http://www.racocatala.com/catalunyacymru/amryw/1_glasbridd/minnesota_28_cwis_1_0929k.htm

0929 Cwis yn Gymráeg ar y llÿfr "Hanes y Cymrÿ ym Minnesota", a gyhoeddwÿd yn 1895. Yn 1867 ffurfiwÿd treflan newÿdd yn Sir y Glasbridd. Pa enw a roddwÿd arni? Ganwÿd David Dackins yn Llanidloes. Yn 1862, yn Rhyfel Cartref América, fe'i cipiwÿd gan y Cÿdffederalwÿr ym mrwÿdr Guntown. Fe ddihangodd o ddwÿlo'r gelÿn, ac yn y pendraw cyrhaeddodd rengoedd blaen yr Undebwÿr. Ym mha gatrawd yr oedd? (1895 - “History of the Welsh in Minnesota, Foreston and Lime Springs, Ia. Gathered by the Old Settlers. Edited by Revs. Thos. E. Hughes and David Edwards, and Messrs. Hugh G. Roberts and Thomas Hughes”)

0001 Y Tudalen Blaen kimkat0001

··········2657k Y Porth Cymraeg  kimkat2657k

···················2001k Yr Arweinlen kimkat1001k

······························2854k Y Cymry Alltud / The Welsh in exile kimkat2854k

···············································1927k Cyfeirddalen i Adran Gwladfa’r Glasbridd, Minnesota  kimkat1927k
 
····························································.y tudalen hwn / aquesta pàgina

 

..

Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Catalunya i Gal·les
The Wales-Catalonia Website

HANES Y CYMRY YM MINNESOTA  

CWIS

21 10 2001 adolygiad diweddaraf

0855  Cynnwys 'Hanes y Cymry ym Minnesota...' 

CWIS - SEFYDLIADAU'R CYMRY YM MINNESOTA
To see this quiz in English go to 0944 kimkat0944e

Wedi ei seilio ar "The History of the Welsh in Minnesota, Foreston and Lime Springs, Iowa, gathered by the Old Settlers. Edited by the Reverends Thomas E. Hughes and David Edwards, and Messrs. Hugh G. Roberts and Thomas Hughes. 1895".
Gweler mynegai'r llÿfr hwn yn
0855 kimkat0855e

 

Ar ôl colli oriau yn chwilio am raglenni llunio cwisau arlein, a thanysgrifio i wefannau â chwisau nad oedd modd eu hystumio wedÿn (ac dyma fi'n rhwÿm o gael tunelli o e-bost jync ar ôl rhoddi fy nghyfeiriad e-bost cÿn haeled), yr wÿf wedi rhoi'r gorau i'r syniad o wneud cwis 'rhyngweithredol'. Ers hynnÿ, rwÿ i wedi dod o hÿd i 'Luniwr Cwisau aml-ddewis Kelly' (Kelly's Multiple-Choice HTML Quiz Generator - http://www.aitech.ac.jp/~iteslj/quizzes/ ). Ond am imi wneud y cwis hwn heb gymorth y lluniwr cwisau, yn y fan hÿn fe gewch 12 o gwestiynau 'anrhyngweithredol', a phedwar o atebion posibl i bob un odanÿnt. Y mae'r atebion i'w gweld ar ddiwedd y cwis, mewn llythrennau cochion.


(1) Yn 1853 fe yrrwÿd yr Indiad Dakota o'u tiroedd, ac fe ddaeth yr ymsefydlwÿr gwynion i mewn. Yn yr un flwÿddÿn ffurfiwÿd Sir y Glasbridd. Ond ym mha flwÿddÿn bu'r Cymrÿ cyntaf yn bÿw yn y parthau hynnÿ?
a) 1850
b) 1853
c) 1850
d) 1865 (yr un flwÿddÿn â Gwladfa Patagonia)

(2) Ganwÿd John E. Davis yn Nefÿn, Sir Benfro yn 1795. Pan oedd yn 43/44 oed aeth i'r Unol Daleithiau ac ymhen hir a hwÿr i Sir y Glasbridd. Beth oedd ei enw ar lafar?
a) Siôn Dafis
b) Sioni Hoi
c) Joni Fawr
d) Siôn Dafÿdd

(3) Ganwÿd John I. Davies (Ioan Idris) yn 1821, ac fe aeth i'r Unol Daleithiau yn 21 oed, ac ar ôl rhai blynyddoedd i Sir y Glasbridd.
Ym mha le y ganwÿd ef?
a) Dolgellau
b) Y Bala
c) Tywÿn
d) Y Bermo

(4) Ganwÿd David J. Davies yn Llangristiolus ym Môn y 1814. Yn 29/30 oed aeth i América. Yno yn 38/39 oed fe aeth yntau a'i wraig yn genhadwÿr ymhlith y brodorion. At ba lwÿth yr aeth y rhain?
a) Lakota (Sioux)
b) Ojibwe (Chippewa)
c) Omaha
d) Ho-Chañk (Winnebago)

(5) Yn 1867 ffurfiwÿd treflan newÿdd yn Sir y Glasbridd. Pa enw a roddwÿd arni?
a) Wales
b) Cambria
c) Brÿn Mawr
d) Bangor

(6) Yn 26/27 oed (1854) aeth William R. Jones i'r Unol Daleithiau. Yn 29/30 oed cyfieithiodd Gyfansoddiad Minnesota i'r Gymraeg ar gyfer Llywodraeth y Dalaith. Un o ba le oedd hwn?
a) Aberffraw
b) Aberystwÿth
c) Aber-gwaun
d) Abergynolwÿn

(7) Ganwÿd David Dackins yn Llanidloes. Yn 1862, yn Rhyfel Cartref América, fe'i cipiwÿd gan y Cÿdffederalwÿr ym mrwÿdr Guntown. Fe ddihangodd, aeth ar draws tir y gelÿn ac yn y diwedd cyrhaeddodd rengoedd blaen yr Undebwÿr. Ym mha gatrawd yr oedd?
1) Company E, Ninth Minnesota
b) Company B, Brackett's Battalion
c) 23rd Wisconsin
d) Second regiment, Minnesota Cavalry

(8) Sut y bu farw John S. Jones (Preri) yn 1862?
a) bu farw fel carchoror rhyfel yng Ngharchar Andersonville in Nhalaith Georgia yn ystod y Rhyfel Cartref (1861-1865)
b) bu farw ar faes y gad yn y Rhyfel Cartref (1861-1865)
c) cafodd ei ladd a'i benflingo gan Indiaid Dakota
d) bu farw o oerfel mewn storm eira

(9) Beth ÿw ystÿr yr enw Makhá To yn iaith y Dakota (llurguniad ar hwn ÿw enw'r ddinas Mankato)
a) daear las
b) cynffon fannog
c) meddyginiaeth felen
d) brÿn du

(10) Yr oedd enwau Cymraeg ar y ffermÿdd yn Sir y Glasbridd. Yn mha fferm bu Evan Evans (ganwyd 1819, Nantcwnlle, Ceredigion) yn byw?
a) Llyn Tegid
b) Pant
c) Maes-mawr
d) Preri Bach

(11) Beth oedd enw'r gymdeithas lenyddol yn Sir y Glasbridd?
a) Y Gymdeithas Lên
b) Cymdeithas Dafydd ap Gwilym
c) Y Wyddorfa
d) Y Cymmrodorion

(12) Ganwyd John T. Williams yn 1828 yn y Rasau, Sir Frycheiniog (Blaenau Gwent erbyn heddiw), aeth i weithio yn 8 oed yn y pyllau glo yng Nghendl, Pen-y-cae a Thredegar. Pan yn 19/20 oed ymfudodd i América. Beth wnaeth e yno?
a) agorodd swyddfa gwerthu tai a thir
b) yr oedd yn Ysgrifennydd Pwyllgor y Ty ar Arferion Indiaidd yn Washington
c) yr oedd yn drysorydd y sir yn Sir y Glasbridd
d) yr oedd yn Rhingyll yn Senad Talaith Minnesota -

 

ATEBION: Mae'r dolennau yn ymgyfeirio at adrannau yn ein fersiwn arlein o 'Hanes y Cymry ym Minnesota'

(1) In 1853 fe yrrwyd yr Indiad Dakota o'u tiroedd, ac fe ddaeth yr ymsefydlwyr gwynion i mewn. Yn yr un flwyddyn ffurfiwyd Sir y Glasbridd. Ond ym mha flwyddyn bu'r Cymry cyntaf yn byw yn y parthau hynny?
a) 1850
b) 1853
Gweler
0882 - kimkat0882e Hanes y Sefydliadau yn Sir y Glasbridd
c) 1850
d) 1865 (yr un flwyddyn â Gwladfa Patagonia)

(2) Ganwyd John E. Davis yn Nefyn, Sir Benfro yn 1795. Pan oedd yn 43/44 oed aeth i'r Unol Daleithiau ac ymhen hir a hwyr i Sir y Glasbridd. Beth oedd ei enw ar lafar?
a) Siôn Dafis
b) Sioni Hoi
c) Joni Fawr
d) Siôn Dafydd
Gweler
0882 - kimkat0882e Hanes y Sefydliadau yn Sir y Glasbridd

(3) Ganwyd John I. Davies (Ioan Idris) yn 1821, ac fe aeth i'r Unol Daleithiau yn 21 oed, ac ar ôl rhai blynyddoedd i Sir y Glasbridd. Ym mha le y ganwyd ef?
a) Dolgellau
b) Y Bala
Gweler
0850 - kimkat0850e Bywgraffiadau'r Cymry
c) Tywyn
d) Y Bermo

(4) Ganwyd David J.Davies yn Llangristiolus ym Môn y 1814. Yn 29/30 oed aeth i América. Yno yn 38/39 oed fe aeth yntau a'i wraig yn genhadwyr ymhlith y brodorion. At ba lwyth yr aeth y rhain?
a) Lakota (Sioux)
b) Ojibwe (Chippewa)
c) Omaha
Gweler
0850 - kimkat0850e Bywgraffiadau'r Cymry
d) Ho-Chañk (Winnebago)

Buont yn gweithio ymhlith yr Indiaid Omaha am saith mlynedd (ac yn eu dyb nhw siwr o fod yn eu gwareiddio ac yn eu crefyddoli, yn hytrach na dinistrio eu hunaniaeth a'u balchder fel cenedl, ac eu hiaith).

(5) Yn 1867 ffurfiwyd treflan newydd yn Sir y Ddear Las. Pa enw a roddwyd arni?
a) Wales
b) Cambria
Gweler
0882 - kimkat0882e Hanes y Sefydliadau yn Sir y Glasbridd
c) Bryn Mawr
d) Bangor

(6) Yn 26/27 oed (1854) aeth William R. Jones i'r Unol Daleithiau. Yn 29/30 oed cyfieithiodd Gyfansoddiad Minnesota ar gyfer Llywodraeth y Dalaith. Un o ba le oedd hwn?
a) Aberffraw
Gweler
0850 - kimkat0850e Bywgraffiadau'r Cymry
b) Aberystwyth
c) Aber-gwaun
d) Abergynolwyn

(7) Ganwyd David Dackins yn Llanidloes. Yn 1862, yn Rhyfel Cartref América, fe'i cipiwyd gan y Cydffederalwyr ym mrwydr Guntown. Fe ddihangodd, aeth ar draws tir y gelyn ac yn y diwedd cyrhaeddodd rengoedd blaen yr Undebwyr. Ym mha gatrawd yr oedd?
a) Company E, Ninth Minnesota
Gweler
0854 kimkat0854e Milwyr y Gwrthryfel 1861-1865
b) Company B, Brackett's Battalion
c) 23rd Wisconsin
d) Second regiment, Minnesota Cavalry

(8) Sut y bu farw John S. Jones (Preri) yn 1862?
a) bu farw fel carchoror rhyfel yng Ngharchor Andersonville in Nhalaith Georgia yn ystod y Rhyfel Cartref (1861-1865)
b) bu farw ar faes y gad yn y Rhyfel Cartref (1861-1865)
c) cafodd ei ladd a'i benflingo gan Indiaid Dakota
Gweler
0873 - kimkat0873e Rhyfel y Sioux
d) bu farw o oerfel mewn storm eira

(Bu farw arloeswyr eraill yn y Rhyfel Cartref ac yn yr oerfel gaeafol)

(9) Beth yw ystyr yr enw MakHá To yn iaith y Dakota (llurguniad ar hwn yw enw'r ddinas Mankato)
a) daear las
Gweler
0893 kimkat0893k Geirfa Lakota. Daw enw Saesneg y sir hefyd, Blue Earth County, o enw afon MakHá To)
b) cynffon fannog
c) meddyginiaeth felen
d) bryn du


(10) Yr oedd enwau Cymraeg ar y ffermydd yn Sir y Glasbridd. Yn mha fferm bu Evan Evans (ganwyd 1819, Nantcwnlle, Ceredigion) yn byw?
a) Llyn Tegid
b) Pant
Gweler
0850 - kimkat0850e Bywgraffiadau'r Cymry
c) Maes-mawr
d) Preri Bach (hynny yw, 'prairie').

Am y lleill, y oeddynt i gyd yn enwau ar ffermydd yn sir y Glasbridd yn y ddeunawfed ganrif


(11) Beth oedd enw'r gymdeithas lenyddol yn Sir y Glasbridd?
a) Y Gymdeithas Lên
b) Cymdeithas Dafydd ap Gwilym
c) Y Wyddorfa
Gweler Humphrey O. Roberts, Llan-rug
0850 - kimkat0850e Bywgraffiadau'r Cymry
d) Y Cymmrodorion


(12) Ganwyd John T. Williams yn 1828 yn y Rasau, Sir Frycheiniog (Blaenau Gwent erbyn heddiw), aeth i weithio yn 8 oed yn y pyllau glo yng Nghendl, Pen-y-cae a Thredegar. Pan yn 19/20 oed ymfudodd i América. Beth wnaeth e yno?
a) agorodd swyddfa gwerthu tai a thir
b) yr oedd yn Ysgrifennydd Pwyllgor y Ty ar Faterion Indiaidd yn Washington (oedran 34/35-41/42) 1863-1870
c) yr oedd yn drysorydd y sir yn Sir y Glasbridd (oedran 32/33) (1861
d) yr oedd yn Rhingyll yn Senad Talaith Minnesota (oedran 41/42 - 42/43) 1870, 1871

Y pedair swydd hyn.
Gweler
0850 - kimkat0850e Bywgraffiadau'r Cymry

 

 ·····

Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pàgina of the Web "CYMRU-CATALONIA" (= Galles-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website
Weørr a>m ai? Yuu> aa>rr vízïting ø peij fro>m dhø "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katølóuniø) Wébsait