2010-05-26


http://www.theuniversityofjoandeserrallonga.com/kimro/amryw/1_hiwmor/ffraethebion_am_y_saeson_2181k.htm
Cysylltwch â ni trwy’r llyfr ymwelwyr / Contact us via the visitors’ book: YMWELFA

0001z Y Tudalen Blaen

..........1863c Y Porth Cymraeg

....................0009k Y Gwegynllun

.............................2199k Y Gyfeirddalen Hiwmor

........................................y tudalen hwn / aquesta pàgina


..  (delwedd 0003)
..







 

 

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
 
Ffraethebion am y Saeson -
40 o jôcs anfarwol ddigrif am blant Alis
 
 


 (delwedd 0358j)

 

40 - SIOPA Â’R BABAN

Sais a’i wraig yn mynd i siopa i’r archfarchnad, a’r baban yn y pram ganddynt.


“Dim ond eilaid bach bydda i,” meddai’r wraig, a dyma hi’n i mewn i’r siop ar ei phen ei hun, a’r gŵr yn aros tu allan gyda’r baban.


Ar ôl pum munud, dyma’r wraig allan eto â bagaid bach o fwÿd yn ei llaw, ac maen nhw’n cychwyn tuag adre.


Yn sydyn, dyma’r wraig yn aros yn ei hunfan ac yn dweud yn llawn syndod - “Saf funud! Nid ein babi bach ni mo hwn!”


Cau dy geg a dal i gerdded, wraig,” myntai’e gŵr. “Mae’r pram hwn ganmil gwell na’r llall.”


 

39 - DILLAD RHAD

Dau Sais wedi mynd i Aberystwyth ac yn cerdded i lawr yr Heol Fawr. Menw un o’r siopau mae arwydd yn y ffenest sydd yn tynnu’u sylw un ohonÿnt: Siwtiau - £10.00 (decpunt); trwserau - £3.00 (teirpunt), crysau - £2.00 (dwÿbunt).  Wrth bob pris y mae llun bach - siwt, crÿs, a thrwser.


Wel, wel,” meddai’r Sais yn soniarus yn iaith Siôn Ben Tarw, “mae’r Cymry mor dwp, sdim clem ’da nhw sut i wneud arian. Wyddoch chi beth? Pe bysen ni’n prynu llwyth o’r stwff yma heddiw, byddwn ni’n gwneud ffortiwn yn ôl yn Lloegr. Awn i mewn i’r siop, ond paid siarad dim. Rhaid iddyn nhw feddwl taw Cymry ŷn ni, neu fyddan ni’n codi dwywaith y pris sydd ar yr arwydd.”


Ond sut rwÿt ti’n mÿnd i wneud hynnÿ? Dim ond Saesneg rwÿt ti’n siarad.”


Ie, ond does dim rhaid siarad Cymraeg – os dyweda i “look you”, “boyo” a “yakky dah” gydol yr amser, maen nhw’n fownd o feddwl taw Cymro di-Gymraeg w i.


I mewn â nhw, ac y mae’r Sais cyfrwÿs yn archebu cant o bopeth, gan wneud yn sicr ei fod yn gollwng sawl “look you”, “boyo” a “yakky dah” yn ei sgwrs.


Ah,” meddai’r perchennog yn iaith y Sacson, “Saeson ÿch chi, ynte fe?”


Y Sais yn synnu fod y perchennog wedi gweld mewn byr eiliadau nad Cymry mohonÿn nhw. Doedd dim gobaith ganddyn nhw nawr brynu’r dillad am y prisiau bach hyn, felly dyma fe’n dweud yn ei famiaith,


Daro! Chi’n iawn. Ond shwt o’ch chi’n gwybod hynnÿ?”


“Wel, fanco dros yr heol mae’r siop werthu ddillad. Siop lanháu dillad yw hon.”



38 - YR HEN DEWI SANT

Mae Cymro yn eistedd ar ben ei hun mewn tafarn wlad un noson Gŵyl Dewi yn yfed peint bach o gwrw.


Dyma dri Sais sydd newydd brynu tai yn y cylch yn swagro i mewn. Mae’r tri yn eistedd wrth fwrdd, ac digwydd gweld y Cymro, a chenhinen wedi ei phinio wrth labed ei siaced. Maen nhw’n penderfynu ceisio ei wylltio.


“Mae syniad gen i,” meddai un o’r Saeson. “Edrychwch ar hyn.”


Mae e’n codi a mynd at y Cymro ac yn dweud yn iaith yr Ymerodraeth , “Maen nhw’n dweud taw pencampwr cnychu defaid oedd ych Dewi Sant chi.”


Mae’r Cymro’n codi ei aeliau ac yn ateb, “Odyn nhw, wir?”


Mae’r Sais yn gweld nad yw wedi gwneud i’r Cymro wylltio, ac yn mynd yn ôl i’w sedd yn siomedig.


Dyma’r ail Sais yn codi, gan ddweud wrth y Sais cyntaf, “Rhaid ei gwneud yn iawn, nid fel gwnest ti hi. Edrych ar hyn nawr!”


Mae e’n mynd at y Cymro ac yn dweud yn iaith yr Ymerodraeth , “Maen nhw’n dweud taw pencampwr cnychwr defaid oedd ych Dewi Sant chi, ac roedd e’n gwisgo dillad merched hefyd.”


Mae’r Cymro’n codi ei aeliau ac yn ateb, “Odyn nhw, wir?”


Dyma’r ail Sais yn mynd yn ôl at ei sedd, yn ffaelu deall pam nad yw’r Cymro wedi gwylltio.


Meddai’r trydydd Sais, “Edrychwch chi arno inne. Fe fydd hyn yn hala’r blydi Cymro ’na benwan holics.”


Dyma fe at y Cymro a dweud yn iaith yr Ymerodraeth, gan wenu’n watwarllyd, “Maen nhw’n dweud taw SAIS oedd ych Dewi Sant chi.”


Mae’r Cymro’n yn amneidio’i ben, ac yn dweud, “Ie, dyna oedd eich ffrindiau chi’n dweud wrtho i hefyd.”


38 - Y SAIS YN Y LLEW DU
Sais meddw yn gwegryn i dafarn y pentre. Lan ag e igam-ogam at y bar, a dyma fe’n dweud yn fyngus yn yr iaith fain,


“Parti ffantastig yn y clwb golff heno - nes iddyn nhw fy nhowlu allan.
Rhowch wisgi dwbl i fi, barman. A brysiwch!”

“Mae’n ddrwg gen i, achan,” meddai’r barman wrtho. “Oni fydd yn well i chi fynd adre a chael noson dda o gwsg? Rych chi wedi ’i dala hi’n dwll.”


I maes a’r Sais, dan dyngu a rhegu’n uchel.

Ond ymhén pum munud, dyma’r Sais
i mewn unwaith eto. Lan ag e at y bar.


“Wisgi dwbl! A brysiwch!” mae’n gorchymyn yn fyngus i’r barman.
  
“Mae’n ddrwg gen i, achan,” meddai’r barman wrtho. “Rw i wedi gweud wrthoch chi’n barod - rych chi wedi cael eich gwala o wisgi. Mae’n well i chi fynd adre.”


I maes â’r Sais, dan dyngu a rhegu’n uchel.

Ymhén deng munud eto, dyma fe i mewn am y trydydd tro. Lan ag e yn simsan at y bar.


“Rhowch wisgi dwbl i fi, barman. A brysiwch.”


“Mae’n ddrwg gen i, achan,” meddai. “Dewch nôl yfory. Chewch chi ddim byd gen i heno.”


“Diawch ariôd! Y chi eto!” meddai’r meddwyn o Sais
yn syn. “Sawl tafarn ych chi’n gweithio ynddo?”



37 - PAID AG YSMYGU
Sais yn mynd at y meddyg am fod peswch cas arno.
-Faint o sigarennau ych chi’n ’hysmygu bob dydd? meddai’r meddyg.
-Deg
-O hyn ymlaen, dim ond pump gewch chi ’hysmygu gen i.
-Campus! Fe es i at feddyg arall y bore ’ma a chan hwnnw wi’n cael ysmygu pump hefyd.


36 - Y RHIF FFÔN
Sais Mawr: Ydi rhif ffôn tafarn y Llew Coch ’da ti?
Sais Bach: Nac ydi. Pam?
Sais Mawr: Rw i wedi ei golli, a rhaid imi roi neges bwysig i’r perchennog cÿn pump o’r gloch, ac y mae hi’n hanner awr wedi pedwar yn barod. Be wna i nawr?
Sais Bach: Pam nad wyt ti’n ei alw fe ar y ffôn a gofyn iddo beth yw’r rhif?

Sais Mawr: Dyna’r peth mwÿa twp wi wedi clywed ariód! Ond rwyt ti wedi rhoi syniad i mi. Gwaith deng munud yw hi i’r dafarn - os af i lan nawr i ofÿn beth ÿw’r rhif ffôn, alla i fod yn ôl yn y ty^ cÿn pump – ac wedÿn fe alla i ffonio nhw a rhoi’r neges iddÿn nhw cyn ei bod yn rhÿ hwÿr. 

35 - BLE MAE’R ARIAN?
Mae Sais mud a byddar yn mudo i’r Unol Daleithiau, ac yn mynd i fyw i Chicago. Cyfrifydd yw e, ond does neb am roi gwaith iddo. Nes i Al Capone ddod i wybod amdano.

Dyna gyfuniad perffaith!,” meddai yntau. “Cyfrifydd o ran ei swydd, ac ar ben hynny’n fud ac yn fyddar! O’r diwedd, rhywun na fydd yn agor ei geg ac yn dweud gormod.”

Ond ar ôl deng mlynedd, mae’n amlwg fod arian mawr wedi diflannu, a dyma Al Capone yn darganfod bod y cyfrifydd mud a byddar o Sais wedi dwyn miliwn o ddoleri wrth wneud cyfrifon y Ffyrm.

Felly dyma Capone yn mynd i’w weld â’i léfftenant, y Cymro Murray’r Hwmp. Mae Murray yn deall iaith arwyddion, felly dyma fe yn y canol yn lladmeru.

Capone: Gofyn iddo ble mae’r arian.

Murray’r Hwmp: Ble mae’r arian?

Cyfrifydd: Wn i ddim.

Murray’r Hwmp: Dyw e ddim yn gwbod.

Capone: Gwed wrtho y byddwn ni’n lladd ei wraig a’i blant a llosgi ei dŷ os nad yw’n gweud wrthyn ni.

Murray’r Hwmp: Byddwn ni’n lladd dy wraig a dy blant a llosgi dy dŷ os nad wyt ti’n gweud wrthon ni.

Cyfrifydd: Wn i ddim ble mae’r arian.

Murray’r Hwmp: Mae’n gweud nad yw e’n gwbod ble mae’r arian.

Capone: Gwed wrtho, ar ôl gwneud hynny i gyd byddwn ni yn ei sbaddu fe.

Murray’r Hwmp: Ar ôl gwneud hynny i gyd byddwn ni yn dy sbaddu di

Mae’r cyfrifydd yn dechrau chwifio ei freichiau yn gyflym i ddweud bod yr arian mewn saff o dan lawr y gegin, ac y mae’n rhoi cyfunrif y clo i Murray’r Hwmp.

Capone: Be wedodd e?

Murray’r Hwmp: Pam mae rhyw Eidalwr anwybodus a seimllyd fel ti yn meddwl ei fod yn gallu codi ofn ar Sais?

34 - C’MON LLOEGR
Dau Sais yn siarad am gêm bêl-droed:


Steve: Welaist ti’r gêm ar y teledu y pnawn ’ma?


Gavin: Do. Dim i ddim oedd y sgôr derfynol


Steve: Iefe? Beth oedd y sgôr hanner amser ’te?

33 - SAIS YN ABSENNOL
Sais yn cerdded i mewn i gaffi yn Lloegr ac yn gofyn i’r gweinydd newydd -

- Ydi Clive wedi bod yma heddiw?

- Pwy ar glawr daear yw Clive
? meddai’r gweinydd

- Clive, achan! Yr hen foi ’na sydd yn dod yma bob dydd tua’r amser hyn ac yn eistedd wrth y ffenest i ddarllen ei bapur newydd.

- Nage’r twpsyn ’na sy’n gweud wastod – ‘Y peth cynta w i’n ’ddarllen yn y papur yw’r tudalen marwolaethau i weld odi yn enw inne yno’.

- Dyna fe!


- Naddo, dyw e ddim wedi dod heddiw.

- Wel, ’na hen dro. Y tro cynta mewn ugain mlynedd iddo beidio dod, a mae rhywbeth doniol iawn wedi digwydd! Os gwelwch chi fe, gwedwch wrtho bod nhw wedi rhoi’i enw yn y golofn farwolaethau y bore ’ma!

32 - CADW’N HEINI
Stoncyn o Sais blonegog boliog tri deg stôn yn mynd at y meddyg, ac yn cwyno fod llai a llai o ysfa gnawdol ganddo.

“O,” meddai’r meddyg, “mae’r ateb yn syml iawn. Rhaid i chi golli pwysau a chadw’n heini. Rhedwch ddeng milltir bob dydd, a ffoniwch fi ymhen pythefnos.”

Bythefnos wedyn, dyma’r Sais yn ffonio’r meddyg.


Ych chi wedi gweld gwellhâd yn eich bywyd rhywiol oddi ar i chi ddechrau rhedeg?” gofynai’r meddyg..

“Nagw, dim yw dim,” meddai’r Sais. “W i heb weld y wraig yn ddiweddar.
Gant a deugain o filltiroedd i ffwrdd o gartre w i.”

31 - ADDYSG Y SAIS
Beth yw’r deng mlynedd gorau ym mywyd y Sais?
Yr ysgol gynradd.

30 - ADDYSG BELLACH Y SAIS
Beth ych chi’n ei gael os ych chi’n gyrru’n araf trwy dref Taunton?
Gradd gan Brifysgol Taunton.

29 - SAIS NA DDAETH I FYW I GYMRU
Sais yn byw mewn hen dŷ teras afiach yn Llundain. Mae twll yn y to, mae’r wal gefn ar fin cwympo, y mae gwynt erchyll yn dod o bibell garthffosiaeth o flaen y tŷ, ac y mae ugeiniau o lygod mawr yn y seler. Mae e’n penderfynu mudo ac yn mynd at y gwerthwr tai. Hwnnw yn dweud wrtho y buasai’n bosibl prynu plas yng Nghymru am yr arian a gâi am ei dŷ yntau.

“Dowch yn ôl yfory, cewch weld beth sydd ar gael”.

Y Sais yn mynd nôl y diwrnod wedyn ond cyn mynd i mewn mae e’n gweld yn ffenest siop y gwerthwr tai ffoto a disgrifiad o ryw dŷ sydd ar werth yn y gymdogaeth. Does dim pall ar rinweddau’r tŷ, ac y mae ar werth am yr un pris y mae’s Sais yn disgwyl ei gael am ei dŷ yntau.

“Duw mawr, hoffwn i fyw mewn lle fel hwnnw. Buasai’n well o lawer na rhyw hen blas yng Nghymru,” meddai.

Mae’n gofyn i’r gwerthwr

- Beth yw’r tŷ sydd newydd ei hysbysebu yn y ffenest?”

- Wel, ych tŷ chithau yw e, syr.

- Canslwch y sêl! Swn i’n wedi gwbod mod i’n byw mewn lle mor dda, faswn i ddim wedi dod yma i’w roi ar werth!


28 - SAIS YN MYNNU YSGARU
Sais yn mynd at gyfreithiwr.

‘Rwy’n ymofyn ysgaru â ngwraig.’

‘Bydd rhaid i chi esbonio am ba reswm yr ych wedi penderfynnu ysgaru. Er enghraifft, ydi hi wedi bod yn anffyddlon?’

‘Nag ydi, mae’r ffÿdd yn grÿf fel y Graig ganddi – nid yn unig  mae hi’n credu yn Nuw, ond hefÿd yn y Mab a’r Ysbrÿd Lân.”

 Mae’r cyfreithiwr yn gweld nad y seren fwyaf llachar yn y ffurfafen yw’r Sais hwn, ac yn aralleirio ei gwestiwn.

‘Wel, ga i ofyn fel hyn, ydi hi’n gweld dynion eraill?’

‘Os bydd hi’n rhoi ei sbectol, does dim dowt ei bod hi.’

Mae’n ceisio eto, a gofyn, ‘Hynny yw, ydi rhywun arall wedi bod yn ei chwmni?’

‘Camni? Na, nyrs ÿw hi, does dim cwmni gyda hi. Ond mae cwmni golchi carpedi gan gefnder iddi.’

Mae’r cyfreithiwr yn meddwl bod cwestiwn mwy disgrifiadol sydd ei eisiau efallai.

‘Ydi sosej porc dyn arall wedi bod yn ei blwch bara menyn, gwedwch?’

‘Fyswn i ddim yn meddwl. Bwydlysieuwraig yw hi. Dyw hi ddim yn twtshad cig o gwbl.’

Mae’r cyfreithiwr yn dechrau colli amynedd ac yn dweud wrtho,

‘Allwch chi ddim dweud wrtha i’n union pam rych chi’n ymofyn ysgaru â’ch gwraig?”

‘Wrth gwrs. Mae’n falch gen i eich bod chi wedi gofyn hynny i mi o’r diwedd. Fel hyn y mae hi - os gofynna  i rywbeth iddi, cha i byth ateb plaen - dim ond sothach mae hi’n siarad.’


27 - CYFRWYSACH NA NEB
Sais yn mynd ar ei wyliau i America ac yn yfed mewn bar, lle mae’n cwrdd â Mecsicanwr a Rwsiad. Maen nhw’n yfed nes gwario eu harian i gyd.

‘Be’ wnawn ni nawr?’ meddai’r Mecsicanwr.

‘Rhaid i ni ddwyn bàg neu waled yn rhywle. Dyna beth wy’n wneud yn Lloegr pan wy’n mynd yn brin o arian,’ meddai’r Sais.

Allan â nhw i’r heol, lle maen nhw’n gweld hen wraig gyda troli siopa yn mynd heibio, acmaen nhw’n ceisio cipio ei phwrs. Ond dyw hi ddim yn gollwng gafael, ac yn sydyn dyma gar heddlu yn rowndio’r cornel.

‘Be’ wnawn ni nawr?’ meddai’r Mecsicanwr.

‘Gadwch i ni redeg am y cyntaf i’r coed fan draw, a’u dringo i guddio ynddyn nhw,” meddai’r Sais.

Mae dau blismon yn neidio allan o’r car, ac ar ôl eu cwrsio am dipyn, dyma nhw yn dynn wrth eu sodlau. Ond y mae’r lladron yn rhedeg i’r coed ac yn diflannu.

Mae’r heddweision yn mynd at y pren cyntaf, ac yn clywed rhÿwbeth ynghanol y dail. Dyma’r pen plismon yn gwaeddi -

“Dewch i lawr a rhowch eich dwylo i fyny. Rw i’n gwybod bod rhywun lan fan na.”

Y Mecsicanwr sydd yn y pren, a dyma fe’n dechrau canu fel cricsyn.

“O. Nage un o’r lladron yw hwnna wedi’r cwbl,” meddai’r pen plismon. “Dim ond rhyw hen gricsyn sydd lan fan na.”

Ymlaen â nhw at y pren nesa. Mae rhÿwbeth yn symud ymÿsg y dail.

Mae’n gwaeddi eilwaith: “Dewch i lawr a rhowch eich dwylo i fyny. Rw i’n gwybod bod rhywun lan fan na.”

Y Rwsiad sydd yn y pren, ac dyma fe’n yn dechrau crawcian fel brân.

“O. Nage un o’r lladron yw hwnna wedi’r cwbl,” meddai’r pen plismon. “Dim ond rhyw hen frân sydd lan fan na.”

Ymlaen â nhw at y pren nesa.

Y Sais sydd yn y pren olaf. Mae rhÿwbeth yn symud ymÿsg y dail.

 “Dewch i lawr a rhowch eich dwylo i fyny. Rw i’n gwybod bod rhywun lan fan na,” meddai’r pen plismon.

Y Sais yn dweud dim, ond dyw’r heddlu ddim yn mynd i ffwrdd. Felly mae’n penderfynu gwneud fel y lleill.

“Mw... Mw...”

26 - ARCHEBU BLWCH
Sais yn mynd i siop saer ac yn dweud

- Allwch chi wneud blwch imi?

- Wel, gallaf, siwr iawn, meddai’r saer. Beth yw hyd a lled y blwch rych chi’n i moyn?

- Un chwe modfedd o led, chwe modfedd o uchder.... a hanner can troedfedd o hyd.

- Wel, am flwch òd. Pam rych chi’n ymofyn blwch fel hynny?

- O, mae’r dyn drws nesaf wedi mudo ac yr oedd wedi rhoi ei bibell ddŵr yn fenthyg i mi i ddyfrháu’r ardd. Rw i’n moyn ’i hanfon yn ôl ato.

25 - SAIS Â THÂP MESUR
Sais bach ar ben cadair yn ceisio mesur polyn lein â thâp mesur. Ond dyw e ddim yn gallu cyrraedd pen y polyn.

Cymro yn ei weld ac yn dweud -

-Fuasai’n well i chi ei wneud fel hyn!

Mae’n cymeryd y polyn oddi tan y lein ddillad ac yn ei gosod ar lawr.

-Cydiwch yn y pen hyn! meddai wrth y Sais, ac y mae’n tynnu’r tâp mesur nes cyrraedd pen arall y polyn.

-Deg troedfedd pedair modfedd yw e! meddai’r Cymro.

-Ie, ond dyw hynny ddim help i fi o gwbl, meddai’r Sais.

-Pam lai? mae’r Cymro’n gofyn yn syn.

-Uchder y polyn roeddwn i’n ceisio ei fesur, nage’i hyd!


24 - TA TA SBORTSCAR
Sais rywle yn Lloegr yn ennill sbortscar mewn cystadleuaeth yn y Sun, ac yn mynd am dro o gwmpas y dre. Ond wrth fynd trwy stad dai cyngor, dyma weld bod rhywun wedi rhoi rhwystr dros y ffordd. Mae’n cynnig troi i fynd yn ei ôl, ond ar amrantiad dyma gang yn dod o bob cyfeiriad, yn rhuthro ar y car, yn agor y drws, ac yn ei dynnu allan.

“Saf di ar y clawr twll caead fan na!” mae un o’r gang yn gwaeddi wrtho. “Os symudi di oddi arno, fe fyddwn ni yn dy golbio nes dy fod yn las drosot”.

A dyma’r gang yn dechrau malu’r car gyda batiau beisbol. Bob hyn a hyn maen nhw’n edrych i gyfeiriad y Sais. A chwerthin yn harti mae hwnnw.

Ar ôl ymosodiad y gang y mae’r car yn rhacs. Dyma nhw nôl ato fe a gofyn:

“Pam wyt ti’n chwerthin? Ryn ni newydd wneud llanast o dy gar newydd di.”

“Wi’n gwybod hynny,” meddai, “ond fe neidiais i oddi ar y clawr ’ma ddwywaith heb i chi sylweddoli!”


23 - GWLAD DDI-GRIST
Pam na anwyd Iesu Grist yn Lloegr?
Nid oedd yr un wyryf i’w chael yn unlle, heb sôn am dri o ddoethion.


22 - CYFEIRWYR
Cymro yn rhoi lifft i Sais. Ond dyma’r Cymro yn meddwl nad yw’r un o’r cyfeirwyr yn gweithio’n iawn.

Mae’n arafu ac yn aros yn ei unfan ar ochr yr heol, ac yn gofyn i’r Sais -

“Wnewch chi ffafr imi? Wnewch chi fynd mas i sefyll tu ôl i’r car? Roia i’r cyfeiriwr chwith ymlaen. Dywedwch wrtho i a yw e’n gweithio neu beidio.”

Allan ag e, a dyma lais y Sais o tu ôl i’r car:

“Ydi, mae’n gweithio... nac ydi, dyw e ddim yn gweithio... ydi, ... nac ydi, ... ydi, ... nac ydi...”

21 - Y CYMRY ANWAR
Sais sydd wedi symud i Gymru yn siarad â Sais arall.

“Does dim byd o werth gan y Cymry. Dim morys-ddawnswyr a dim criced. A dim canu gwerin gwerth sôn amdano - maen nhw’n dwyn popeth oddi ar y Gwyddelod ac yn ei gyfieithu i’r Gymraeg.”

“Rwy’n gwybod hynny’n iawn. Fel y boi ’na David Ewan a’r gân na o’i eiddo mae pawb yn ei chanu hyd at syrffed - ‘Emma O’ Heed.’ ”


20 - Y SAIS A’R CI
Sais sy newydd symud i gefngwlad Gymru yn cerdded heibio i siop y pentre. Dyma arwydd mawr ar y drws â ffoto ci defaid arno, a rhyw eiriau Cymraeg uwch ei ben. Mae’n meddwl efallai taw ci sydd wedi mynd ar goll yw e, ac o bosibl fod gwobr am gael hyd iddo.

Mae un o wragedd y pentre yn dod allan o’r siop, a dyma’r Sais yn gofyn iddi yn yr iaith fain, “Rw i’n gweld fod rhÿwun wedi colli ci yn y pentre ’ma. Ond does dim sôn am faint ÿw’r  wobr am ddod hýd iddo.”

Y wraig yn esbonio iddo yn amyneddgar yn iaith y Sais nad oes gwobr i’w chael, am nad ci coll sÿdd yn y llun. mae hi’n cyfieithu iddo eiriau’r arwydd - “Gochelwch y ci”.

A dyma’r Sais yn dechrau rhuo chwerthin yn wawdlyd. Mae’r wraig yn synnu a gofÿn, “Pam ÿch chi’n chwerthin fel hÿn?”


A mynta’r Sais,  “Ond drychwch arno! Dyna’r ci mwyaf da i ddim a diniwed welais i erioed!”

A lawr yr heol ag e. Ar ei ffordd nôl y mae’n penderfynnu cwyno wrth y siopwr am fod yr arwydd yn uniaith Gymraeg - peth hollol hiliol, yn ei dyb yntau, yn enwedig am fod cymaint o Saeson wedi symud i’r ardal yn ddiweddar. A dyma fe’n agor y drws y siop ac yn martsio i mewn - ac yn cwympo yn bendramwngl.

Mae’n codi i’w draed, ac yn dechrau blagardio’r siopwr yn iaith yr ‘s’.

“I beth mae’r hen gi yn gorwedd ar ganol y llawr yma? Gallwn i fod wedi torri fy ngwddwg. Welais i mohono fe a baglais i drosto.”

“Na pam rhoddais i’r arwydd ar y drws,” meddai’r siopwr.

 
19 - ACHUB RHAG BODDI
Sais sydd wedi prynu fferm yng Nghymru yn gweld Sais arall yn gorwedd ar ei fola ar ganol un o’r caeau, dan chwifio ei freichiau.

Mae’n galw wrtho -

-Beth wyt ti’n wneud yn fanna; Jason?

-Nofio yn ôl i Loegr rw i, ond mae morgi mawr yn ceisio ymosod arno i.

-Y twpsyn shwd ag ÿ ti! Ar ganol cae pori
ÿ ti!

Ond dyma’r nofiwr yn dechrau gweiddi -

-Helpa fi! Helpa fi, plîs! Wedi’r cwbl, Sais wy i fel tithau!

Y Sais arall yn gweld ei fod yn iawn, a bod dyletswydd arno roi cymorth i’w gÿdwladwr mewn gwlad estron.
 
-O’r gorau te, meddai.

A dyma fe’n gafael yn ei ffôn boced, a gweiddi wrth y nofiwr -

-Ÿ ti’n gwybod beth yw rhif ffôn gwyliwr y glannau?


18 - SAIS MEWN BAR
Cymro, Gwyddel a Sais yn yfed mewn bar yn yr Eidal.

‘Mae’r bar yma’n iawn, ond mae tafarnau Cymru’n well. Yn ’y mhentre innau y mae tafarn lle mae nhw’n rhoi dau beint o gwrw i chi am bris un.”

Y Gwyddel yn dweud, “Mae hynny’n burion. Ond yn y ’mhentre innau, y mae tafarn lle mae’n nhw’n rhoi tri pheint o gwrw am bris un.”

Y Sais yn cytuno bod hynny’n swnio’n wych, ond yn Lloegr y mae gwell tafarn hyd yn oed.

“Yn y tafarn yn y mhentre innau fe gei di BEDWAR peint am bris un a maen nhw’n mynd lan stâr â ti a rwyt ti’n cael rhyw am ddim.”

“Diaist erioed!” meddai’r Cymro. “Ydi hyn wedi digwydd i ti?”

“Nag ydi, ond mae wedi digwydd sawl gwaith i’n chwaer.”


17 - SAIS MEWN SIOP
Sais yn mynd i siop yng Nghymru a gofyn yn yr iaith fain am gig oen o Loegr.

Y siopwr yn edrych arno am ennyd ac yn dweud yn iaith Lloegr,

“O. Sais ych chi, ife?’

Y Sais yn ffromi ac yn dweud,

“Wrth gwrs taw Sais w i! A rw i wedi cael llond fy mola ar hilioldeb y Cymry. Swn i wedi gofyn am gig moch Danaidd fyddech chi wedi gofyn ai Daniad ôn i? Swn i wedi gofyn am selsig Almeinig fyddech chi wedi gofyn ai Almaenwr ôn i? Swn i wedi gofyn am gig llo Ffrengig fyddech chi wedi gofyn ai Ffrancwr ôn i? Yn sicr iawn, fydde peth felly ddim wedi digwydd.”

Y siopwr yn ateb,

“Chi’n llygad eich lle. Fydde rhywbeth felna ddim wedi digwydd.”

“Pam felly ych chi wedi gofyn ai Sais w i?”

“Am taw siop nwyddau haearn yw hon.”


16 - Y FRECH LOSG

Sais mewn pentref yn Lloegr yn teimlo’n sâl ac yn mynd at y meddwg. Y meddyg yn dweud wrtho:

-Mae’n ddrwg gen i, ond dim ond deufis o fywyd sydd ar ôl gennych.

-Beth sydd arna i, doctor?

-Y frech losg afraidd - mewn geiriau eraill, síffilis geifr.

Mae’r Sais yn mynd i dafarn y pentre ac yn dechrau yfed. Dyma ei ffrind pennaf yn dod mewn a dweud,

“Rwyt ti’n edrych yn lled sâl. Wyt ti’n iawn?”

“A dweud y gwir, y mae’r frech losg afraidd arna i a dim ond deufis o fywyd sydd ar ôl gen i. Ond Sais cadarn wy i! Fydd peth bach fel hynny ddim yn f’atal rhag mwynháu fy nyddiau olaf ar yr hen ddaear hon!”

Maen nhw’n mynd ati i yfed yn drwm. Ar ôl tipyn dyma rai eraill o’u ffrindiau yn dod mewn.

“Duw annwl,” meddai un. “Mae golwg ofnadwy arnat ti. Wyt ti’n iawn?”:

“A gweud y gwir,” meddai wrthyn nhw, “dim ond deufis o fywyd sydd ar ôl da fi. Mae’r frech losg ddafadaidd arno i.”

Pawb wedi synnu, ac yn cydymdeimlo, ac yno’n mynd i ordro peint. .

Dyma’i ffrind yn sibrwd wrtho:

“Y frech losg ddafadaidd? Ôn i’n meddwl taw’r frech losg afraidd sÿdd arnat ti.”

“Ie, dyna’r gwir. Ond dw i ddim am iddyn nhw feddwl bod tueddiadau rhywiol gwyrdröedig gen i.”



15 - AR FANWFRAU
Roedd llynges Lloegr ar fanwfrau oddi ar Ynys Môn. Ond doedd rhai o’r Monwysion ddim yn fodlon bod ffug ryfel yn cael ei wneud yn nyfroedd Cymru, ac yn bygwth hwylio mewn cychod bach i mewn i’r lle manwfrau. Roedd pennaeth y manwfrau yn benderfynol o ddangos grym a phwysigrwydd llynges yr Ymerodraeth.

Yn y nos dyma’r pennaeth yn gweld golau o flaen ei llong. Roedd ymosodiad y Cymry wedi dechrau.

Yr eiliad nesaf dyma neges haerllug yn cyrraedd llong y pennaeth:

“Newidiwch eich cwrs bymtheg gradd i’r Gogledd i osgói gwrthdrawiad. Drosodd.”
 
Mae’r pennaeth yn dweud wrth y dyn radio am anfon neges yn ôl -

“Ryn ni’n cymeradwyo eich bod chi’n niwed eich cwrs chithau bymtheg gradd i’r De i osgói gwrthdrawiad. Drosodd.”

Dyma neges yn ei ôl -

“Gwrthodedig. Newidiwch chithau eich cwrs bymtheg gradd i’r Gogledd i osgói gwrthdrawiad. Drosodd.”

Mae’r pennaeth o Sais yn dechrau digio.

“Pennaeth manwfrau Llynges Lloegr sydd yn anfon y neges hon. Newidiwch chithau eich cwrs bymtheg gradd i’r De i osgói gwrthdrawiad. Drosodd.”

Dyma neges arall yn ei ôl -

“Gwrthodedig. Newidiwch chithau eich cwrs CHITHAU bymtheg gradd i’r Gogledd i osgói gwrthdrawiad. Drosodd.”

A dyna’r pennaeth yn colli’i limpin, ac yn anfon neges llawn awdurdod:
-DYMA LONG AWYRENNAU BRITANNIA, Y LLONG AIL FWYAF YN FFLYD IWERYDD LLOEGR. RYN NI WEDI EIN HEBRWNG GAN BUMP O LONGAU DISTRYW, TRI CHRIWSER, A LLU O LONGAU CEFNOGI. RW I’N MYNNU’CH BOD CHI’N NEWID EICH CWRS CHI BYMTHEG GRADD I’R DE I OSGÓI GWRTHDRAWIAD. OS NAD YCH CHI’N UFUDDHAU’R GORCHYMYN HWN, BYDD RHAID I NI FYND ATI I DDIOGELU’R LLONG HON MEWN MODD ALLAI ROI’CH EINIOES MEWN PERYGL ENBYD. DROSODD.”
A dyma’r ateb yn ôl -
Goleudy Ynys Lawd ŷn ni. Drosodd atoch chi.

14 - TRADDODIADAU CELTAIDD
Dau Gymro a Sais yn cerdded yn y goedwig. Dyma enau ogof o’u blaenau. Mae un o’r Cymry yn mynd at yr ogof ac yn galw,

“Ceridwen, Ceridwen, wyt ti yna?”

A dyma ateb o ddyfnderoedd yr ogof,

“Dere di, cariad, dere.” Mae’r Cymro’n tynnu’i ddillad ac yn rhedeg i mewn i’r ogof.


Mae’r Sais yn edrych yn syn ar y cwbl, ac yn gofyn,

“Beth oedd hynny?”

“Oh,” meddai’r Cymro, “mae’n hen dradoddiad gynnon ni’r Celtiaid bod merched sydd am gael plentyn yn aros mewn ogof. Os bydd dyn yn digwydd mynd heibio mae e’n galw ‘Ceridwen’ wrth enau’r ogof i weld a oes merch tu fewn.”

Ymlaen â nhw hanner canllath, a dyma ogof arall yn dod i’r golwg. Y Cymro arall yn mynd at enau’r ogof ac yn galw,

“Ceridwen, Ceridwen, wyt ti yna?”

A dyma ateb o ddyfnderoedd yr ogof,

“Dere di cariad, dere.”

Yr ail Gymro’n tynnu’i ddillad oddiamdano, ac i mewn ag ef i’r ogof.
Mae’r Sais ar ei ben ei hun bellach. Mae’n mynd yn ei flaen ar hyd y llwybr ac... am lwc! Dyma enau ogof arall, yn fwy o lawer nag ogoféydd y lleill. Palas o ogof o’i chymharu â rhai’r Cymry.

Mae’n mynd at geg yr ogof ac yn galw i mewn

“KRIDWEN, KRIDWEN; WEE TII UH NA?”.

A dyma ateb o’r dyfnderoedd,

“Dere di, cariad, dere, dere di cariad, dere, dere di cariad, dere.”

Y mae’n tynnu ei ddillad ar ffrwst ac yn rhedeg i mewn i’r ogof.

Y diwrnod wedyn, ar dudalen flaen y papur lleol, gwelir pennawd mawr: SAIS NOETH WEDI EI LADD MEWN TWNEL GAN DRÊN NWYDDAU.

13 - PENCAMPWR O SAIS
Sais yn ennill cystadleuaeth nofio, ac yn siarad â’r wasg ar ôl derbyn y wobr.

“Does neb yn gallu nofio cyn gyflymed â mi. Pencampwr plymio wy i hefyd. Mewn gwirionedd, mae’n wastraff o amser imi gystadlu am fy mod i’n fownd o ennill. Ddylen nhw ganslo’r cystadleuaethau hyn ymlaen llaw, a rhoi’r wobr i mi heb eu cynnal. A pheth arall ynghylch fy nghampau nodedig i. Mae’n nhw’n hynotach fyth o ystyried nad oeddwn i’n gwybod nofio o gwbl bum mlynedd yn ôl.”

“Ddim yn gwybod sut i nofio?”

“Nage. Dysgais i nofio diolch i ddyn arbennig iawn, bron mor arbennig â mi, mewn gwirionedd. Mae gan Loegr ugeiniau o bencampwyr mewn sawl sbort diolch i’w sustemau hyfforddi ecsentrig. John Smith, yr athro chwaraeon yn yr ysgol, yw ei enw. Roedd yn gweld taw fi oedd y bachgen mwya talentog yn yr ysgol, ac aeth â mi mewn cwch gwib i ganol llyn a ’nhaflu i mewn i’r dŵr.”

Ac un o’r gohebwyr yn dweud -

“Wy’n ei nabod John Smith yn iawn. Nage gwers nofio oedd honno.”


12 - PEN TOST Y SAIS
Sais yn cael pen tost ofnadwy bod dydd ar ôl brecwast, ac mae’n para trwy’r dydd. Ar ôl misoedd o boen does dim amdani ond mynd at y meddyg. Hwnnw yn ei archwilio ond yn ffaelu â gweld dim a all fod yn achosi’r pen tost.

“Does dim iachâd i fod ar y pen tost felly doctor?”

“Wel, mewn gwirionedd, oes. Er nad wyf yn gwybod beth yw’r achos, mewn achosion fel hyn mae disbaddiad, sef torri’r ceilliau, yn gweithio bob amser.”

“O na,” meddai’r Sais, “mae’n well imi ddiodde’r hen ben tost ’ma.”

Ond mae’r pen tost yn mynd yn waeth ac yn waeth, ac yn y diwedd mae’n dweud wrth y meddyg -

“O’r gorau, well i chi dorri ’ngheilliau.”

Roedd y meddyg yn iawn - wedyn chawsai fe’r un pen tost. Ond yr oedd yn isel iawn ei ysbryd.

“Y peth gorau i’w wneud,” medai’r meddyg, “yw dechrau bywyd newydd. Jòb newydd, tŷ newydd, car newydd. Popeth newydd. Troi’r ddalen. Newid llwyr.”

Mae’r Sais yn mynd i siop i brynu dillad newydd. Dyma’r gwerthwr yn dweud,

“Hm. Ga i weld eich siaced am eiliad... Ie. Fe wedwn i taw maint tri deg wyth yw hi, ond bod y llewys wedi eu byrháu ddwy modfedd a’r ysgwyddau wedi eu lledaenu fodfedd a hanner.”

“Rych chi’n iawn,” meddai’r Sais. “Sut ych chi’n gwybod hynny?”

“O hir brofiad. Mae amcanu maint dillad wedi mynd yn ail natur i mi. Nawr te, beth am y crys? Maint pymtheg, ond y coler yn un deg chwech?”

“Yn union!” meddai’r Sais.

“A’r drafers - maint tri deg chwech.”

“Ha!” meddai’r Sais. “Yn y fan hyn rych chi’n camgymeryd. Maint tri deg pedwar ŷn nhw!”

“Nage,” meddai’r gwerthwr, “tri deg chwech yw’ch maint chi.”

“Wel fi ddylai wybod! Rw i’n prynu rhai maint tri deg pedwar bob amser.”

“Fel y mynnoch chi,” meddai’r gwerthwr dan godi’i ysgwyddau. “Ond byddwch yn ofalus - bydd rhai maint tri deg pedwar yn gwasgu’ch ceilliau a bydd pen tost ofnadw gynnoch chi.”

11 - YMLADD Â LLADRON
Sais
yn cerdded i lawr heol rhyw ddinas yn Lloegr. Dyma ddau leidr yn ymosod arno. Mae’r tri yn ymladd am ddeng munud nes i’r ddau leidr ei ddal yn gaeth. Ond ar ôl tynnu ei waled, maen nhw’n gweld nad oes ond dwy bunt ynddi hi.

“Y twpsyn! Pam ôch chi’n ymladd fel hynny pan oedd cynlleied o arian yn eich waled?” medd un o’r lladron.

“Ôn i’n ofni y byddwch chi’n cael hyd i’r fil o bunnau yn f’esgid chwith!”

10 - GWYLIAU’R HAF
Dai Sais yn siarad am y gwyliau.

“Yr haf ma bydda i’n cael gwyliau yn ots i’r rhai rwy i wedi’u cael hyd yn hyn. Mae’r tri haf diwetha wedi bod yn hunlle.”

“Pam?” meddai’r llall.

Dair blynedd yn ôl es i i Nice, a beichiogodd y wraig. Ddwy flynedd es i i Fenis, a beichiogodd y wraig. A llynedd es i i Marbella a beichiogodd y wraig.”

“Beth wnewch chi’n wahanol yr haf ’ma felly?”

“Eleni bydda i’n gwneud yn siŵr bod y wraig yn dod gyda fi.”

9 - Y SAIS A’R CI
Sais yn gweld ci defaid bach yn gorwedd wrth draed hen ffarmwr o Gymro sydd yn eistedd ar fainc ar sgwâr y pentre yn darllen papur newydd.

“Odi’ch ci chi’n cnoi?” mae’n gofyn iddo yn yr iaith fain.

Mae’r ffarmwr yn edrych dros dop y papur ac yn ateb,

“Cnoi? Nag ydy.”

Mae’r Sais yn ymblygu i fwytho’r ci defaid, ac mae hwnnw’n chwyrnu, yn neidio i fyny ac yn cnoi’i law.

“Ond fe wedsoch chi nad yw’ch ci chi’n cnoi!” meddai’r Sais, wedi gwylltio.

“Nid ’y nghi inne mo hwn, achan.”

8 - BEIC Y SAIS
Dau Sais mewn tafarn pentre yn Lloegr. Un yn dweud wrth y llall

“Wyt ti’n gwybod bod actores Americanaidd gyfoethog wedi dod i fyw i’r pentre?”

“Odw. Mewn gwirionedd, weli di’r beic ’na wrth y wal? Fe ges i hwnna’n rhodd ganddi hi.”

“Sut hynny te?”

“Ôn i’n cerdded ar y llwybr yn y goedwig a dyma hi’n dod ar y beic, neidio oddi arno, tynnu’i dillad i gyd, a dawnsio’n borcyn o ’mlaen i dan ddweud - ‘Cymera beth fynnot ti!’ A chymerais i’r beic.”

“O, fe wnest ti’n iawn hefyd. Mae’n sicr na fyddai’r dillad wedi dy ffitio ti.”.

7 - HER Y PRIFYSGOLION
Rhaglen cwis ar y teledu - Prifysgol Cymru yn erbyn Prifysgol Llundain. Mae’r tîm o Loegr heb ateb yr un cwestiwn yn iawn. Mae 700 o bwyntiau gan y Cymry, a dim gan y Saeson. Mae’r holwr, sydd hefyd yn Sais, am achub tîm y Saeson rhag trásiedi genedlaethol, sef bod heb yr un pwynt ar ddiwedd y cwis.

Dyma’r cwestiwn olaf i’r ddau dîm - ac adar yw’r pwnc y tro hwn.

Mae e’n gofyn i’r Cymry
-Beth yw’r enw Lladin ar yr ydfran? A dyma’r ateb ar ei ben - Corvus frugilegus.

Yna mae’n troi at y Saeson ac yn gofyn cwestiwn rhwyddach:
-Pa aderyn sy ddim yn gwneud ei nyth ei hun?

Ar ôl tipyn o drafodaeth rhyngddynt, dyma gapten tîm Prifysgol Llundain yn ateb - Y gwcw!

Mae’n mynd yn gymeradwyaeth orffwyllog yn y gynulleidfa ymhlith cefnogwyr ei dîm. Pum pwynt gan dîm y Saeson.

Yr holwr yn dweud wrtho - Llongyfarchiadau! Y cwestiwn olaf yna wedi’ch achub rhag cael eich trechu’n llwyr!

A’r capten yn dweud
-Mewn gwirionedd, doedd neb yn rhyw sicr o’r ateb, nes i ni gofio am y gwcw - a’r ffaith taw mewn cloc y mae honno’n byw.

6 - GALW’R FRIGÂD DÂN
Sais mewn bwthyn yng Nghymru yn galw’r frigâd dân, ac yn gweiddi yn yr iaith fain:

-Dewch yn gyflym. Mae ’y nhŷ i’n llosgi!

-Beth yw enw’r tŷ ?

-Wn i ddim. Rhyw enw Cymraeg sydd arno.

-Wel, sut mae cyrraedd y tŷ ?

-Yn yr injan dân fawr goch ’na sy gyda chi!



5 - SAETHAU GŴYDD.
Sais ar y traeth yn saethu gwyddau yng Nghymru. Mae’n taro un sydd yn cwympo i gae tu ôl i’r traeth. Wrth iddo ddringo dros y wal, dyma hen ffermwr o Gymro allan o’r tŷ. Mae’n dweud wrtho:

“Mae croeso i chi ddod i’r cae i nôl yr ŵydd, ond ddylech chi fynd trwy’r glwyd yn nghornel y cae.”

Dyma’r Sais yn ffromi ac yn gwaeddi yn yr iaith fain -

“Siaradwch Saesneg! Saesneg! Nid un o’ch cŵn defaid wy i.”

O sylweddoli taw Sais haerllug yw’r ymwelydd, mae’n dweud yn Saesneg -

“Chwech chi ddim dod ar y tir ’ma. Eiddo preifat yw e. Os byddwch chi’n tresmasu ar fy nhir i fe rodda i gwrt arnoch chi!”

“Ha!” meddaid’r Sais. “Bargyfreithiwr yn Llundain wy i. Os ewch chi â fi i’r llys, fydd na ddim tŷ ar ôl gennych chi, dim caeau, dim buchod, dim defaid, dim ieir... Nawr te, ga i nôl fy ngŵydd?”

“Mae’n well i ni setlo’r ddadl trwy’r hen ddefod leol felly, y “taro deirgwaith”,” meddai’r ffermwr.

“Beth yw hynny?” meddai’r Sais. “Dw i erioed wedi clywed amdano.”

“Rw i’n eich taro deirgwaith; os na chwmpwch chi rych chi’n cael fy nharo innau deirgwaith yn ôl, ac felly ymlaen nes bod rhywun yn ennill. Yr enillwr gaiff yr ŵydd.”

Bu’r Sais yn dipyn o baffiwr yn ei ysgol fonedd ac mae’n gweld mor hawdd fyddai llorio’r hen Gymro, ac felly mae e’n cytuno i dorri’r ddadl trwy’r hen ‘daro deirgwaith’.

Bant â nhw. Mae’r Cymro yn ei daro yn y stumog â’i ddwrn nes iddo golli’i anadl yn llwyr. Wedyn mae’r Cymro yn rhoi dyrnod iddo ar ei ên nes iddo weld sêr. A wedyn dyma ergyd isel creulon i’w geilliau. Ond mae’r Sais yn dal ar ei draed.

“Iawn, te,” meddai’r Sais, yn ysu am roi’r hen Gymro ar ei hyd ar lawr, “eich tro chi yw e.”

“Na, popeth yn iawn,” meddai’r Cymro, “fe gewch chi fynd â’r ŵydd nawr.”


4 - ARIAN FFUG
Dau droseddwr o Saeson yn siarad â ffugiwr mewn tafarn yn Llundain.


“Rhowch chi ddeng mil o bunnau imi, ac fe gewch chi gan mil o bunnau mewn arian papur ffug.”


Mae’r ffugiwr yn dangos arian papur go iawn iddyn nhw, ac yn dweud


“Dyma arian ffug o’n ngwaith i. Mae e mor berffaith fel byddai neb yn gallu gweld nad yw’n arian go iawn!”


“Athrylith ych chi!” meddan nhw. “Cytuno!” Mae nhw’n talu’r ffugiwr, ac mae hwnnw’n rhoi dau sachaid yng nghist eu car.


Ar ôl cyrraedd adre, maen nhw’n gweld bod y ffugiwr wedi gwneud tro gwael â nhw, am taw papurau seithbunt ŷn nhw i gyd.


Does dim amdani ond mynd i ryw fan lle mae pawb yn dwp a byddan nhw’n cymeryd yr arian yn ddigwestiwn, ac felly dyma benderfynu mynd ar hyd y draffordd i Dde-orllewin  Cymru.


Ar ôl croesi afon Lliw dyma weld rhyw Gymro yn dod linc-di-lonc i lawr yr heol. Dyma un o’r Saeson yn dweud wrtho, wrth bwyntio at y Sais arall, -


“Esgusodwch fi, mêt. Wnewch chi ffafr i mi? Mae rhaid i mi dalu chwephunt i’r gŵr bonheddig yma a dim ond papur seithbunt sy gen i. Allwch chi ei newid i ni?”


Na alla, mae’n flin da fi,” meddai’r Cymro. “Ond arhoswch chi funud...” ac y mae’n tynnu ei waled o’i boced.  “Rhowch chi bapur decpunt imi, a fe gewch chi dalu’ch ffrind wedi’r cwbl. ’Drychwch - mae gen i ei newid fan hyn. Dau bapur pedair punt ac un dwybunt!”

3 - Y DDAMWAIN FODUR
Sais mawr a Sais bach yn teithio mewn car ar hyd lôn gefn yng Nghymru. Dyma’r Sais mawr yn gwaeddi yn iaith plant Alis -

“Gwachla! Mae clwyd dros yr hewl wrth y grìd gwartheg!”

“Beth?” meddai’r Sais bach.

“Gwachla! Mae clwyd dros yr hewl wrth y grìd gwartheg!”

Mae’r car yn taro’r glwyd ac yn cael ei chwalu’n rhacs.

Mae’r ddau Sais yn dringo allan, yn gleisiau a chlwyfau a gwaed drostynt.

“Oni chlywest ti fi’n gweud bod clwyd dros yr hewl?” meddai Sais mawr wedi gwylltio’n gacwn.

“Do,” meddai’r Sais bach, “ond ti oedd yn gyrru, nid fi!”


2 - DIOGI
Tri Sais diog yn brolio eu diogi, pob un yn ceisio dangos ei fod yn ddiocach na’r lleill.

“Wel, gwrandwch nawr, a clywch mor ddiog rw inne te. Ôn i’n cerdded ar hyd yr heol ma y diwrnod o blaen a gwelais i bapur hanner canpunt ar lawr, ond er mwyn peidio â phlygu i’w godi, fe es i yn ’y mlaen.”

“Dyw hynny’n ddim byd. Pwy ddiwrnod ôn i’n cerdded heibio i dŷ’r bachan ’na sydd yn y carchar am dair blynedd, a daeth ei wraig at y drws - dim ond 20 oed yw hi ac y mae’n bert tu hwnt - a dyma hi’n gweud wrtho i - “Dere gyda mi lan y stâr a chei di amser da gyda fi.” Ond rôn i’n rhy ddiog i fynd lan y stâr ac es i yn ’y mlaen.”

A dyma’r trydydd yn dweud - “Ho! Fi yw’r dioca o bell ffordd. Fe es i’r sínema pwy ddydd i weld ffilm gómedi a bues i’n llefain am ddwyawr.”

“Ond nage bod yn ddiog yw hynny,” meddai un.

“Wel, ie, diogi llwyr oedd e. Cyn gynted ag i mi eistedd, dalies fy ngeilliau yn y sedd blygu. Fe feddylies i am godi ac aileistedd, ond wedyn penderfynes i taw gormod o ymdrech fydde hynny.”


1 - Y JÔC AM Y SAESON
Cymro ar ben stôl mewn bar yn yr Unol Daleithiau. Dyma’r Americanwr ar y stôl nesa iddo yn dweud “Licet glywed jôc am y Saeson?”

“O’r gorau,” meddai. A dyna’r jôc orau am y Saeson y mae e wedi ei chlywed erioed.

Allan â’r Americanwr, a dyma gawr o ddyn yn cymeryd ei le wrth ei ochr ac yn archebu diod. Mae’r Cymro’n gofyn iddo, “Licet ti glywed jôc am y Saeson?”

Dyma’r dyn yn troi ato yn ffyrnig ac yn dweud, “Cyn i chi ddechrau, ddyn dieithr, mae un peth mae rhaid i chi ’wybod. Sais wyf innau. Tu ôl i chi mae dau ffrind i mi, bechgyn mawr fel fi. Saeson ŷn nhw hefyd. Yn yr SAS roedden ni am ddeng mlynedd, ac yr ŷn ni wedi dod yma i gystadlu yn y Gystadleuaeth Ddyn Haearn. Nawr te, ŷch chi’n sicr mynni di ddweud y jôc ’na?”.

Mae’r Cymro yn ateb, “Tri ohonoch, wetsoch chi? O Loegr? Gadwch iddi fod. Dw i ddim am hala gweddill y noson yn ei hesbonio drosodd a thro.”



DOLENNAU ALLANOL
Rhagor o ffraethinebau am y Saeson:

http://www.geocities.com/llysgenhadaethycymry/GweinyddiaethMiri.html
Llysgenhadaeth y Cymry - Jôcs am y Saeson

______________________________________________________

Adolygiadau diweddaraf:  2005-09-02, 2006-07-23


Sumbolau arbennig: ŵ ŷ
Ffeil: sganer_ffraethinebau_am_y_saeson_2181k_050920.doc

Ble’r wyf i? Yr ych chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) vízïting ø peij fròm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wéb-sait
Where am I?
You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

CYMRU-CATALONIA