03-05-2017 1793k Gwefan Cymru-Catalonia / la Web de Gal·les i Catalunya – Tudalen Mynegeiol yn cyfeirio at dudalennau sydd yn sôn am y Cymry alltud, a gwladféydd a sefydliadau Cymreig yng ngweddill y byd

 

● kimkat0001 Yr Hafan www.kimkat.org

● ● kimkat2001k Y Fynedfa Gymraeg www.kimkat.org/amryw/1_gwefan/gwefan_arweinlen_2001k.htm

● ● ● kimkat2854k Cyfeirddalen y Cymry Alltud www.kimkat.org/amryw/1_alltudiaeth/alltudiaeth_cyfeirddalen_2854k.htm

● ● ● ● kimkat1793k Cyfeirddalen y Cymry yn América www.kimkat.org/amryw/1_alltudiaeth/america_y_cymry_yn_america_mynegai_1793k

● ● ● ● ● Y tudalen hwn: Pennsylvania


baneri
..



Gwefan Cymru-Catalonia
La Web de Gal
·les i Catalunya

Y Cymry Alltud
PENNSYLVANIA

0473j_map_cymru_a_chatalonia_trefi_merthyrtudful
(delw 0473)


delw_cylch_baner_catalonia_050124 xxxx

cylch_baner_uda
 xxxx


SWYDDI BRADFORD A TIOGA

 

 None)

(delwedd 4824)

 

SEFYDLFA CYMREIG BRADFORD.

Y Sefydlfa hon sydd a rhan o honi yn swydd Bradford a rhan yn swydd Suaquehanna, Pa., - 20 milltir i’r De o Owego, cymaint a hyny o Montrose, a chymaint a hyny hefyd o'r Towanda; mae ynddi tua deugain o deuluoedd o Gymry. Nid hawdd hysbysu ei hyd a’i lled; ond y mae y Cymry, y rhan amlaf o honynt, yn lled gryno gyda eu gilydd. Yn nghylch y tir, afreidiol yw dyweyd wrth y rhai sydd arferol a theithio y dalaith yma - ei fod yn amrywio, gwastad ac anwastad. Nid yw y tir coed yn helaeth iawn yma; mae yr ardal yn lled iachus, y dwfr yn dda. Pris y tir coed yw o dair a haner i bedair dolar yr erw. coed yw maple, hemlock, beech, &c. Mae 4 neu 5 o felinau llifio yn perthynu i’r Sefydlfa - dwy o honynt tua chwe' milltir oddi yma. Codir llafur lled dda yma fynychaf; ond mwy naturiol yw y tir at wair a phorfa. Mewn gair mae y Cymry yn gwneud yn lled dda yma - eu rhifedi yn fawrion ac yn fychain sydd tua dall cant a haner.

 

Mewn perthynas i bethau crefyddol gallwn ddyweyd ei bod yn lled gysurol yn bresenol, trwy drugaredd. Mae yma ddwy eglwys - un yn perthyn i'r Henaduriaethwyr ac un i'r Annibynwyr. Ychydig o hanes y ddiweddaf wyf yn fwriadu ei roi, gyda dywcyd un gair - y mae yn perthyn i’r un Henaduriaethol o bymtheg i ugain o aelodau, ac y mae yn perthyn i'r un Annibynol oddeutu deugain o aelodau. Y mae y cydweithrediad goreu yn bresenol a welais un amser o’r blaen; y mae gyda ni rai o’r hen Fethodistiaid a rhai o'r Bedyddwyr, arwydd o berffaith undeb rhyngom oll, a phob enaid n gwaeddi, “Parhaed brawdgarwch.” Nid oes un ychwanegiad wedi bod yn ddiweddar iawn; eto tua blwyddyn yn ol, fe chwanegwyd at ein heggwys ni rai personau; ac un peth, ein Hybarch Olygydd a’n Brawd anwyl, sydd o gryfder neillduol i'r achos yma, fod tafodau rhai ag oedd fel wedi glynu wrth daflod eu genau wedi cael eu gollwng yn rhydd i alw ar enw yr Arglwydd, a chanmol goludoedd gras, sef y chwiorydd; pan y bernir gan rai nad yw ddim yn gyfreithlon iddynt wneud hyny yn gyhoeddus, eto ymdrechant. ymaflant yn ngrym yr addewidion, a chan nas gall yr Arglwydd ddim gwadu ei hun, y mae arwyddion neillduol o bresenoldeb Duw yn eu cyfarfodydd.

 

Trefniadau ein cyfarfodydd sydd fel y canlyn: y mae cwrdd pregethg bob bore Sabboth, ysgol am ddau; cwrdd gweddi a society bob yn ail wythnos; cwrdd gweddi y chwiorydd bob yn ail nos Fawrth. Mae yn rhaid tynu tua therfynu, gan ddymuno llwyddiant i chwi a'r Cenhadwr. Wyf yn dychwelyd fy niolchgarwch i chwi am fy anrhegu â'r Dyngarwr.

 

DANIEL JONES. Bradford. Mehefin 23, 1843.



None

(delwedd 4906)
 

 

...

Sumbolau:  ā ǣ ē ī ō ū / ˡ ɑ æ ɛ ɪ ɔ ʊ ə ɑˑ eˑ iˑ oˑ uˑ ɑː æː eː iː oː uː / ɥ  / ð ɬ ŋ ʃ ʧ θ ʒ ʤ / aɪ ɔɪ əɪ ɪʊ aʊ ɛʊ əʊ / ә ʌ ŵ ŷ ẃ ŵŷ ẃỳ  ă ĕ ĭ ŏ ŭ ẁ ẃ ẅ Ẁ £

---------------------------------------

Y TUDALEN HWN: www.kimkat.org/amryw/1_alltudiaeth/america_pennsylvania_0096k.htm

---------------------------------------

Creuwyd: 11-04-2017

Adolygiad diweddaraf : 11-04-2017

Delweddau: 

---------------------------------------

Ble'r wyf i? Yr ych chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Wefan CYMRU-CATALONIA
On sóc? Esteu visitant una pàgina de la Web CYMRU-CATALONIA (= Gal·les-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the CYMRU-CATALONIA (= Wales-Catalonia) Website
Weə-r äm ai? Yüu äa-r víziting ə peij fröm dhə CYMRU-CATALONIA (= Weilz-Katəlóuniə) Wébsait

 

 

 

____________________________________

Adolygiad Diweddaraf / Latest Update: 2004-03-04, 2007-04-16

 

kimkat.org/amryw//america_y_cymry_yn_america_pennsylvania_0096k.htm

Ble'r wÿf i? Yr ÿch chi'n ymwéld ag un o dudalennau'r Gwefan "CYMRU-CATALONIA"
On sóc? Esteu visitant una pàgina of the Web "CYMRU-CATALONIA" (= Galles-Catalunya)
Where am I? You are visiting a page from the "CYMRU-CATALONIA" (= Wales-Catalonia) Website
Weø(r) àm ai? Yùu àa(r) víziting ø peij fròm dhø "CYMRU-CATALONIA" (= Weilz-Katølóuniø) Wébsait

 
DIWEDD