y Gwenwynfarch gerllaw Tre’ Main.

Dros y cefn yna mae dyffryn a elwir yn awr Cwm Cuch, a elwid gynt Glyn Cuch, ac yno yn y coed y cedwid moch Pryderi brenin Dyfed, medd un o’r Trioedd Cymreig; ac yno cyn hynny y bu Pwyll ei dad ef yn hela, pan gyfarfyddodd â brenin Annwn. Felly gellir casglu fod crediniaeth ryw dro yn bodoli fod un o byrth Annwn yng Nghwm Cuch, a charwn yn fawr wybod a oes yno ogof neu agen a allai roddi bod i chwedloniaeth o’r fath. Y mae gennyf hen ofyniad arall, set pa le yr oedd Pen Llwyn Diarwya y sonia ystori Pwyll am dani yn y Mabinogion. Dywed honno i Bwyll ddyfod i fyny o’i lyn yn Arberth, i Ben Llwyn Diarwya, i fod yn barod i ddechreu hela Glyn Cuch yn ieuenctid y dydd drannoeth, ac mai’r boreu pan wnaeth hynny y cyfarfu frenin Annwn. Fy ngofyniad i yw, — pa le yr oedd Pen Llwyn Diarwya? Barna’m cyfaill meddygol Mr. Powell yma ei fod ef wedi cael hyd i’r fan, sef yw honno Pen Llwyn Du, ac aeth a mi yno y dydd o’r blaen. A dyma a welsom ar wal y gwesty, — enw Pen Llwyn Du, ac oddiar yr enw llun llwyn; a phan ofynnodd Mr. Powell ar ymweliad blaenorol beth oedd y llun, yr ateb oedd mai llwyn eirin duon bach oeddl, ac mai’r enw’n gyflawn yw Pen Llwyn Da Eirin Duon Bach. Tueddir fi i feddwl fod Mr. Powell yn iawn, ac mai atodiad at yr enw yw y ddeuair “duon bach,” ac mai’r enw cyn hynny oedd Penllwyn Du Eirin, a hynny feallai yn llygriad o’r enw Pen Llwyn Diarwya fel y ceir ef yn y Mabinogi. Y mae anhawsder arall ynglyn â’r pwnc, sef pa Arberth oedd mewn golwg yn y Mabinogi; golyga rhai mai tref Narberth yn sir Benfro oedd, ond y mae honno ymhell o Gwm Cuch; ac ar y llaw arall y mae gennym Arberth yn ymyl, ond erbyn hyn ymddengys mai enw yn unig ar afonig yw a ddisgyn i’r Teifi ryw ychydig lathenni oddiar Bont Llechryd, ac a dardd ryw le yng nghymydogaeth Blaenannerch. Rhydd ei henw i balasdy a elwir Glan Arberth, ac i bentref bychan a elwir Pontyrdarberth, sef yw hynny, debygaf i, Pont Rhyd Arberth. A’r hyn yr hoffwn i hynafiaethwyr glannau’r Teifi ei wneyd yw darganfod pa le yr oedd Llys Arberth a Gorsedd Arberth yn sefyll. Os ceir hwynt yn yr ardal hon, nid anhebyg na cheir hyd hefyd i’r lle y treuliai Pwyll y noson cyn mynd i hela Glyn Cuch, sydd yn agor i afon Teifi ryw filltir’o’r Pen Llwyn Du. Dylent ddechreu yn y Pen Llwyn Du, a chwilio’r llecyn cyfagos y saif palasdy’r Pant Gwyn arno; ac os methant yn y ddau le hyn, doeth fyddai chwilio pennau’r bronnydd oddiarnynt am hen olion amddiffynfeydd. Ond ymataliaf, gan mai dysgu pader i’r person yw i mi ymgymeryd â’r gwaith o hyfforddi eich hynafiaethwyr chwi mewn ymchwiliad o’r fath.

Ni wyddys i ba gyfnod yn y cynfyd y perthyn y pethau hynaf yn y Mabinogion, ond y mae’r ardaloedd hyn yn gyfoethog mewn olion ereill o hynafiaeth, sef hen feddfeini yn perthyn i’r bumed a’r chweched ganrif. Dyna un o’r rhai mwyaf amlwg o honynt yn sefyll ar ganol cae llafur yn Nyffryn Bern, yn agos i’r Penbryn, amryw yng Nghil Geran a’r Bridell, amryw ereill ym mynwent Clydeu, a byddai un yn gorwedd hyd yn ddiweddar mewn cae odditan y Gelli Dywyll; ond y mae honno bellach wedi ei gosod i fyny ym mynwent Cennarth. Y mae y meini hyn mor hen fel na wyddys ddim am y bobl y codwyd hwynt er coffadwriaeth iddynt, a rhyfedd y chwedlau a gredir am rai o honynt. Er engraifft, pan fum i ychydig flynyddau yn ol yn edrych ar hen garreg Gelli Dywykk, adroddai gweithiwr i mi mai carreg fedd oedd i gaseg wen rhyw hen gyrnol neu ryw foneddwr milwriaethus arall oedd mewn mawr alar am ei anifail ryw oes neu ddwy yn ol. Ni fedrwn fodd yn y byd roddi cyfrif am yr ystori, ond credaf yn awr fy mod wedi cael hyd i allwedd y dirgelweh. Lladin yw’r darlleniad fel hyn,— CVRCAGNI FILI ANDAGELU; sef a fyddai hynny yn Gymraeg.— Bedd Cyrchan fab Yniell” neu ryw enw felly. Ac os bu y garreg ar fedd y gaseg wen, rhaid fod yr hen filwr wedi meddwl ddarfod iddo ddarganfod y gair am eboles yn y FILI ar feddfaen hynafol Cyrchan. Ond pwnc yw hwnna i hynafiaethwyr Cennarth a’r Castell Newydd i chwilio i mewn iddo; a pha beth bynnag a wneler, na adawer i un niwed ddigwydd i’r hen feini coffadwriaeth hyn sydd wedi goroesi cymaint o gyfnewidiadiau a chwildroadau ymhlithi trigolion Dyfed. Pa le bynnag y clywoch ddarganfod carreg o’r fath gyrrwch air yn ddioed i’r papurau newyddion, ac uwchlaw pob peth cadwch y garreg yn ofalus rhag y masiwn neu’r saer maen; canys efe yw gelyn mwyaf penderfynol coffadwriaeth garegol yr oesoedd aethant heibio. Gwnaiff y tywydd et waethaf i’w difetha, ond gwnaiff y masiwn fwy, ac y mae ambell i dyddynwr yn agos cynddrwg. Eisieu y sydd i’r Cyngor Sir a’r Bwrdd Ysgol gefnogi yr ysgolfeistriaid i ddysgu’r oes sydd yn codi am werth a dyddordeb gweddillion hynafiaetliol ein gwlad. Y mae llywodraeth Ynys Manaw ar y blaen i bawb o honom yn hyn o beth; gosodant hwy bapur mawr neu garden helaeth i fyny ym mhob ysgoldy yn yr ynys, i ddangos pa beth yw’r gyfraith gyda golwg ar berchenogaeth gweddillion hynafiaethol, a darluniau i ddangos llun y pethau mwyaf cyffredin sydd i’w disgwyl i ddyfod i oleuni wrth drin y ddaear neu dorri sylfaeni tai ac adeiladau ereill. Y canlyniad yw fod yn bosibl i’r ysgolfeistr yno wneyd ei ysgolheigion yn hynafiaethwyr o’u mebyd, ac yn llygad agored pa le bynnag y byddo achlysur i briddellau’r dyffryn ddatguddio eu trysorau cuddiedig. Paham na chaiff plant Cymru fanteision o’r un fath? Nid oes dim ond difrawder ac anwybodaeth ar y ffordd, canys y mae gennym ni fwy na mwy o fyrddau a chynghorau bellach, — byrddau ysgol, cynghorau sir, cynghorau plwyf, a chynghorau ereill nas gwn i hyd yn oed eu henwau. Un o amcanion yr Eisteddfod yw diwyllio a goleuo’r genedl, a hwyrach y gallai lewyrchu yn y cyfeiriad a grybwyllais. Ond gwelaf ei bod yn hen bryd i mi dewi, a gadael i olwynion y gystadleuaeth fyned rhagddynt. Ac heblaw hynny canfyddaf fod y beirdd a’r cerddorion fel pe ar ymdorri gan ysbrydiaeth yr awen o bob rhyw; ond erfyniaf arnynt gofio mai o’r holl awenau “Goreu awen, Gwirionedd.”

 

DIWEDD

 

___________________________________________

 

 

Sumbolau:


a A / æ Æ / e E / ɛ Ɛ / i I / o O / u U / w W / y Y /
MACRON: ā
Ā / ǣ Ǣ / ē Ē / ɛ̄ Ɛ̄ / ī Ī / ō Ō / ū Ū / w̄ W̄ / ȳ Ȳ /


MACRON + ACEN DDYRCHAFEDIG: Ā̀ ā̀ , Ḗ ḗ, Ī́ ī́ , Ṓ ṓ , Ū́ ū́, (w), Ȳ́ ȳ́
MACRON + ACEN DDISGYNEDIG: Ǟ ǟ , Ḕ ḕ, Ī̀ ī̀, Ṑ ṑ, Ū̀ ū̀, (w), Ȳ̀ ȳ̀
MACRON ISOD: A̱ a̱ , E̱ e̱ , I̱ i̱ , O̱ o̱, U̱ u̱, (w), Y̱ y̱
BREF: ă Ă / ĕ Ĕ / ĭ Ĭ / ŏ Ŏ / ŭ Ŭ / B5236:  B5237: B5237_ash-a-bref
BREF GWRTHDRO ISOD: i̯, u̯
CROMFACHAU:   deiamwnt

ˡ ɑ ɑˑ aˑ a: / æ æ: / e eˑe: / ɛ ɛ: / ɪ iˑ i: / ɔ oˑ o: / ʊ uˑ u: / ə / ʌ /
ẅ Ẅ / ẃ Ẃ / ẁ Ẁ / ŵ Ŵ /
ŷ Ŷ / ỳ Ỳ / ý Ý / ɥ
ˡ ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ uɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ /
£
ә ʌ ẃ ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẅ ẁ Ẁ ŵ ŷ ỳ Ỳ
Hungarumlaut:

 

U+1EA0 Ạ   U+1EA1 ạ
U+1EB8 Ẹ   U+1EB9 ẹ
U+1ECA Ị   U+1ECB ị
U+1ECC Ọ   U+1ECD ọ
U+1EE4 Ụ   U+1EE5 ụ
U+1E88 Ẉ   U+1E89 ẉ
U+1EF4 Ỵ   U+1EF5 ỵ

gw_gytseiniol_050908yn 0399j_i_gytseiniol_050908aaith δ δ £
wikipedia, scriptsource. org

 
wikipedia, scriptsource. org
https://en.wiktionary.org/wiki/ǣ

---------------------------------------

 

Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_testunau/sion-prys_242_enwau_lleoedd_cymru_john_rhys_1896_2098k.htm

 

---------------------------------------

Creuwyd: 16-07-2013
Ffynhonell:
Nodlyfr 611
Adolygiad diweddaraf :
2004-02-26
Delweddau:


Freefind:

Archwiliwch y wefan hon
SEARCH THIS WEBSITE
...
Adeiladwaith y wefan
SITE STRUCTURE
...
Beth sydd yn newydd?
WHAT’S NEW?


Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait

 

counter
Edrychwch ar yr Ystadegau / Mireu les estadístiques / See Our Stats