kimkat3000k Y Wladfa. Adroddiad bach gan Michael D. Jones yn newyddiadur Tarian y
Gweithiwr 24-11-1887 yn sôn am gyflwr presennol y Wladfa Gymreig ym Mhatagonia
●
Y TUDALEN HWN kimkat3000k <
PRIF DUDALEN ADRAN Y WLADFA kimkat1356k kimkat1356k www.kimkat.org/amryw/1_gwladfa_patagonia/y-wladfa_cyfeirddalen-cymraeg_1356k.htm <
MYNEGAI CYMRAEG kimkat2001k kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm
<
HAFAN kimkat.org/index.htm |
.....
Tarian y Gweithiwr 24 Tachwedd 1887 Y WLADFA. Yr wyf newydd glywed o'r Wladfa. Nid yw y rheilffordd wedi ei chwbl orphen, o eisiau ychwaneg o reiliau. Mae llongaid newydd fyned, ac wedi cyraedd fe ddichon erbyn hyn. Dyddiad y newyddiadur diweddaf oedd diwedd Awst. Cofier fod llong eto yn myned yn SYTH y 15fed o'r mis hwn. Yr oedd yr afon wedi codi yn uwch nag arferol, ac nid oedd y bobl heb ofn gorlifiad. Yr oedd yr argae yn dal, er ei bod unwaith wedi derbyn niwed, a phryderid yn ei chylch. Yr oedd yno brysurdeb mawr gyda'r hau, a dysgwylid y byddai yr holl diroedd eleni dan had, ac y codid deng mil o dynelli (10,000) o wenith. Cofier nad yw yr agerlong sydd yn myned yn awr yn ymdroi yn Buenos Ayres. Mae parotoi at wneud sefydliad arall, yn nhroed yr Andes, neu rywle yn uwch i fyny ar yr afon. Ceir tiroedd rhad yno. Mae haner y fintai fawr wedi ymadael, er nad oes gwas na gweithiwr i'w gael am arian. Cymeriad gwael oedd i'r rhan fwyaf o'r bobl hyn. M. D. JONES. |
(delwedd 4281)
·····
Crëwyd y tudalen hwn: 24-02-2017
Adolygiad diweddaraf: 24-02-2017
Delweddau: 0176k, 4281
·····
gwladfa_patagonia_tarian-y-gweithiwr_24-11-1887_y-wladfa_3000k
·····
Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait