0972 Gwefan Cymru-Catalonia - Caneuon gwerin ac emynau. 01 - AR HYD Y NOS, 02 - AR LAN Y MÔR, 03 - BENDIGEDIG FYDDO’R IESU, 04 - BING BONG BE, 05 - BUGEILIO’R GWENITH GWYN, 06 - CALON LÂN, 07 - CÂN Y CARDI, 08 - CWM RHONDDA, ac yn y blaen

..

Gwefan Cymru-Catalonia
http://www.racocatala.com/catalunyacymru/amryw/canu_amryw_0972k.htm

06 07 1999 : adolygiad diweddaraf

·····

Caneuon gwerin ac emynau

0380 Traditional Welsh songs and hymns - click here for this page in English (List of songs and hymns)

 

 ·····

0001 y tudalen blaen
portada
·····
0008 y cyntedd
el vestíbul
·····
0005 prif fynegai i’r pynciau yn y gwefan hwn
índex principal dels temes d’aquesta web
·····
0015 tudalen cynnwÿs y Gwefan
pàgina del contingut de la web
·····
0043 tudalen mynegeiol ‘CYMRAEG’
pàgina índex ‘LLENGUA GAL·LESA’
·····
0039 tudalen mynegeiol ‘CYMRU’
pàgina guia ‘GAL·LES’
·····
0090 gwefannau â ffeiliau MIDI o ganeuon traddodiadol ac emynau Cymráeg
Webs amb fitxers MIDI de cançons i cants en llengua gal·lesa
·····
0029
LLYFR YMWELYR - Pwÿ sÿ wedi ymwéld â ni? Ych chi am dorri’ch enw chithau?
LLIBRE DE VISITES - Qui ens ha visitat? Voleu firmar també
?

·····

Mynegai (mae’r caneuon i’w gweld o dan y rhestr hon) :

01 - AR HYD Y NOS

02 - AR LAN Y MÔR

03 - BENDIGEDIG FYDDO’R IESU

04 - BING BONG BE

05 - BUGEILIO’R GWENITH GWYN

06 - CALON LÂN

07 - CÂN Y CARDI

08 - CWM RHONDDA

09 - CYFRI’R GEIFR

10 - DACW NGHARIAD I LAWR YN Y BERLLAN

11 - DAFYDD Y GARREG WEN

12 - DEFAID WILIAM MORGAN

13 - DERYN PUR, Y

14 - FFARWÉL FO I CHI UNWAITH

15 - FFLAT HUW PUW

16 - FWYALCHEN, Y

17 - GELYNNEN, Y

18 - GWENNO PENYGELLI

19 - HEN FERCHETAN

20 - HEN WLAD FY NHADAU

21 - HOB Y DERI DANDO

22 - I BOB UN SY’N FFYDDLON

23 - I GALFARIA TROF FY WYNEB

24 - INTERNATIONALE, YR

25 - LAWR AR LAN Y MÔR

26 - LLWYN ONN

27 - MAE GEN I DIPYN O DY^ BACH TWT

28 - MAE ’NGHARIAD I’N FENWS

29 - MIGILDI MAGALDI

30 - MILGI MILGI

31 - MOLIANNWN

32 - NANT Y MYNYDD

33 - RHYFELGYRCH GWYR HARLECH

34 - ROWND YR HORN

35 - RW I’N CARU MERCH O BLWYF PENDERYN

36 - SOSBAN FACH

37 - TÔN Y MELINYDD

38 - WRTH FYND EFO DEIO I DYWYN

39 - YM MHONT-TY-PRIDD MAE ’NGHARIAD

 

XXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXXX

 

::01 :·:
AR HYD Y NOS
(1) Holl amrantau’r sêr ddywedant
Ar hÿd y nos
Dyma’r ffordd i fro gogoniant
Ar hÿd y nos
Golau arall ÿw tywyllwch
I arddangos gwir brydferthwch
Teulu’r nefoedd mewn tawelwch
Ar hÿd y nos

(2) O mor siriol gwena seren
Ar hÿd y nos
I oleuo’i chwaer ddaearen
Ar hÿd y nos
Nos ÿw henaint pan ddaw cystudd
Ond i harddu dÿn a’i hwÿrddÿdd
Rhown ein golau gwan i’n gilÿdd
Ar hÿd y nos

::02 :·:
AR LAN Y MÔR
(1) Ar lan y môr mae rhosÿs cochion
Ar lan y môr mae lilis gwynion
Ar lan y môr mae ’nghariad inne
Yn cysgu’r nos a chodi’r bore 

(2) Ar lan y môr mae cerrig gleision
Ar lan y môr mae blodau’r meibion
Ar lan y môr mae pob rhinwedde
Ar lan y môr mae’n nghariad inne 

(3) Mor hardd ÿw’r haul yn codi’r bore
Mor hardd ÿw’r enfÿs aml ei liwie
Mor hardd ÿw natur ym Mehefin
Ond harddwch fÿth ÿw wÿneb Elin

::03 :·:
BENDIGEDIG FYDDO’R IESU
(1) Bendigedig fyddo’r Iesu
Yr Hwn sÿdd yn ein caru
Ein galw o’r bÿd a’n prynu
Ac yn ei waed ein golchi
Yn eiddo iddo’i Hun

CYTGAN
Haleliwia
Moliant iddo bÿth, Amen  

(2) Bendigedig fyddo’r Iesu
Yr hwn sÿdd iddo’n credu
A gaiff ei ras i’w nerthu
Mae’r Hwn sÿdd yn gwaredu
Yn aros fÿth yr un

(3) Bendigedig fyddo’r Iesu
Fe welir ei ddyweddi
Heb un brycheuÿn arni
Yn lân fel y goleuni
Ar ddelw Mab y Dÿn

::04 :·:
BING BONG BE
(1) Ma’ nhw’n dwedÿd ac yn sön
’Mod i’n caru yn Sir Fôn
Minnau sÿdd yn caru’n ffyddlon
Dros y dwr yn Sir Gaernarfon

CYTGAN:
Bing bong bing bong be
Bing bong bing bong be
Bing bong bing bong be
Bing bong bing bong be

(2) Twll dy din di’r milgi main
Ti a’th short sÿ’n magu chwain
Minnau sÿdd yn hogÿn lysti
Cicio’r chwain i draed y gwelÿ

(3) Bum yn caru rÿw nos Wener
Dan y faril yn y seler
Ac yn wir mi garwn eto
Gyfeillachu peth â honno

(4) Rw i’n ofer, rw i’n yfed
Rw i’n g’wilÿdd gwlad i’m gweled
Rw i’n gwario fel dÿn gwirion
Ffei o feddwi - ffiaidd foddion

(5) Dafÿdd Dafis Ffos-y-ffin
Gollodd allwedd twll ei din
Ffaelodd gaal e’n ddigon clou
Holltodd twll ’i dÿn yn ddou

(6) Union natur fy mun odiaeth
ÿw nacau ymroi ar unwaith
Gweiddi ‘Heddwch’, goddef teimlo
Dwedÿd ‘Paid!’ - a gadael iddo

(7) Hen fenÿw fach Cydweli
Yn gwerthu loshin du
Yn rhifo deg am ddimai
On un ar ddeg i mi

(8) Canu wnaf a bod yn llawen
Fel y gog ar frig y gangen
A pheth bynnag ddaw i’m blino
Can wnaf a gadael iddo

(9) Mi feddyliais am briodi
Na chawn ddim ond dawnsio a chanu
Ond beth a ges ar ôl priodi
Ond siglo’r crud a suo’r babi

(10) Dau gi bach yn mÿnd i’r coed
Esgid newÿdd am bob troed
Dau gi bach yn dwad adre
Wedi colli un o’u sgidie

(11) Fe af i’r ysgol ’forÿ
Â’m llÿfr yn y fy llaw
Heibio i’r Castell Newÿdd
A’r cloc yn taro naw

::05 :·:
BUGEILIO’R GWENITH GWYN
(1) Mi sÿdd fachgen ieuanc ffôl
Yn bÿw ar ôl fy ffansi
Myfi’n bugeilio’r gwenith gwÿn
Ac arall yn ei fedi
Pam na ddeui ar fy ôl
Rÿw ddÿdd ar ôl ei gilÿdd?
Gwaith rw i’n dy weld y feinir fach
Yn lanach lanach beunÿdd

(2) Glanach lanach wÿt bob dÿdd
Neu fi sÿ â’m ffÿdd yn ffolach
Er mwÿn y gwr a wnaeth dy wedd
Gwna im drugaredd bellach
Cwn dy ben, gwêl acw draw
Rho imi’th law wen dirion
Gwaith yn dy fynwes bert ei thro
Mae allwedd clo fy nghalon

(3) Tra bo dw^r y môr yn hallt
A thra bo ’ngwallt yn tyfu
A thra bo calon yn fy mron
Mi fydda’n ffyddlon iti
Dywed imi’r gwir heb gêl
A rho dan sêl d’atebion
P’un ai myfi neu arall, Gwen,
Sÿdd orau gen dy galon

::06 :·:
CALON LÂN
(1) Nid wÿf yn gofÿn bwÿd moethus
Aur y bÿd na’i berlau mân
Gofÿn wÿf am galon hapus
Calon onest, calon lân

CYTGAN
Calon lân yn llawn daioni
Tecach ÿw na’r lili dlos
Does ond calon lân all ganu
Canu’r dÿdd a chanu’r nos

(2) Pe dymunwn olud bydol
Edÿn buan ganddo sÿdd
Golud calon lân rhinweddol
Yn dwÿn bythol elw fÿdd

(3) Hwÿr a bore fy nymuniad
Gwÿd i’r nef ar edÿn cân
Ar i Dduw, er mwÿn fy Ngheidwad
Roddi imi galon lân

::07 :·:
CÂN Y CARDI
(01) W i’n lwmpÿn mawr o Gardi
Yn newÿdd ddod o’r wlad
Yn gaffar acha talcan
Yn ennill mwÿ na ’N(h)ad

CYTGAN
Cered y bÿd i’r sawl a fynno
A finna’n llawan iach
Llymed nawr ac yn y man
O gwrw melÿn bach

(02) Ma gen i fwÿall ?notid
Ond bod ’yn un í’n dwp
A slej a mandral gwiilod (= gwaelod)
A phedwar mandral cwt

(03) W i’n gallu cwto’n gymws
W i’n gallu cwto’n gam
W i’n gallu holo tano’
A llanw petar dram

(04) W i finna yn hen goliar
Yn dod sha thre mor ddu
A iwso c’mint o sebon
A gariff gwraig y tÿ

(05) W i’n ennill shaw o arian
A rhein i gÿd yn stôr
A phan ddaw mish y ’fala
Mi af ta dw^r y môr


::08 :·:
CWM RHONDDA
(1) Wele’n sefÿll rhwng y myrtwÿdd
Wrthrÿch teilwng o’m holl frÿd
Er o ran yr wÿ’n ei ’nabod
Ef uwchlaw gwrthrychau’r bÿd

Henffÿch fore!
Caf ei weled fel y mae

(2) Rhosÿn Saron ÿw ei enw
Gwÿn a gwridog, teg o brÿd
Ar ddeng mil y mae’n rhagori
O wrthrychau penna’r bÿd

Ffrind pechadur
Dyma’r Llywÿdd ar y môr

(3) Beth sÿdd imi mwÿ a wnelwÿf
Ag eilunod gwael y llawr?
Tystio’r wÿf nad ÿw eu cwmni
I’w gystadlu â’m Iesu mawr

O! am aros
Yn ei gariad ddyddiau f’oes

::09 :·:
CYFRI’R GEIFR
Oes gafr eto? Oes, heb ei godro
Ar y creigiau geirwon
Mae’r hen afr yn crwÿdro

(1) Gafr wen wen wen
Ie finwen finwen finwen
Foel gynffonwen, foel gynffonwen
Ystlÿs wen a chynffon
Wen wen wen

(2) Gafr ddu ddu ddu
Ie finddu finddu finddu
Foel gynffonddu, foel gynffonddu
Ystlÿs ddu a chynffon
Ddu ddu ddu

(3) Gafr binc binc binc
Ie finbinc finbinc finbinc
Foel gynffonbinc, foel gynffonbinc
Ystlÿs binc a chynffon
Binc binc binc

(4) Gafr goch goch goch
Ie fingoch fingoch fingoch
Foel gynffongoch, foel gynffongoch
Ystlÿs goch a chynffon
Goch goch goch

(5) Gafr las las las
Ie finlas finlas finlas
Foel gynffonlas, foel gynffonlas
Ystlÿs las a chynffon
Las las las

(6) Gafr werdd werdd werdd
Ie finwerdd finwerdd finwerdd
Foel gynffonwerdd, foel gynffonwerdd
Ystlÿs werdd a chynffon
Werdd werdd werdd

(7) Gafr lwÿd lwÿd lwÿd
Ie finlwÿd finlwÿd finlwÿd
Foel gynffonlwÿd, foel gynffonlwÿd
Ystlÿs lwÿd a chynffon
Lwÿd lwÿd lwÿd

(8) Gafr frown frown frown
Ie finfrown finfrown finfrown
Foel gynffonfrown, foel gynffonfrown
Ystlÿs frown a chynffon
Frown frown frown

::10 :·:
DACW NGHARIAD I LAWR YN Y BERLLAN
(1) Dacw nghariad i lawr yn y berllan
Tw rim-di ro rym-di radl idl-al
O na bawn i yno fy hunan
Tw rim-di ro rym-di radl idl-al
Dacw’r tÿ a dacw’r sgubor
Dacw ddrws y beudÿ’n agor
Ffal-di rwdl idl-al
Ffal-di rwdl idl-al
Tw rim-di ro rym-di radl idl-al

(2) Dacw’r delÿn, dacw’r tannau
Tw rim-di ro rym-di radl idl-al
Beth wÿf gwell heb neb i’w chwarae?
Tw rim-di ro rym-di radl idl-al
Dacw’r feinwen hoenus, fanwl
Beth wÿf nes hebgael ei meddwl?
Ffal-di rwdl idl-al
Ffal-di rwdl idl-al
Tw rim-di ro rym-di radl idl-al

::11 :·:
DAFYDD Y GARREG WEN
(1) “Cariwch,” medd Dafydd, “fy nhelÿn i mi,
Ceisiaf cÿn marw roi tôn arni hi.
Codwch fy nwÿlaw i gyrraedd y tant;
Duw a’ch bendithio fy ngweddw a’m plant!”

(2) “Neithiwr mi glywais lais angel fel hyn:
‘Dafÿdd, tÿrd adref, a chwarae trwÿ’r glÿn!’
Delÿn fy mebÿd, ffarwel i dy dant!
Duw a’ch bendithio fy ngweddw a’m plant!”

::12 :·:
DEFAID WILIAM MORGAN
(1) Mae rhÿwbeth bach yn poeni pawb
Nid ÿw yn nef ym mhobman
Yr hÿn sÿ’n poeni’r ardal hon
Yw defaid Wiliam Morgan

(2) Waeth heb a phlannu nioned bach
Na letus na chybatshan
Chaiff neb eu profi dyna’r gwir
Ond defaid Wiliam Morgan

(3) Does obaith i’r friallen fach
Gael estÿn ei phen allan
Arswÿda’r daffodíl yn swn
Traed defaid Wiliam Morgan

(4) Y maent fel plant heb dad na mam
Na chartref chwaith yn unman
Cardota’u bwÿd o ddrws i ddrws
Wna defaid Wiliam Morgan

(5) Does arnÿnt ofn na dÿn na chi
Na motor car na phlisman
A thrawsfeddiannau tyddÿn pawb
Mae defaid Wiliam Morgan

(6) O! maent yn gall a’u pennau’n gam
A’u lider ÿw’r maharan
Ac er eu gwerthu, dod yn ôl
Mae defaid Wiliam Morgan

(7) Mae’r haf yn ymÿl, diolch bÿth
Cânt fyned am Foel Faban
A chawn ymwared am rÿw hÿd
 defaid Wiliam Morgan

::13 :·:
DERYN PUR, Y
(1) Y ’derÿn pur â’r adain las
Bÿdd imi’n was dibrydar
O! ’brysur brysia at y ferch
Lle rhoes i’m serch yn gynnar
Dos di ati, dywad wrthi
’Mod i’n wÿlo’r dwr yn heli
’Mod i’n irad am ei gwelad
Ac o’i chariad yn ffaelau â cherddad
O! Duw faddeuo’r hardd ei llun
Am boeni dÿn mor galed!

(2) Pan own i yn hoenus iawn fy hwÿl
Ddiwarnod gwÿl yn gwÿlio
Canfyddwn fenÿw lana ’rioed
Ar ysgawn droed yn rhodio
Pan y’i gwelais sÿth mi sefais
Yn fy nghalon mi feddyliais
Wele ddynes lana’r deÿrnas
A’i gwên yn harddu’r oll o’i chwmpas
Ni fyn’swn gredu un dÿn bÿw
Nad oedd hi rÿw angylas

::14 :·:
FFARWÉL FO I CHI UNWAITH
(1) Ffarwél fo i chwi unwaith
Ffarwél fo i chwi ddwÿ
Ffarwél fo i chwi deirgwaith
Ni welaf mohonoch chi mwÿ

CYTGAN
Trafaelu’r bÿd ’i hÿd â’i led
A nofio dros y môr
Bÿdd glaswellt ar fy llwÿbrau
Cÿn delwÿf i Gymru ’nôl
Cÿn delwÿf i Gymru ’nôl, fy ffrins
Cÿn delwÿf i Gymru ’nôl
Bÿdd glaswellt ar fy llwÿbrau
Cÿn delwÿf i Gymru ’nôl

(2) Ffarwél i ddocie Lerpwl
Ffarwél i frÿn a bro
Ffarwél i Aberteifi
Lle hales i lawer i dro

::15 :·:
FFLAT HUW PUW
(1) Mae sw^n ym Mhorthdinlláen, sw^n hwÿlie’n codi
Blocie i gÿd yn gwichian, Dafÿdd Jones yn gweiddi
Ni fedra i aros gartre yn fy mÿw
Rhaid i mi fÿnd yn llongwr iawn ar Fflat Huw Puw

CYTGAN
Fflat Huw Puw yn hwÿlio heno
Sw^n codi angor, mi fynna i fÿnd i forio
Mi wisga ’i gap pig-gloÿw tra bydda i fÿw
Os ca i fÿnd yn llongwr iawn ar fflat Huw Puw

(2) Mi bryna i yn y Werddon sane sidan
Sgidiau bach i ddawnsio, a rheinÿ â bycle arian
mi fydda i’n w^r bonheddig tra bydda i bÿw
Os ca i fÿnd yn gapten llong iawn ar fflat Huw Puw

(3) Mi gadwa ’i fflat fel parlwr gore
Bÿdd sgwrio mawr a chrafu bob ben bore
Mi fÿdd y pres yn sgleinio ar y llÿw
Pan fydda i yn gapten llong ar fflat Huw Puw

::16 :·:
FWYALCHEN, Y
(1) O gwrando! y beraidd fwÿalchen
Clÿw edn mwÿn serchog liw du
A ei di yn gennad heb oedi
At ferch fûm i’n garu mor gu?
O! dywed mal hÿn wrth liw’r manod
O’i chariad rwÿ’n barod i’r bedd
A ’mywÿd, ar soddi sÿ’n gorffwÿs
Ar ddwÿlo’r un geinlwÿs ei gwedd

(2) Mae’n dda mod-i’n galed fy nghalon
Lliw blodau drain gwynion yr allt
Mae’n dda mod-i’n ysgafn fy meddwl
Lliw’e banadl melÿn ei gwallt
Mae’n dda mod-i’n ieuanc diwÿbod
Heb arfer fawr drafod y bÿd
Pam peidiaist ti ferch a ’mhriodi
Ar ôl im’ dy ganlÿn di cÿd!

::17 :·:
GELYNNEN, Y
(1) Fy mwÿn gyfeillion dewch ynghÿd
Mewn prÿd i ganmol y glasbren
Pren canmolus gweddus gwÿw
A’i enw ÿw’r gelynnen

CYTGAN:
Ffal-di-rw-di-lam-tam, tw-li-ridl-di
Ffal-di-rw-di-lam-tam, tw-li
Pren canmolus gweddus gwÿw
A’i enw ÿw’r gelynnen

(2) I ba beth cyffelybaf hon?
I focsen gron, neu ywen
Neu rÿw neuadd wÿch o blas
Ond ffeind ÿw’r las gelynnen

(3) pe bai’r eos hen un tÿ
Neu geiliog du’r fwÿalchen
Hwÿr y daw, a hir y trig
Tan gysgod brig gelynnen

(4) Pe bai hi’n bwrw gaw neu od
Mi allwn fod yn llawen
Neu rÿw dywÿdd a f’ai fwÿ
Does dim ddaw trwÿ’r gelynnen

(5) Fe ddaw’r cynhaea i’r cÿll yn llawn
Pren noddol iawn ÿw’r onnen
Ond tecach peth ÿw’r g’lynen glÿd
Na’r eirin sÿ hÿd y ddraenen

(6) A phan ddelo gwres yr haf
O ffeind a braf ÿw’r fedwen
Ond pan ddelo’r gaeaf dig
Mae’n well dan frig gelynnen

::18 :·:
GWENNO PENYGELLI
(1) Rw i’n ddeg ar hugain oed
Ac arna i chwant priodi
Geneth ysgafndroed
Fel Gwenno Penygelli
Mae ganddi ddillad crand
A mae hi’n eneth bropor
A deg punt yn y banc
Ar ôl ei modrÿb Gaenor

(2) Mae gen i het Jim Cro
Yn barod i fy siwrne
A sgidie o groen llo
A gwisg o frethÿn cartre
Mae gen i dÿ yn llawn
Yn barod i’w chroesawu
A phedair tas o fawn
A dillad ar fy ngwelÿ

(3) Mae gen i ddafad ddu
Yn pori ar Eryri
Chwiaden, cath a chi
A gwartheg lond y beudÿ
Mi fedraf dasu a thoi
A chanu, a dal yr arad
A gweithio heb ymdroi
A thorri gwrÿch yn wastad

(4) Roedd yno bwdin reis
A hwnnw ar hanner berwi
Y cwc wedi torri’i bÿs
A cholli’r cadach llestri
Cig y maharan du
Yn wÿdÿn yn ’i gymale
Potes maip yn grÿ
A chloben o baste ’fale

::19 :·:
HEN FERCHETAN
(1) Hen ferchetan wedi colli’i chariad
Ffol-di rol-di rol-lol ffol-di rol-di ro
Cael un arall, dyna oedd ei bwriad
Ffol-di rol-di rol-lol ffol-di rol-di ro
Ond nid oedd un o lancie’r pentre
Ffol-di rol-dol-di rol-di ro
Am briodi Lisa fach yr Hendre
Ffol-di rol-di rol-lol ffol-di rol-di ro

(2) Hen ferchetan sÿdd yn dal i dreio
Ffol-di rol-di rol-lol ffol-di rol-di ro
Gwisgo lase sidan ac ymbincio
Ffol-di rol-di rol-lol ffol-di rol-di ro
Ond er bod brân i frân yn rhÿwle
Ffol-di rol-dol-di rol-di ro
Nid oes neb i Lisa fach yr Hendre
Ffol-di rol-di rol-lol ffol-di rol-di ro

(3) Hen ferchetan bron â thori’i chalon
Ffol-di rol-di rol-lol ffol-di rol-di ro
Mÿnd i’r llan mae pawb o’i hen gariadon
Ffol-di rol-di rol-lol ffol-di rol-di ro
Bÿdd tatws newÿdd ar bren ’fale
Ffol-di rol-dol-di rol-di ro
Cÿn priodith Lisa fach yr Hendre
Ffol-di rol-di rol-lol ffol-di rol-di ro

(4) Hen ferchetan aeth i Ffair y Bala
Ffol-di rol-di rol-lol ffol-di rol-di ro
Gweld Siôn Prÿs yn fachgen digon smala
Ffol-di rol-di rol-lol ffol-di rol-di ro
Gair a ddywedodd wrth fÿnd adre’
Ffol-di rol-dol-di rol-di ro
Gododd galon Lisa fach yr Hendre
Ffol-di rol-di rol-lol ffol-di rol-di ro

::20 :·:
HEN WLAD FY NHADAU
(1) Mae Hen Wlad fy Nhadau yn annwÿl i mi
Gwlad beirdd a chantorion, enwogion o fri
Ei gwrol ryfelwÿr, gwladgarwÿr tra mad
Dros ryddid collasant eu gwaed

Gwlad! Gwlad!
Pleidiol wÿf i’m gwlad
Tra’r môr yn fur
I’r bur hoff bau
O bydded i’r hen iaith barhau

(2) Hen Gymru fynyddig, paradwÿs y bardd
Pob dyffrÿn, pob clogwÿn, i’m golwg sÿ’n hardd
Trwÿ deimlad gwladgarol mor swÿnol ÿw si
Ei nentÿdd, afonÿdd i mi

(3) Os treisiodd y gelÿn fy ngwlad dan ei droed
Mae heniaith y Cymrÿ mor fÿw ag erioed
Ni luddiwÿd yr awen gan erchÿll law brad
Na thelÿn berseiniol fy ngwlad

::21 :·:
HOB Y DERI DANDO (fersiwn y Lolfa)
(1) Mi fûm gÿnt yn caru Saesnes
Hob y deri dando
Cloben felen fawr anghynnes
Hob y deri dando
Ond pan soniai am briodi
Siân fwÿn, Siân
Meddwn i, “Ai wil not mari”, “
Siân fwÿn, tÿrd i’r llwÿn,
I seinio’n fwÿngu, Siani fwÿn

(2) ??...............
Hob y deri dando
Cloben felen fawr anghynnes
Hob y deri dando
Meddai hi, Iwl haf tw mari
Siân fwÿn, Siân
Liwsi Mê, mai doter priti
Siân fwÿn, tÿrd i’r llwÿn,
I seinio’n fwÿngu, Siani fwÿn

(3) Esgob Dafÿdd yn ’i sane
Hob y deri dando
Wot iw mîn? gofynais innau
Hob y deri dando
Meddai hi, Iwl haf tw mari
Siân fwÿn, Siân
In dhy ffamli wei is Liwsi
Siân fwÿn, tÿrd i’r llwÿn,
I seinio’n fwÿngu, Siani fwÿn

(4) Dyna pam rwÿ’n trigo’r awron
Hob y deri dando
Draw ym Mhatagonia dirion
Hob y deri dando
Dÿn a wÿr beth ddaeth o’r Saesnes
Globen felen fawr anghynnes
Siân fwÿn, tÿrd i’r llwÿn,
I seinio’n fwÿngu, Siani fwÿn

::22 :·:
I BOB UN SY’N FFYDDLON
I bob un sÿ’n ffyddlon
Dan ei faner Ef
Mae gan Iesu goron
Frÿ yn nheÿrnas nef
Lluoedd Duw a Satan
Sÿdd yn cwrdd yn awr
Mae gan blant eu cyfran
Yn y rhyfel mawr

Awn i gwrdd y gelÿn
Bawb ag arfau glân
Uffern sÿdd i’n herbÿn
A’i phicellau tân
Gwasgwn yn y rhengau
Ac edrychwn frÿ
Concrwr bÿd ac angau
Acw sÿdd o’n tu!

::23 :·:
I GALFARIA TROF FY WYNEB
(1) I Galfaria trof fy wÿneb
Ar Galfaria gwÿn fy mÿd
Y mae gras ac anfarwoldeb
Yn diferu drosto’i gÿd
Pen Calfaria
Yno f’enaid gwna dy nÿth

(2) Yno clywaf, gyda’r awel, Gerddi’r nef yn dod i lawr
Ddysgwÿd wrth afonÿdd babel
Gÿnt yng ngwlad y cystudd mawr
Pen Calfaria
Gydia’r ddaear wrth y nef

(3) Dringo’r mynÿdd ar fy ngliniau
Geisiaf, heb ddiffygio bÿth
Tremiaf trwÿ gawodÿdd dagrau
Ar y groes yn union sÿth
Pen Calfaria
Dry fy nagrau’n ffrwd o hedd

::24 :·:
INTERNATIONALE, YR
Deffrówch, orthrymedigion daear
Cyfodi mae’r newynog lu
Daw gwirioneddau’r bywÿd newÿdd
I chwalu niwl yr oesoedd fu
Wele gaethion y cystudd hirfaith
Yn ymuno’r fyddin fawr
I gyhoeddi rhyddid i’r cenhedloedd
Ac i’r ddynolrÿw doriad gwawr

CYTGAN
Henffÿch, weithwÿr y gwledÿdd
Dyma’r frwÿdr olaf i gÿd
Mae’r Undeb Rhyngwladol
Yn newid seiliau’r bÿd

::25 :·:
LAWR AR LAN Y MÔR
(1) Mi gwrddais i â merch fach ddel
Lawr ar lan y môr
Lawr ar lan y môr
Lawr ar lan y môr
Mi gwrddais i â merch fach ddel
Lawr ar lan y môr
Lawr ar lan y môr

CYTGAN
O!
O! O rw i’n ei charu hi
O rw i’n ei charu hi
Yr eneth ar lan y môr
O! O! O rw i’n ei charu hi
O rw i’n ei charu hi
Yr eneth ar lan y môr

(2) Gofynnais am un gusan fach
Lawr ar lan y môr
Lawr ar lan y môr
Lawr ar lan y môr
Gofynnais am un gusan fach
Lawr ar lan y môr
Lawr ar lan y môr

(3) Mi gefais i un gusan fach
Lawr ar lan y môr
Lawr ar lan y môr
Lawr ar lan y môr
Mi gefais i un gusan fach
Lawr ar lan y môr
Lawr ar lan y môr

(4) Rhÿw ddiwrnod fe’i priodaf hi
Lawr ar lan y môr
Lawr ar lan y môr
Lawr ar lan y môr
Rhÿw ddiwrnod fe’i priodaf hi
Lawr ar lan y môr
Lawr ar lan y môr

::26 :·:
LLWYN ONN (fersiwn Talhaiarn - John Jones - 1810-1870)
Gogoniant i Gymru,
Anwÿlwlad fy nhadau,
Pe medrwn mawrygwn
Dy fawredd a’th fri;

Mae’r awen yn caru
Dy wedd a’th rinweddau,
Hoff famaeth athrylith
A dewrder wÿt ti;

Bu amser pan hoffai
T’wysogion dy delÿn,
A’i sain a gyffroai
Wrolion y gâd.

I ruthro’n ddisymwth
Ar warchae y gelÿn,
Gan ymladd dros ryddid
A breintiau ein gwlad.

Fy henwlad fendigaid,
Mae anian yn urddo,
Pob mynÿdd a dyffrÿn,
Pob clogwÿn a glÿn!

Ac ysbrÿd prydferthwch
A’i liw yn goleuo
Pob afon ac aber,
Pob llannerch a llÿn;

Gwladgarwch a rhinwedd
Fendithiant dy enw,
Dy feibion a’th ferched
A garant dy fri;

Gorhoffedd dy feibion
Yw denu dy sylw
Er gwaethaf pob gelÿn
Ein testun wÿt ti.

::27 :·:
MAE GEN I DIPYN O DY^ BACH TWT
(1) Mae gen i tipÿn o dÿ bach twt
O dÿ bach twt, o dÿ bach twt
Mae gen i tipÿn o dÿ bach twt
A’r gwÿnt i’r drws bob bore.
Hai di ho, di hai, di hai, di ho
A’r gwÿnt i’r drws bob bore.

(2) Agorwch dipÿn o gil y drws
O gil y drws, o gil y drws
Agorwch dipÿn o gil y drws
Gael gweld y môr a’r tonne
Hai di ho, di hai, di hai, di ho
Gael gweld y môr a’r tonne

::28 :·:
MAE ’NGHARIAD I’N FENWS
(1) Mae ’nghariad i’n Fenws
Mae ’nghariad i’n fain
Mae ’nghariad i’n dlysach
Na blodau y drain
Fy nghariad ¨w’r lana’
A’r wynna’n y sir
Nid canmol yr ydwÿf
Ond dywedÿd y gwir

Wÿch eneth fach annwÿl
Sÿ’n lodes mor lân
Ei gruddiau mor writgoch
A’i dannedd mân, mân;
Ei dau lygaid siriol
A’i dwÿ ael fel gwawn -
Fy nghalon a’i carai
Pe gwÿddwn y cawn

(2) Mae ’nghariad i’n caru
Fel cawod o law
Weithiau ffordd yma
A weithiau ffordd draw
Ond cariad pur, ffyddlon
Ni chariff ond un
Y sawl a gâr lawer
Gaiff fod heb yr un

::29 :·:
MIGILDI MAGALDI
(1) Ffeind a difÿr ydÿw gweled
Migildi Magildi hei now now
Drws yr efail yn agored
Migildi Magildi hei now now
A’r gof bach â’i wÿneb purddu
Migildi Magildi hei now now
Yn yr efail yn prysur chwythu
Migildi Magildi hei now now

(2) Ffeind a difÿr hirnos gaea’
Migildi Magildi hei now now
Mÿnd i’r efail am y cynta’
Migildi Magildi hei now now
Pan fo rhew ac eira allan
Migildi Magildi hei now now
Gorau pwÿnt fÿdd wrth y pentan
Migildi Magildi hei now now

(3) Ffeind a braf ÿw swn y fegin
Migildi Magildi hei now now
Gwrando chwedl, cân ac englÿn
Migildi Magildi hei now now
Pan fo’r cwmni yn ei afiaith
Migildi Magildi hei now now
Ceir hanesion lawer noswaith
Migildi Magildi hei now now

(4) Pan ddaw’r môr i ben y mynÿdd
Migildi Magildi hei now now
A’i ddwÿ ymÿl at ei gilÿdd
Migildi Magildi hei now now
A’r coed rhosÿs yn dwÿn fala
Migildi Magildi hei now now
Dyna’r prÿd y cei di finna
Migildi Magildi hei now now

::30 :·:
MILGI MILGI
(1) Ar ben y brÿn mae sgwarnog fach
Ar hÿd y nos mae’n pori
A’i chefen brith a’i bola bola gwÿn
Yn hidio dim am filgi

CYTGAN
Milgi milgi, milgi milgi
Rhowch fwÿo fwÿd i’r milgi
Milgi milgi, milgi milgi
Rhowch fwy o fwyd i’r milgi

(2) Ac wedi rhedeg tipÿn, tipÿn bach
Mae’n rhedeg mor ofnadwÿ
Ag un glust lan a’r llall i lawr
Yn dweud ffarwel i’r milgi

(3) Rôl rhedeg sbel mae’r milgi chwim
Yn teimlo’i fod e’n blino
A gwelir ef yn swp yn swp ar lawr
Mewn poenau mawr yn gwingo

::31 :·:
MOLIANNWN
(1) Nawr lanciau, rhoddwn glod
Mae’r gwanwÿn wedi dod
Y gaeaf a’r oerni a aeth heibio
Daw’r coed i wisgo’u dail
A mwÿniant mwÿn yr haul
A’r wÿn ar y dolÿdd i brancio

CYTGAN
Moliannawn oll yn llon
Mae amaser well i ddyfod ha-ha-le-liw-la
Ac ar ôl y tywÿdd drwg
Fe wnawn arian fel y mwg
Mae arwÿddion dymunol o’n blaenau
Ffwdl la la, ffwdl la la
Ffwdl la la, la la la la
Ffwdl la la, ffwdl la la
Ffwdl la la, la la la la

(2) Daw’r robin goch yn llon
I diwnio ar y fron
A cheiliog y rhedÿn i ganu
A chawn glywed wipar-hwil
A llyffantod wrth y fil
O’r goedwig yn mwmian chwibanu

(3) Fe awn i lawr i’r dre
Gwir ddedwÿdd fÿdd ein lle
A llawnder o ganu ac o ddawnsio
A chwmpeini naw neu ddeg
O enethod glân a theg
Lle mae mwÿniant y bÿd yn disgleirio

::32 :·:
NANT Y MYNYDD
(1) Nant y mynÿdd groÿw lloÿw
Yn ymdreollu tua’r pant
Rhwng y brwÿn yn sisial ganu
O na bawn i fel y nant

(2) Grug y mynÿdd yn ei blodau
Edrÿch arnÿnt hiraeth ddug
Am gael aros ar y bryniau
Yn yr awel efo’r grug

(3) Adar mân y mynÿdd uchel
Godant yn yr awel iach
O’r naill drum i’r llall yn hedeg
O na bawn fel derÿn bach

(4) Mab y mynÿdd ydwÿf innau
Oddi cartref yn gwneud cân
Ond mae ’nghalon yn y mynÿdd
Efo’r grug a’r adar mân

::33 :·:
RHYFELGYRCH GWYR HARLECH
(1) Wele goelcerth wen yn fflamio
A thafodau tân yn bloeddio
Ar i’r dewrion ddod i daro
Unwaith eto’n un
Gan fanllefau tywysogion
Llais gelynion, trwst arfogion
A charlamiad y marchogion
Craig ar graig a gryn.
Arfon bÿth ni orfÿdd
Cenir yn dragywÿdd
Cymru fÿdd fel Cymru fu
Yn glodus ymÿsg gwledÿdd
Yng ngwÿn oleuni’r goelcerth acw
Tros wefusau Cymro’n marw
Annibyniaeth sÿdd yn galw
Am ei dewraf dÿn

(2) Ni chaiff gelÿn ladd ac ymlid
Harlech! Harlech! Cwÿd i’w herlid
Y mae Rhoddwr mawr ein rhyddid
Yn rhoi nerth i ni.
Wele Gymru a’i byddinoedd
Yn ymdywallt o’r mynyddoedd
Rhuthrant fel rhaeadrau dyfroedd
Llamant fel y lli
Llwyddiant i’n lluyddion!
Rwÿstro bâr yn estron!
Gwÿbod yn ei galon gaiff
Fel bratha cleddÿf Brython
Y cledd yn erbÿn cledd a chwerÿ
Dur yn erbÿn dur a derÿ
Wele faner Gwalia i fynÿ
Rhyddid aiff â hi

::34 :·:
ROWND YR HORN
(1) Daeth diwrnod i ffarwelio
Ag annwÿl wlad y Cymro
Gan sefÿll ar hen dir y Werddon fras
Fe gododd gwÿnt yn nerthol
Y môr â’i donnau rhuthrol
Gan olchi dros ein llestr annwÿl las

CYTGAN
Dewch Gymrÿ glân
I wrando ar ein cân
Fel bu y fordaith rownd yr Horn, rownd yr Horn
Sef y trydÿdd dÿdd o’r wÿthnos
Ychydig cÿn y cyfnos
Gan basio ger glân greigiau glannau Môn

(2) Rw i wedi mÿnd a dwad
Mewn llongau hardd ’u gweled
Ond dyma’r wyrcws benna gefais i
Does yma ddim i’w fwÿta
Ond gwiath sÿdd lond ein breichia
O, calon pwÿ all beidio bod yn brudd!

::35 :·:
RW I’N CARU MERCH O BLWYF PENDERYN
(1) Rw i’n caru merch o Blwÿf Penderÿn
Ac yn ei chanlÿn ers llawer dÿdd
Ni allswn garu ag un ferch arall
Er pan welais ’run gron ei grudd
Mae mor hawdded idd ei gweled
Er nad ÿw ond gronen fach
Pan elo i maas i rodio’r caeau
Hi ddÿd fy nghalon glaf yn iach

(2) Rw i’n myned heno, dÿn a’m helpo
I ganu ffarwél i’r seren sÿw
A thyma waith i’r clochÿdd ’forÿ
I dorri ’medd o dan yr ÿw
A thor yn enw’n sgrifenedig
Ar y maen wrth fôn y pren
Fy mod i’n isel iawn yn gorwedd
Ar waelod bedd o gariad Gwen

::36 :·:
SOSBAN FACH
(1) Mae bÿs Mari Ann wedi brifo
A Dafÿdd y gwas ddim yn iach
Mae’r baban yn y crib yn crio
A’r gath wedi sgrapo Joni bach

CYTGAN
Sosban fach yn berwi ar y tân
Sosban fach yn berwi ar y llawr
A’r gath wedi sgrapo Joni bach

Dai bach y Sowldiwr
Dai bach y Sowldiwr
Dai bach y Sowldiwr
A chwt ’i grÿs e maas

(2) Mae bÿs Meri Ann wedi gwella
A Dafÿdd y gwas yn ei fedd
Mae’r baban yn y crud wedi tyfu
A’r gath wedi huno mewn hedd

(3) Shwt grÿs oodd ganddo?
Shwt grÿs oodd ganddo?
Shwt grÿs oodd ganddo?
Un gwÿn a streipen las

O hwp e miwn ’te
O hwp e miwn ’te
O hwp e miwn ’te
Cÿn daw rhagor ma’s 

::37 :·:
TÔN Y MELINYDD
(1) Mae gen i dÿ cysurus
A melin newÿdd sbon
A thair o wartheg blithion
Yn pori ar y fron

CYTGAN
Weli di, weli di, Mari fach
Weli di, Mari annwÿl

(2) Mae gen i drol a cheffÿl
A merlÿn bychan twt
A deg o ddefaid tewion
A mochÿn yn y cwt

(3) Mae gen i gwpwr cornel
Yn llawn o lestri te
A dreser yn y gegin
A phopeth yn ei le

::38 :·:
WRTH FYND EFO DEIO I DYWYN
(1) Mi dderbyniais bwt o lythÿr
Ffa la la la la la la la la la la
Oddi wrth Mister Jones o’r Brithdir
Ffa la la la la la la la la la la
Ac yn hwnnw roedd o’n gofÿn
Ffa la la la la la la la la
Awn ni hefo Deio i Dywÿn
Ffa la la la la la la la la la la

(2) Fe gychwynnwÿd ar nos Wener
Ffa la la la la la la la la la la
Doed i Fawddwÿ erbÿn swper
Ffa la la la la la la la la la la
Fe gaed yno uwd a menÿn
Ffa la la la la la la la la
Wrth fÿnd hefo Deio i Dywÿn
Ffa la la la la la la la la la la

(3) Doed ymlaen ac heibio’r Dinas
Ffa la la la la la la la la la la
A chaed bara a chaws yn Ngwanas
Ffa la la la la la la la la la la
Trwÿ Dal-y-llÿn yr aem yn llinÿn
Ffa la la la la la la la la
Wrth fÿnd hefo Deio i Dywÿn
Ffa la la la la la la la la la la

(4) Os bydda i bÿw un flwÿddÿn eto
Ffa la la la la la la la la la la
Mynna’n helaeth iawn gynilo
Ffa la la la la la la la la la la
Mi ga i bleser anghyffredin
Ffa la la la la la la la la
Wrth fÿnd hefo Deio i Dywÿn
Ffa la la la la la la la la la la

::39 :·:
YM MHONT-TY-PRIDD MAE ’NGHARIAD
(1) Ym Mhont-tÿ-pridd mae ’nghariad
Ym Mhont-tÿ-pridd mae ’mwriad
Ym Mhont-tÿ-pridd mae’r ferch fach lân
I’w chael o flaen y ’ffeiriad
I’w chael o flaen y ’ffeiriad

(2) Mi hela’ heddiw unswllt
Mi hela ’forÿ ddeuswllt
A chÿn y colla’r ferch ei mam
Mi treia hi am y triswllt
Mi treia hi am y triswllt

(3) Mae llond ei llygaid duon
O ddirgel rin y ffynnon
A dyfnder mawr y perlau pur
Sÿ’n peri cur fy nwÿfron
Sÿ’n peri cur fy nwÿfron

(4) Mae’r adar bach sÿ’n hedeg
Yn ysgafn ar bob adeg
Yn llon eu cân, ond yn fy mron
Mae’r galon fel y garreg
Mae’r galon fel y garreg

(5) Mi rown fy enaid iddi
A’m heinioes am ei chwmni
Mi rown bob trysor is y rhod
Am fod yn agos iddi
Am fod yn agos iddi

(6) Ym Mhont-tÿ-pridd mae ’nghariad
Ac oni chaf fy mwriad
Bÿdd llanc yn gorwedd yn y pridd
Ym Mhont-tÿ-pridd dan gaead
Ym Mhont-tÿ-pridd dan gaead


·····

 

·····  

Ble’r wÿf i? Yr ÿch chi’n ymwéld ag un o dudalennau’r Gwefan “CYMRU-CATALONIA”

On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web “CYMRU-CATALONIA” (= Gal·les-Catalunya)

Where am I? You are visiting a page from the “CYMRU-CATALONIA” (= Wales-Catalonia) Website

Weørr äm ai? Yüü äärr vízïting ø peij fröm dhø “CYMRU-CATALONIA” (= Weilz-Katølóuniø) Wébsait

CYMRU-CATALONIA

0972+(canu_caneuon_ac_emynau_1k)+cancons+pagina+gal_lesa