kimkat3001k Y Wladfa. Adroddiad bach o’r Faner (Baner ac Amserau Cymru) gan L. Williams yn ‘galw sylw y rhai sydd yn bwriadu cyfeirio eu gwynebau tua'r Wladfa.

● Y TUDALEN HWN kimkat3000k

< PRIF DUDALEN ADRAN Y WLADFA kimkat1356k kimkat1356k  www.kimkat.org/amryw/1_gwladfa_patagonia/y-wladfa_cyfeirddalen-cymraeg_1356k.htm

< MYNEGAI CYMRAEG kimkat2001k kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm

< HAFAN kimkat.org/index.htm

.....

 

Y WLADFA GYMREIG.

 

FONEDDIGION,

Caniatewch i mi ofod fechan er galw sylw y rhai sydd yn bwriadu cyfeirio eu gwynebau tua'r Wladfa. Yr wyf wedi cael ar ddeall fod amryw ar fin cychwyn a charwn, fel un sydd ar ymweliad yn bresennol â'r Hen Wlad o'r Wladfa, ac sydd yn brofiadol o'r daith a'r drafferth sydd wrth fyned drwy Buenos Ayres, i roddi gair o gynghor iddynt.

 

Peidiwch myned drwy Buenos Ayres, os gellwch, o herwydd bydd yn debyg o gostio mwy i chwi yn y pen draw. Y mae rhai minteioedd cyn hyn wedi gorfod aros cymmaint a mis yno am gyfle i fyned yn mhellach. Heb law hyny, y mae y llongau sydd yn arfer rhedeg o Buenos Ayres i'r Wladfa, fel rheol, o ddeutu tair wythnos yn myned i lawr, pan y gall dyn, gydag agerlong hwylus, fyned o Liverpool i Borth Madryn bron yn yr un amser; a chredaf hefyd yr aiff llai o gostau wrth fyned ar unwaith i Borth Madryn na thrwy Buenos Ayres, a chaniatau y bydd raid aros ychydig yn y lle olaf. Carwn i, fel un, beth bynag, i gael myned yn uniongyrchol. Byddaf yno felly erbyn y Nadolig, a chael rhan o'r wŵyl dê yn nghapel Moriah am unwaith etto.

 

Ydwyf, &c., 

L. WILLIAMS

 

 

...

 

None

 

---------------------------------------

 

Y TUDALEN HWN: kimkat.org/amryw/1_gwladfa_patagonia/y-wladfa_baner-aac_26-10-1887_y-wladfa-gymreig_3001k
---------------------------------------
Creuwyd:
 24-02-2017
Adolygiad diweddaraf : 24-02-2017

Delweddau: 0176k, 4283

---------------------------------------

Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA

On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)

Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website

Weə-r äm ai? Yüu äa víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait

---------------------------------------